Datganiad preifatrwydd Expand Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd a chydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Dim ond yn unol â deddfwriaeth diogelu data sy'n gymwys i Gymru a Lloegr y byddwn yn defnyddio eich data personol. Gall telerau'r hysbysiad preifatrwydd hwn newid, felly dylech ei ddarllen o bryd i'w gilydd. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn trin eich data personol, byddwn yn egluro hyn ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu drwy gysylltu â chi'n uniongyrchol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham rydym yn casglu eich data personol a'r ffordd y caiff eu defnyddio. Mae hefyd yn nodi gwybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch. Rydym yn defnyddio technolegau priodol i ddiogelu eich data personol a chynnal safonau diogelwch llym ac rydym yn archwilio'r ffordd rydym yn casglu, yn storio ac yn defnyddio data personol yn rheolaidd. Rydym yn parchu eich preifatrwydd a'r ymddiriedaeth rydych wedi'i dangos drwy rannu eich data personol â ni. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon. Noder nad yw Ambiwlans Awyr Cymru yn ‘awdurdod cyhoeddus’ fel y'i diffinnir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac, felly, nid ydym yn ymateb i geisiadau am wybodaeth a wneir o dan y ddeddf honno.
Beth yw data personol? Expand Fel arfer, data personol yw unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac unrhyw wybodaeth am unigolyn adnabyddadwy neu sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy. Gall hyn gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost neu ddata lleoliad o ddyfeisiau electronig (megis ffonau symudol neu gyfeiriadau IP) ond nid yw'n gyfyngedig iddynt. Mae data personol ‘categori arbennig’ yn ymwneud â gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu gredoau tebyg, aelodaeth o undeb llafur, cyflyrau corfforol neu gyflyrau iechyd meddwl, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, a data biometrig neu enetig. Dylai data personol sy'n ymwneud â throseddau ac euogfarnau troseddol hefyd gael eu trin fel data personol categori arbennig.
Ein Hymagwedd at breifatrydd Expand Pan fyddwn yn defnyddio eich data personol, byddwn yn gweithredu fel rheolydd data. Yn y bôn, golyga hyn y byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch y ffordd rydym am ddefnyddio eich data personol a pham. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall ein hysbysiad preifatrwydd llawn, ond dyma grynodeb byr o'r prif reolau sy'n gymwys i ni pan fyddwn yn defnyddio eich data personol i’ch helpu i ddeall yr hanfodion: Rhaid i ni fod yn agored am y ffordd rydym yn bwriadu defnyddio eich data personol a rhaid i ni ddefnyddio eich data personol yn deg. Mae rhoi gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion (megis yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn) yn un agwedd ar ddefnyddio eich data personol yn deg. Dim ond os bydd gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan ddeddfwriaeth diogelu data y dylem ddefnyddio eich data personol. Mae'r seiliau cyfreithiol hyn yn cynnwys: Eich bod wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol; Bod angen i ni ddefnyddio eich data personol i gyflawni contract rhyngom (neu gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract); Bod gennym ni (neu rywun arall) reswm dilys pam mae angen i ni ddefnyddio eich data personol ac nad yw eich hawliau na'ch buddiannau chi yn drech na'r buddiannau dilys hynny. Rhaid i ni gydbwyso ein priod hawliau a buddiannau cyn i ni allu dibynnu ar y sail gyfreithiol hon. · Dim ond os gallwn hefyd fodloni un o'r amodau ar gyfer prosesu'r math hwn o wybodaeth a nodir mewn deddfwriaeth diogelu data y dylem ddefnyddio mathau penodol o ddata personol categori arbennig (megis gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch iechyd, eich tarddiad hiliol neu ethnig neu'ch crefydd). Mae'r amodau hyn yn cynnwys: o Eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni ddefnyddio'r data personol; o Bod angen prosesu'r data am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol y cyhoedd; o Bod angen prosesu'r data er mwyn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth ac arfer hawliau penodol o dan gyfraith cyflogaeth; o Bod angen prosesu'r data er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Dim ond o dan amgylchiadau penodol ac os cymerwn gamau i sicrhau y bydd eich data personol yn ddiogel y caniateir i ni rannu eich data personol ag eraill. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd parti. Yn gyffredinol, dim ond at y dibenion penodol rydym wedi'ch hysbysu amdanynt y dylem ddefnyddio eich data personol. Os byddwn am ddefnyddio eich data personol at ddibenion eraill, bydd angen i ni gysylltu â chi eto i'ch hysbysu am hyn. Rhaid i ni beidio â chadw mwy o ddata personol nag sydd eu hangen arnom at y dibenion rydym wedi'ch hysbysu amdanynt a rhaid i ni beidio â chadw eich data personol am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol at y dibenion hynny (cyfeirir at hyn fel y “cyfnod cadw”). Rhaid i ni hefyd waredu unrhyw ddata personol nad oes eu hangen arnom mwyach yn ddiogel. Rhaid i ni sicrhau bod gennym fesurau diogelwch priodol ar waith er mwyn diogelu eich data personol. Rydym yn defnyddio gweinydd diogel i brosesu a storio eich data personol. Gallwn hefyd defnyddio darparwyr gwasanaeth allanol megis systemau cwmwl. Gall darparwyr gwasanaethau a ddefnyddir gennym fod wedi'u lleoli y tu mewn neu'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (‘AEE’). Rhaid i unrhyw ddarparwr gwasanaeth a ddefnyddir gennym gydymffurfio â deddfau diogelu data'r DU. Mae diogelwch eich data personol yn bwysig i ni ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith a diogelu data personol. Rhaid i ni beidio â throsglwyddo eich data personol y tu allan i'r AEE oni fydd mesurau diogelwch penodol ar waith. Rhaid i ni weithredu'n unol â'ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. O dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, mae gennych hawliau dros y data personol sydd gennym amdanoch. Gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd i arfer eich hawliau o ran data neu newid eich dewisiadau, drwy anfon neges e-bost i [email protected] neu drwy ysgrifennu at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.
Data personal a gesglir gennym a'r ffordd rydym yn eu defnyddio Expand Bydd y ffordd y byddwn yn defnyddio eich data personol, y seiliau cyfreithiol y byddwn yn dibynnu arnynt, am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol a manylion eraill yn dibynnu ar bwy ydych a pham mae angen eich data personol arnom yn y lle cyntaf. Yn yr adran hon, rydym yn darparu gwybodaeth benodol am breifatrwydd sy'n ymwneud â'r gwahanol gategorïau o unigolion y mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gymwys iddynt. Ymholiadau a gawn gennych Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad, byddwn yn casglu gwybodaeth, gan gynnwys eich data personol, er mwyn i ni allu ymateb iddo ac ymdrin â'ch cais. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt er mwyn ymateb i'ch ymholiad yw: Ein buddiant dilys wrth helpu gyda'ch ymholiad Ein buddiant dilys wrth wella ein busnes a hyfforddi ein staff. Os bydd eich ymholiad yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os bydd angen prosesu'r wybodaeth honno am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol y cyhoedd neu, os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol i ni, o dan erthygl 9(2) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y byddwn yn gwneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Mae angen i ni gael digon o wybodaeth gennych er mwyn ateb eich ymholiad. Rydym yn defnyddio gwybodaeth o ffurflenni gwe, negeseuon e-bost, post a llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth a drosglwyddwyd dros y ffôn i anfon gwybodaeth neu ddeunyddiau rydych wedi gofyn amdani/amdanynt atoch. Fel arfer, bydd angen i ni gael eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y byddwn yn gwneud nodiadau er mwyn darparu gwasanaeth pellach i chi yn ôl y gofyn. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu'r post, bydd angen cyfeiriad dychwelyd arnom er mwyn i ni allu ymateb. Cedwir ymholiadau cyffredinol am hyd at flwyddyn ar ôl i'r achos gael ei gau. Cedwir cwynion am hyd at 3 blynedd ar ôl i'r achos gael ei gau. Cedwir ymholiadau sy'n ymwneud â cheisiadau o dan hawliau i weld data am hyd at 6 blynedd. Efallai y cedwir ymholiadau a chwynion sy'n ymwneud â chofnodion o weithgarwch codi arian neu roddion neu gofnodion y loteri, am fwy o amser. Gweler yr adrannau perthnasol isod am ragor o wybodaeth. Recordiadau o alwadau a chyfarfodydd Diben prosesu recordiadau o alwadau a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn recordio galwadau telegynadledda a chyfarfodydd/digwyddiadau rhithwir gan ddefnyddio'r feddalwedd a'r systemau cwmwl sydd ar gael ar ein dyfeisiau. Gwneir hyn at un o'r dibenion canlynol: Darparu cofnod manwl gywir o alwad neu gyfarfod a drefnwyd er mwyn trawsgrifio'r cofnodion yn gywir. Cyhoeddi gweminar fel rhan o weithgareddau cyhoeddusrwydd neu weithgareddau codi arian. Mae gweminar yn seminar neu'n gyflwyniad arall a gynhelir ar y rhyngrwyd, sy'n galluogi cyfranogwyr mewn lleoliadau gwahanol i weld a chlywed y cyflwynydd, gofyn cwestiynau ac, weithiau, ateb arolygon. At ddibenion gweminar, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys rydym yn dibynnu arnynt yw codi ymwybyddiaeth o'r elusen a'i gweithgareddau er mwyn sicrhau'r gefnogaeth a'r incwm mwyaf posibl. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i recordio telegynadleddau a chyfarfodydd rhithwir yw erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu eich rhif ffôn cyn i'r alwad neu'r cyfarfod ddechrau. Lle bo angen caniatâd, byddwn yn gofyn amdano yn ysgrifenedig, naill ai drwy'r manylion cyswllt rydych wedi'u darparu neu drwy ddatganiad ticio blwch ar ddechrau cyfarfod/digwyddiad rhithwir; ni fydd galwad na chyfarfod yn cael ei recordio oni chawn ganiatâd penodol gan bob cyfranogwr. Yn achos gweminar a hyrwyddir, byddwn yn eich hysbysu ymlaen llaw ein bod yn bwriadu recordio a chyhoeddi'r digwyddiad. Lle bo angen caniatâd, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd caniatâd a roddwyd yn flaenorol ar gyfer unrhyw recordiadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Caiff unrhyw gyfranogiad gennych yn y delegynhadledd neu'r cyfarfod/digwyddiad rhithwir ei recordio dros gyfnod y gweithgaredd. Gall hyn gynnwys eich enw defnyddiwr, mewnbwn sain a fideo a dogfennau a mynediad i'ch sgrin a rennir o'ch dyfais. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn darllen polisi preifatrwydd gwefannau cyfarfodydd rhithwir cyn rhannu data a defnyddio eu gosodiadau preifatrwydd a'u systemau adrodd i reoli'r ffordd y caiff eich data eu defnyddio. Cedwir recordiadau at ddibenion trawsgrifio am hyd at 6 mis o ddyddiad y recordiad. Cedwir gweminarau a gyhoeddir gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru am gyfnod amhenodol. Rhoddion Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn rhoi rhodd i ni, p'un a wnewch hynny ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, fel rhodd untro neu fel aelod sy'n rhoi'n rheolaidd, byddwn yn casglu gwybodaeth, gan gynnwys eich data personol, er mwyn i ni allu prosesu eich rhodd ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt i brosesu eich rhodd a chael unrhyw ad-daliadau treth yw bod angen i ni wneud y defnydd gorau posibl o'r rhoddion a gawn er mwyn i ni allu cyflawni ein dibenion elusennol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ac ariannol gydag unrhyw roddion a rowch. Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn credyd neu gyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol). Efallai y byddwn yn casglu manylion am eich statws treth hefyd. Defnyddir manylion cyswllt, gwybodaeth ariannol a statws treth i brosesu'r rhodd ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Cedwir gwybodaeth ariannol a gesglir yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn prosesu'r rhodd a chadarnhau y gallwn adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Cedwir cofnodion Cymorth Rhodd a rhoddion am o leiaf 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn rhoi rhodd i ni, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Tanysgrifiadau i'r Loteri Achub Bywydau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Wrth danysgrifio i fod yn aelod o'n Loteri Achub Bywydau, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ac ariannol er mwyn i ni allu cwblhau'r broses danysgrifio, gweinyddu eich aelodaeth a chysylltu â chi os byddwch wedi ennill gwobr neu os bydd problem gyda'ch tanysgrifiad. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn debyd neu gyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol). Defnyddir y rhain i gwblhau'r broses danysgrifio a phrosesu taliadau. Defnyddir eich manylion cysywllt hefyd i weinyddu eich aelodaeth a'ch hysbysu os byddwch wedi ennill gwobr. Cedwir gwybodaeth ariannol a gesglir yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn cwblhau'r broses danysgrifio, trafod eich aelodaeth ac ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Cedwir cofnodion aelodaeth o'r loteri am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn dod yn aelod o'r Loteri Achub Bywydau, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Archebu nwyddau ar-lein Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn prynu nwyddau ar-lein, bydd angen i chi roi eich data personol i ni er mwyn i ni allu prosesu'r archeb, cymryd taliad a danfon y cynhyrchion rydych wedi'u prynu. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, cyfeiriad post, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn credyd). Mae angen manylion eich cerdyn arnom er mwyn i ni allu cymryd taliad. Cedwir y wybodaeth hon yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn prosesu eich archeb neu os bydd gennym unrhyw gwestiynau am eich archeb. Mae angen eich cyfeiriad arnom er mwyn i ni ddanfon y cynhyrchion rydych wedi'u prynu. Cedwir cofnodion archebion ar-lein am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn archebu nwyddau ar-lein oddi wrthym, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Gwasanaeth dosbarthu a chasglu Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn cysylltu â ni er mwyn gwneud trefniadau i nwyddau nad ydych eu heisiau gael eu casglu ar gyfer ein siopau elusennol, neu pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth dosbarthu ar gyfer dodrefn neu eitemau mawr eraill a brynir yn ein siopau, byddwn yn casglu eich data personol er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano. Os byddwch yn cofrestru â'n cynllun Cymorth Rhodd drwy werthu nwyddau nad ydych eu heisiau arnoch, byddwn hefyd yn prosesu eich data personol er mwyn adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer casgliadau a Chymorth Rhodd yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw: Ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso'r broses o roi nwyddau ar gyfer ein siopau, Wrth werthu unrhyw nwyddau a roddwyd i ni, lle y bo'n bosibl, sicrhau'r incwm mwyaf posibl drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn er mwyn i ni allu nodi lleoliad eich safle a chysylltu â chi os bydd angen i ni wneud hynny mewn perthynas â'ch dosbarthiad neu'ch casgliad. Cymerir taliad am y gwasanaeth dosbarthu yn ein siopau pan fyddwch yn prynu'r nwyddau. Efallai y byddwn yn casglu manylion am eich statws treth hefyd. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth dosbarthu neu gasglu, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Cedwir cofnodion Cymorth Rhodd am o leiaf 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Cedwir data personol a ddefnyddir ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu a chasglu am hyd at 3 blynedd o'r weithred ddiwethaf. Codi Arian Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Rydym yn ddiolchgar am unrhyw weithgareddau codi arian rydych yn dewis eu cynnal er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Pan fyddwch yn cysylltu â ni i gael gwybodaeth am sut i godi arian, byddwn yn gofyn am eich enw a'ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu rhoi'r wybodaeth i chi, ateb eich ymholiadau a rhoi cymorth cyffredinol ar gyfer eich gweithgaredd codi arian. Weithiau pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian penodol, bydd angen manylion cyswllt brys arnom hefyd. Wrth dalu'r arian rydych wedi'i godi i mewn, yn dibynnu ar y dull y byddwch yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i ni brosesu eich manylion banc neu gerdyn credyd er mwyn i chi allu talu'r arian a godwyd i ni. Os byddwch yn defnyddio ffurflen noddwyr i gadw cofnod o'r arian a godwyd, byddwn hefyd yn prosesu enwau, manylion cyswllt a statws treth eich noddwyr er mwyn prosesu taliadau ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd ar roddion cymwys. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol chi a data personol pobl sy'n eich noddi yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw: ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso gweithgareddau codi arian prosesu rhoddion a chynyddu gwerth rhoddion drwy Gymorth Rhodd, lle y bo'n gymwys. Os bydd eich ymholiad yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol y byddwn yn prosesu'r wybodaeth honno. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad post er mwyn cynnig a chydgysylltu unrhyw gymorth, ceisiadau neu ymholiadau sydd gennych tra byddwch yn codi arian gyda ni ac anfon unrhyw ddeunyddiau a all helpu gyda'ch gweithgaredd codi arian atoch. Pan fyddwn yn gofyn am fanylion cyswllt brys, mae angen y wybodaeth hon arnom at ddibenion iechyd a diogelwch. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth am gyflyrau iechyd nac yn asesu eich addasrwydd i gymryd rhan mewn digwyddiad. Pan fyddwch yn defnyddio ffurflen noddi, bydd angen enwau, cyfeiriadau a statws treth y noddwyr arnom er mwyn i ni allu adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Pan fyddwch yn defnyddio trosglwyddiad banc neu gerdyn credyd/debyd i dalu'r arian rydych wedi'i godi i ni, bydd angen eich manylion banc neu gerdyn credyd arnom er mwyn i ni allu prosesu’r taliad. Cedwir y wybodaeth hon yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Cedwir data personol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau codi arian am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Mae sawl ffordd wahanol y gallwch roi arian i ni ac os byddwch yn penderfynu gwneud hynny drwy JustGiving, Facebook neu unrhyw lwyfan rhoi ar-lein arall, caiff unrhyw ddata personol a brosesir eu prosesu o dan delerau'r llwyfan rhoi neu gyfrwng cymdeithasol ar-lein perthnasol. Pobl eraill, nid ni, sy'n rheoli'r llwyfannau hyn ac, felly, dylech ddarllen telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y sefydliadau eraill hyn. Drwy wneud hynny, byddwch yn deall sut y byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth amdanoch y byddant yn eu cyhoeddi a'r hyn y gallwch ei wneud os na fyddwch yn fodlon ar hynny. Pan fyddwch yn codi arian i ni, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Sicrhau arian grant: Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymchwilio i gyfleoedd i sicrhau arian grant sy'n berthnasol i ni, a all gynnwys cael enwau a manylion cyswllt Ymddiriedolwyr, swyddogion grant, ysgrifenyddion neu bersonau eraill sy'n chwarae rhan weithredol yn yr Ymddiriedolaeth neu'r Sefydliad (gan gynnwys gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd). Defnyddir y data personol hyn er mwyn i ni allu cysylltu â chi i wneud unrhyw ymholiadau ynghylch grant a'r broses gwneud cais. Ni fyddwn yn cynnal ymarfer sgrinio cyfoeth na phroffilio ar gyfer unigolion â gwerth net uchel. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso'r broses o sicrhau arian grant y gallwn fod yn gymwys i'w gael. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu manylion cyswllt y person(au) perthnasol sy'n rhan o'r Ymddiriedolaeth neu'r Sefydliad, er mwyn i ni allu cysylltu â chi ynghylch y grant Mae hyn yn cynnwys enw(au), cyfeiriad(au) e-bost, cyfeiriad post a rhif(au) ffôn. Cedwir y wybodaeth hon naill ai am gyfnod amhenodol os bydd y manylion yn dal i fod yn gywir a'n bod yn parhau i gysylltu â chi ynghylch cyfleoedd grant, neu am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Cyhoeddusrwydd – Straeon am godi arian neu straeon cleifion Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Mae codi ymwybyddiaeth o'n gweithgarwch elusennol cyhoeddus, er mwyn ennyn diddordeb yn Ambiwlans Awyr Cymru a chefnogaeth iddo, yn rhan bwysig o'r hyn rydym yn ei wneud. Gall hyn gynnwys rhannu straeon ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan, yn y wasg neu mewn llenyddiaeth a gynhyrchir gennym. Rydym bob amser yn ddiolchgar i gefnogwyr sy'n cysylltu â ni neu sy'n cytuno i rannu eu stori. Os byddwch yn cytuno i rannu eich stori, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir gennych (o ffurflenni gwe, negeseuon e-bost, post a'r cyfryngau cymdeithasol a dros y ffôn, er enghraifft) i greu cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth o'n gwaith gyda'ch caniatâd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Os bydd eich stori yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol y byddwn yn prosesu'r wybodaeth honno. Os bydd y wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â phlentyn o dan 18 oed, byddwn yn gofyn am ganiatâd unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Gofynnir i rieni/gwarcheidwaid ac unigolion sy'n 18 oed neu drosodd gwblhau ffurflen gydsynio neu ddarparu math arall o ganiatâd ysgrifenedig i brosesu'r wybodaeth. Os byddwn eisoes mewn cysylltiad â chi ynghylch rhodd, tanysgrifiad i'r loteri, codi arian neu weithgarwch gwirfoddol, efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ofyn i chi a fyddai diddordeb gennych mewn rhannu eich stori. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn gysylltu â chi ynghylch cyfleoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol ai peidio. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Bydd angen eich enw a'ch manylion cyswllt arnom er mwyn cysylltu â chi ynghylch eich stori a manylion eich gweithgaredd, neu'r digwyddiad pan roedd angen ein cymorth arnoch, ynghyd â gwybodaeth am eich profiad o'r gwasanaeth a ddarperir gennym ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd caniatâd a roddwyd yn flaenorol ar gyfer eitemau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Byddwn yn cadw eich data personol nes i chi ein hysbysu nad ydych am i ni ddefnyddio'r wybodaeth at ddibenion cyhoeddusrwydd mwyach, neu os na fydd yr astudiaeth achos wedi'i defnyddio ers dros 5 mlynedd. Os bydd eich cofnodion hefyd yn ymwneud â rhoddion, tanysgrifiadau i'r Loteri neu weithgarwch gwirfoddol, efallai y byddwn yn cadw rhywfaint o'ch manylion am fwy o amser (gweler yr adrannau perthnasol o'n hysbysiad preifatrwydd). Cedwir mynegai o'r cofnod a ddilëwyd, ffurflen gydsynio wedi'i golygu a'r datganiad gwreiddiol i'r wasg am gyfnod amhenodol. Fel rhan o'r broses o dynnu caniatâd ôl, gofynnir i unigolion a hoffent i dystebau digidol sydd o dan reolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gael eu dileu; er enghraifft, ar ein gwefan. Gwneud cais am swydd neu rôl wirfoddol Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Diben prosesu'r wybodaeth hon yw asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani a'n helpu i ddatblygu a gwella ein prosesau recriwtio. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ymwneud â gwaith prosesu sydd angen ei wneud er mwyn cyflawni contract neu gymryd camau ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract. Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni am addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw Erthygl 6(1)(c) i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ymwneud â'n rhwymedigaethau mewn perthynas â chyflogaeth a diogelu eich hawliau sylfaenol. Rydym yn prosesu gwybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau ymgeiswyr. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu'r data hyn yw Erthygl 6(1)(c) i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. At hynny, rydym yn dibynnu ar yr amod prosesu o dan Erthygl 9(2)(b) lle mae'r gwaith prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth, cyfraith nawdd cymdeithasol a chyfraith amddiffyniadau cymdeithasol a/neu Erthygl 9(2)(g) lle mae'r gwaith prosesu yn angenrheidiol am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol y cyhoedd, sef, atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon, diogelu'r cyhoedd rhag anonestrwydd, atal twyll neu derfysgaeth neu achosion o wyngalchu arian a amheuir. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych yn ystod y broses recriwtio i brosesu eich cais gyda'r bwriad o gynnig contract cyflogaeth neu rôl wirfoddoli gyda ni i chi, neu er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol os bydd angen. Byddwn yn defnyddio eich enw a'ch manylion cyswllt i ohebu â chi fel rhan o'r broses. Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni am addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon at ddibenion marchnata. Byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a roddwch i ni i gysylltu â chi er mwyn prosesu eich cais. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi er mwyn gofyn am eich adborth ar ein proses recriwtio. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth arall a ddarperir gennych i asesu eich addasrwydd gyfer y rôl. Dim ond os bydd yn briodol gwneud hynny o ystyried natur y rôl ac os gallwn wneud hynny'n gyfreithiol, y byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol. Lle y bo'n briodol, byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol fel rhan o'r broses recriwtio. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelu data a phreifatrwydd, dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom mewn gwirionedd i gyflawni'r dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer yn y lle cyntaf y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.Yn y rhan fwyaf o achosion, golyga hyn y caiff gwybodaeth a gesglir fel rhan o'r ymarfer recriwtio ei chadw fel arfer am hyd at 6 mis ar ôl i'r ymarfer recriwtio gael ei gwblhau. Yn achos ymgeisydd llwyddiannus, trosglwyddir gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gyflogaeth neu'r gydberthynas wirfoddoli barhaus i gofnod personél y cyflogai/gwirfoddolwr ac fe'i cedwir yn unol â'r cyfnodau sy'n gymwys i gyflogeion a gwirfoddolwyr. Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a dashgamerâu Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Rydym yn defnyddio deunydd Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) y tu allan neu'r tu mewn i'n hadeiladau a dashgamerâu ar y cerbydau a ddefnyddir gennym ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu a chasglu manwerthol. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu am resymau diogelwch a/neu at ddibenion yswiriant neu ddibenion cyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw diogelu ein heiddo, ein staff a'n hymwelwyr a, lle y bo angen, helpu i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn prosesu delweddau CCTV a deunydd dashgamerâu er mwyn atal troseddu a diogelu adeiladau ac asedau rhag cael eu difrodi, er mwyn sicrhau diogelwch personol staff, ymwelwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Fel arfer, caiff recordiadau CCTV eu dileu ar ôl tua 28 diwrnod a chaiff deunydd dashgamerâu ei drosysgrifo ar ôl diwrnod, oni fydd rhywbeth wedi digwydd a bod angen cadw'r deunydd CCTV neu dashgamera am fwy o amser er mwyn helpu i ymchwilio i'r digwyddiad. Gwefan Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, caiff data personol amdanoch ei chasglu a'i defnyddio er mwyn cynnal a monitro perfformiad ein gwefan a'n galluogi i wella ein gwefan yn barhaus. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw sicrhau bod ein gwefan yn gyfredol, yn effeithlon ac yn hawdd i'w defnyddio. Mae ein gwefan yn cynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd partïon a manylion y gwefannau hynny. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros bolisïau nac arferion preifatrwydd trydydd partïon ac nid ydym yn gyfrifol amdanynt. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolyddion Adnoddau Unffurf (“URL”) llawn, y ffrwd glicio i'n gwefan, drwyddi ac ohoni (gan gynnwys dyddiad ac amser), amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd yr ymweliad â thudalennau penodol a'r dulliau a ddefnyddiwyd i bori i ffwrdd oddi wrth y dudalen. Caiff rhywfaint o'r wybodaeth ei chasglu gennym bob tro y byddwch yn defnyddio ein gwefan drwy ein defnydd o gwcis. Ceir rhagor o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio ac at ba ddibenion rydym yn eu defnyddio yn yr adran ar Ddefnyddio Cwcis isod. Pan fyddwch yn anfon data personol atom drwy'r wefan, er enghraifft wrth ymuno â'n loteri, rhoi rhodd neu archebu nwyddau, caiff eich data personol eu prosesu drwy system rheoli cynnwys ein gwefan (CMS) ac fe'u cedwir am hyd at 7 mlynedd yn unol â'r adrannau perthnasol uchod. Gweler y rhan berthnasol o Adran 3 ar y data personol a gesglir gennym ac Adran 6 ar rannu eich gwybodaeth â darparwyr gwasanaeth. Cyfryngau cymdeithasol Rydym yn gweithredu nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys, ymhlith eraill, Facebook, Twitter, YouTube ac Instagram. Yn dibynnu ar eich gosodiadau neu bolisïau preifatrwydd pob gwefan cyfryngau cymdeithasol neu wasanaeth negeseua, efallai y byddwch yn rhoi caniatâd i ni weld data personol o'r gwasanaethau hynny. Er enghraifft, pan fyddwch yn anfon neges atom, yn ein tagio mewn ffotograff o ddigwyddiad neu'n rhoi rhodd. Er bod y polisi hwn yn ymdrin â'r ffordd y byddwn yn defnyddio unrhyw ddata a gesglir gan y gwefannau cyfryngau cymdeithasol hyn, nid yw'n ymdrin â'r ffordd y bydd darparwyr gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio eich gwybodaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen polisi preifatrwydd gwefannau cyfryngau cymdeithasol cyn rhannu data a defnyddio eu gosodiadau preifatrwydd a'u systemau adrodd i reoli'r ffordd y caiff eich data eu defnyddio. Proffilio eich diddordebau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Nid yw Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio data personol i wneud penderfyniadau unigol awtomataidd (gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio dulliau awtomataidd yn unig heb gyfranogiad pobl). Nid ydym yn defnyddio data personol i gynnal ymarferion sgrinio cyfoeth na pharu data. Nid ydym yn prynu nac yn gwerthu data. Mewn rhai amgylchiadau penodol, efallai y byddwn yn defnyddio data personol rhai cefnogwyr i gynnal math o ymarfer proffilio (prosesu data personol er mwy gwerthuso pethau penodol am unigolyn) at ddibenion marchnata uniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn defnyddio data personol cefnogwyr sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad rhedeg i anfon gwybodaeth atynt am ddigwyddiad rhedeg a fydd yn cael ei gynnal yn y dyfodol, a allai fod o ddiddordeb iddynt. Dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny y byddwn yn anfon newyddion a diweddariadau atoch. Nid ydym yn defnyddio data categori arbennig (megis gwybodaeth am iechyd, credoau crefyddol neu wleidyddol, tarddiad hiliol neu ethnig) mewn ymarferion proffilio. Nid ydym yn cynnal ymarferion proffil gan ddefnyddio data personol unrhyw un o dan 18 oed. Nid ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch sydd gael i'r cyhoedd, asiantaethau proffilio defnyddwyr proffesiynol na chronfeydd data ar-lein: dim ond gwybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni yn uniongyrchol y byddwn yn ei chofnodi. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer ymarferion proffilio sy'n seiliedig ar ddiddordebau yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw codi arian i'r elusen drwy hwyluso gweithgareddau codi arian drwy ddigwyddiadau a gohebiaeth wedi'u teilwra, y mae cefnogwyr penodol wedi gofyn am ddiweddariadau arnynt. At hynny, dim ond ar gofnodion unigolion sydd wedi rhoi caniatâd penodol i ni anfon newyddion a diweddariadau atynt y byddwn yn cynnal ymarferion proffilio sy'n seiliedig ar ddiddordebau. Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ein bod wedi cael caniatâd i wneud hyn, yr ymdrinnir â hi yn adran 3.16 ar farchnata uniongyrchol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Pan fyddwch yn ymgymryd â gweithgaredd megis codi arian i ni, caiff y math o weithgaredd ei gofnodi ochr yn ochr â'ch data personol eraill (enw, manylion cyswllt a gwybodaeth rydych yn ei rhannu â ni am y ffordd rydych yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru). Byddwn yn cofnodi a yw'r gweithgaredd yn ymwneud ag eitem newyddion wedi'i theilwra a ddarperir gennym, megis digwyddiadau rhedeg sydd ar fin cael eu cynnal, ac a ydych wedi rhoi caniatâd i ni anfon newyddion a diweddariadau atoch. Dim ond pan fodlonir y meini prawf uchod y byddwn yn ystyried defnyddio eich data personol i gynhyrchu proffiliau sy'n seiliedig ar ddiddordebau ar gyfer newyddion a diweddariadau wedi'u teilwra. Cedwir cofnodion o weithgarwch codi arian am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Am ragor o wybodaeth gweler yr adrannau ar godi arian a marchnata uniongyrchol yn Adran 3. Cofrestru i gael cylchlythyr neu ddiweddariadau (marchnata uniongyrchol) Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Os byddwch yn cofrestru i gael cylchlythyrau neu ddiweddariadau gennym, byddwn yn gofyn i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu anfon y cylchlythyrau neu'r diweddariadau rydych wedi gofyn amdanynt atoch. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Caiff dewisiadau o ran marchnata uniongyrchol eu cofnodi'n fanwl iawn. Golyga hyn ein bod yn cadw cofnod o'r dulliau rydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni eu defnyddio i anfon newyddion a diweddariadau atoch (er enghraifft, drwy e-bost yn unig). Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu'ch cyfeiriad post a/neu eich rhif ffôn, a'ch dewisiadau o ran y ffordd rydym am i ni gyfathrebu â chi, er mwyn i ni allu prosesu eich cais ac anfon y cylchlythyrau neu'r diweddariadau rydych wedi gofyn amdanynt atoch. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o bynciau penodol y gall fod gennych ddiddordeb ynddynt, megis digwyddiadau rhedeg, ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau ynghylch y math o newyddion a diweddariadau y byddwn yn eu hanfon atoch (gweler Adran 3.15 ar Broffilio). Byddwn yn cadw eich data personol nes i chi ein hysbysu nad ydych am dderbyn cylchlythyrau na diweddariadau gennym mwyach. Os bydd eich data personol yn rhan o gofnod o weithgarwch codi arian neu roddion, efallai y byddwn yn cadw eich data personol am fwy o amser ond ni fydd y cofnod yn nodi mwyach eich bod wedi rhoi caniatâd i ni anfon newyddion a diweddariadau atoch. Cyfyngiadau ar farchnata uniongyrchol (cofnod o wrthwynebiad) Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Gallwch wrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol gennym unrhyw bryd. Pan fyddwch yn gwrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol, gelwir y data personol a gawn gennych chi neu asiantaeth ar eich rhan (megis Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian neu Wasanaeth Dewisiadau Ffôn) yn Gofnod Cyfyngedig ('Supression Record'). Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich cyfyngiadau ar ddata personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw sicrhau na fyddwn yn anfon gohebiaeth marchnata megis newyddion a diweddariadau atoch pan fyddwch wedi arfer eich hawl i wrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Cedwir cofnodion cyfyngedig am gyfnod amhenodol er mwyn sicrhau na fyddwn yn anfon gohebiaeth farchnata uniongyrchol atoch. Mae angen i ni gadw digon o ddata personol er mwyn i ni allu nodi eich cofnod cyfyngedig yn gywir. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu'ch cyfeiriad post a/neu’ch rhif ffôn. Cofnodion Iechyd a Diogelwch a diogelu ymwelwyr Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn cadw cofnod o ymwelwyr â'i safleoedd. Cofnodir enwau ymwelwyr, enw eu cwmni, rhif cofrestru eu car a dyddiad ac amser eu hymweliad mewn llyfr ymwelwyr. Rydym hefyd yn cadw cofnod o unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau y rhoddwch wybod i ni amdanynt tra byddwch ar unrhyw un o'n safleoedd. Mae hyn yn cynnwys data personol a roddwch i ni pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad, megis eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad. Cesglir y wybodaeth hon er mwyn i ni allu gwneud y canlynol: Dilyn gweithdrefnau cofnodi digwyddiadau Iechyd a Diogelwch gan gynnwys Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (‘RIDDOR’), Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch 1999 ac unrhyw ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol arall, Dysgu o'n harferion iechyd a diogelwch a'u gwella (caiff adroddiadau eu hanonymeiddio at ddibenion Ansawdd), Cadw cofnodion cywir ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(c) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sef bod angen prosesu'r data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol ac amddiffyniadau cymdeithasol, neu Erthygl 9(2)(f), sy'n ymwneud â phrosesu data at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Ystyr diogelu yw diogelu iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a'u galluogi i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod, sy'n cynnwys diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl rhag niwed sy'n deillio o ddod i gysylltiad â'n cyflogeion, ein gwirfoddolwyr, ein hymddiriedolwyr neu unigolion eraill sy'n gysylltiedig ag Ambiwlans Awyr Cymru. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi gweithdrefnau llym ar waith a sicrhau yr ymdrinnir â chofnodion a materion diogelu y rhoddir gwybod amdanynt yn briodol ac yn unol â Deddf Plant 1989, Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ac unrhyw ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau perthnasol eraill sy'n ymwneud â Diogelu. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol at ddibenion diogelu yw Erthygl 6(1)(c) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn gymwys neu, fel arall, fuddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw diogelu staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau o'r cyhoedd rydym yn ymgysylltu â nhw a diogelu enw da a buddiannau Ambiwlans Awyr Cymru. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sef bod angen prosesu'r data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol ac amddiffyniadau cymdeithasol, neu Erthygl 9(2)(f), sy'n ymwneud â phrosesu data at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Mae'n ofynnol i bob ymwelydd roi ei enw, enw'r cwmni y mae'n gweithio iddo, enw'r unigolyn y mae'n ymweld ag ef a rhif cofrestru ei gar. Rydym yn cadw cofnodlyfrau am hyd at 4 blynedd. Rydym yn casglu eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad neu'r ddamwain, gan gynnwys anafiadau a gafwyd, er mwyn i ni allu cydymffurfio â gweithdrefnau cofnodi digwyddiadau. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnodion o ymholiadau dilynol a nodiadau sy'n ymwneud ag ymchwiliad fel rhan o'r weithdrefn cofnodi digwyddiadau. Cedwir cofnodion sy'n ymwneud â damweiniau a digwyddiadau iechyd a diogelwch am 40 mlynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod. Cedwir cofnodion sy'n ymwneud â digwyddiadau diogelu am hyd at 30 mlynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod.
Cyfrinachedd cleifion Expand Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen annibynnol ac, er ein bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y GIG, nid yw'r elusen yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Golyga hyn nad ydym yn casglu, yn storio nac yn gallu gweld cofnodion meddygol, data galwadau a all enwi cleifion, nac unrhyw ddata personol eraill a gedwir ar weinyddion y GIG. Caiff data clinigol ar gyfer y galwadau rydym yn ymateb iddynt eu rheoleiddio'n ofalus gan GIG Cymru. Dim ond data dienw neu ddata personol cleifion sydd wedi cytuno i rannu eu manylion at ddibenion cyhoeddusrwydd a gaiff eu casglu, eu defnyddio a'u storio gennym. I gael cyngor a gwybodaeth am gofnodion meddygol, anfonwch neges e-bost i [email protected] neu ysgrifennwch at: Cyfrinachol – At sylw EMRTS Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.
Diogewlch Expand Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol ac electronig ar waith er mwyn sicrhau na chaiff data personol o dan ein rheolaeth eu colli, eu camddefnyddio na'u newid. Er na allwn warantu na chaiff data eu colli, eu camddefnyddio na'u newid o dan ein rheolaeth, rydym yn dilyn gweithdrefnau llym ac yn cydymffurfio â'r gyfraith er mwyn diogelu data cymaint â phosibl. Yn anffodus, nid yw'r broses o drosglwyddo data drwy'r rhyngrwyd bob amser yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn gwneud yn ein gorau i ddiogelu eich data personol, dylech gymryd eich camau eich hun er mwyn sicrhau bod eich meddalwedd gwrthfeirws yn gyfredol, y cedwir cyfrineiriau yn gyfrinachol a'ch bod yn dilyn arferion diogel ar-lein. Ni allwn warantu na chaiff data eu colli, eu camddefnyddio na'u newid pan gaiff data eu hanfon atom neu eu trosglwyddo i ni; trosglwyddir unrhyw ddata ar eich menter eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch priodol i geisio at atal unrhyw achosion o fynediad anawdurdodedig, colli damweiniol, dinistrio neu ddifrodi.
Rhannu eich gwybodaeth Expand Efallai y bydd angen i ni drosglwyddo'r data personol sydd gennym amdanoch i unrhyw un o'n safleoedd yn y DU. Weithiau, bydd angen i ni rannu eich data personol ag eraill y tu allan i'n sefydliad. Mae'r adran hon yn nodi manylion y partïon hynny y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am ein sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan ddeddfwriaeth diogelu data a'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddiogelu eich data personol. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon. Ein Partneriaid Gwasanaeth Rydym yn defnyddio partneriaid gwasanaeth a ddewiswyd yn ofalus, megis cludwyr a gwasanaethau dosbarthu eraill, darparwyr gwefannau a TG, darparwyr gwasanaethau cwmwl, asiantaethau postio, marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus a phroseswyr taliadau neu ffurflenni ar-lein. Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid gwasanaeth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn am y byddant yn newid o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'n darparwyr gwasanaethau presennol, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost i [email protected]. Rydym yn defnyddio'r partneriaid gwasanaeth a ddisgrifiwyd uchod i'n galluogi i redeg yr Elusen yn effeithlon ac yn effeithiol, sydd er ein buddiannau dilys. Dim ond â phartneriaid gwasanaeth sydd wedi ein bodloni bod ganddynt y mesurau diogelu data priodol ar waith i ddiogelu eich data personol y byddwn yn rhannu eich data personol. Rydym hefyd yn ymrwymo i gontractau â'r cyfryw bartneriaid gwasanaeth sy'n gosod rhwymedigaethau cytundebol arnynt sy'n ymwneud â diogelu data, gan gynnwys rhwymedigaeth i ddefnyddio eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau yn unig. Trydydd Partïon Eraill Efallai y bydd hefyd angen i ni rannu eich data personol ag eraill o dan yr amgylchiadau canlynol. Os byddwn yn gwerthu, yn trosglwyddo neu'n uno rhannau o'n sefydliad, yn ystod unrhyw broses o'r fath, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i bartïon eraill (megis prynwyr neu fuddsoddwyr posibl). Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn dibynnu ar ein buddiannau busnes dilys. Weithiau, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i sefydliadau megis y llysoedd neu'r heddlu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddynt a/neu atal twyll neu droseddau. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol mewn cysylltiad â chamau y mae angen i ni eu cymryd i ddiogelu ein buddiannau busnes neu ein heiddo neu sicrhau diogelwch personol ein staff neu ymwelwyr â'n safleoedd neu ein gwefannau. Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i'n cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, ein cyfreithwyr a'n cyfrifwyr) mewn cysylltiad â darparu cyngor proffesiynol ganddynt a/neu sefydlu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Efallai y bydd trydydd partïon, rydych wedi rhoi gwybodaeth iddynt, yn rhannu eich data personol â ni. Er enghraifft: trefnwyr digwyddiadau annibynnol a llwyfannau codi arian, megis JustGiving neu VirginMoneyGiving; gwefannau neu asiantaethau recriwtio a gwirfoddoli; a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu ar eich rhan, megis canfaswyr loteri a llwyfannau siopau ar-lein.
Amgylchoadau lle y byddwn yn anfon eich data personol y tu allan i'r ardal economaidd ewropaidd (AEE) Expand Dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y byddwn yn anfon eich data personol y tu allan i'r AEE: Er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; Mae angen gwneud hynny er mwyn cyflawni contract; Rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaethau â gweinyddion sydd wedi'u lleoli mewn gwledydd eraill. Os byddwn yn trosglwyddo eich data personol i wlad y tu allan i'r AEE, byddwn yn defnyddio un o'r mesurau diogelwch hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi'u diogelu: Dim ond i wlad y tu allan i'r AEE y mae'r Comisiwn Ewropeaidd a/neu'r DU wedi penderfynu bod ganddi lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer data personol y byddwn yn eu trosglwyddo. Mae rhagor o wybodaeth am wledydd o'r fath ar gael yn: https://ec.europa.eu/info/law/law-topic/data-protection_en; Byddwn yn rhoi contract ysgrifenedig rhyngom ni a'r derbynnydd ar waith, sy'n cynnwys cymalau enghreifftiol y Comisiwn Ewropeaidd a/neu'r DU sy'n ymwneud â throsglwyddo data personol i wledydd y tu allan i'r AEE. Mae rhagor o wybodaeth am gymalau o'r fath ar gael yn: ICO/international transfers
Eich data a’ch hawliau Expand O dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, mae gennych hawliau dros y data personol sydd gennym amdanoch. Rydym wedi crynhoi'r rhain isod. Os hoffech gysylltu â ni ynghylch eich data a'ch hawliau, anfonwch neges e-bost i [email protected] neu ysgrifennwch at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ. Efallai y bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth a/neu dystiolaeth o bwy ydych. Byddwn yn ceisio ymateb yn llawn i bob cais o fewn mis i dderbyn eich cais. Fodd bynnag, os na allwn wneud hynny, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio'r rhesymau dros yr oedi. Noder bod eithriadau yn gymwys i nifer o'r hawliau hyn ac na fydd pob hawl yn gymwys o dan bob amgylchiad. Am ragor o fanylion gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan reoleiddiwr diogelu data'r DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol). Yr hawl i weld eich data personol Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data personol sydd gennym amdanoch. Mae gennych hefyd hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch a byddwn yn ei roi i chi oni fydd eithriadau cyfreithiol yn gymwys. Os hoffech weld unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch, anfonwch ddisgrifiad o'r wybodaeth rydych am ei gweld drwy e-bost neu'r post gan ddefnyddio manylion cyswllt ein hadran Diogelu Data uchod. Yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir sydd gennym amdanoch Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch. Os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, rhowch fanylion i ni a byddwn yn ymchwilio i'r mater a, lle y bo'n gymwys, yn cywiro unrhyw wallau. Yr hawl i gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol Mae gennych hawl, o dan amgylchiadau penodol (gan gynnwys os byddwch yn amau cywirdeb eich data personol) i ofyn i ni gyfyngu ar y gwaith o brosesu rhywfaint o'ch data personol neu'r cyfan. Yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol Gallwch ofyn i ni ddileu rhywfaint o'ch data personol neu'r cyfan. Mae'r hawl hon yn gymwys o dan amgylchiadau penodol megis pan na fydd angen y data personol arnom mwyach i gyflawni’r dibenion y'u casglwyd ar eu cyfer. Mae gennych hawl i wrthod dileu eich data personol o dan amgylchiadau penodol. Yr hawl i fynnu bod eich data personol yn gludadwy O dan amgylchiadau penodol, os byddwn yn prosesu eich data personol, cewch ofyn i ni eu darparu i chi neu ddarparwr gwasanaeth arall mewn fformat y gellir ei ddarllen gan beiriant. Mae hyn yn cynnwys data sy'n cael eu prosesu yn seiliedig ar eich caniatâd, neu er mwyn llunio neu gyflawni contract â chi, ac mae'r data yn cael eu prosesu drwy ddulliau awtomataidd. Yr hawl i wrthwynebu defnyddio eich data personol Os byddwn yn prosesu eich data personol yn seiliedig ar ein buddiannau dilys, bydd gennych hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data. Os byddwn yn prosesu eich data at ddibenion marchnata uniongyrchol a'ch bod am wrthwynebu hynny, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth at y dibenion hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. Gallwch arfer eich hawl i wrthwynebu drwy anfon neges e-bost neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio manylion cyswllt ein hadran Diogelu Data uchod.
Defnyddio cwcis Expand Beth yw cwcis? Mae cwcis yn ffeiliau testun bach a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â nhw. Fe'u defnyddir yn eang er mwyn sicrhau bod gwefannau yn gweithio, neu'n gweithio'n well, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchenogion gwefan. Er enghraifft, gallant helpu i wneud yn siŵr bod delweddau yn ymddangos yn gywir ar eich dyfais drwy storio gwybodaeth am faint eich porwr neu ddweud wrth weithredwr pa mor dda y mae tudalen we yn perfformio. Mae cwci yn cynnwys ‘cod adnabod’ (llinyn o lythrennau a rhifau). Gall cwcis fod yn gwcis ‘parhaus’ neu'n gwcis ‘sesiwn’. Caiff cwci parhaus ei storio gan borwr gwe a bydd yn parhau'n ddilys hyd at ei ddyddiad dod i ben penodedig neu nes iddo gael ei ddileu gan y defnyddiwr cyn y dyddiad dod i ben. Daw cwci sesiwn i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr pan gaiff y porwr gwe ei gau. Fel arfer, ni fydd cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n enwi defnyddiwr yn bersonol, ond gellir eu cysylltu â data personol eraill sy'n cael eu storio amdanoch. Sut rydym yn defnyddio cwcis a'ch hawliau Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio cwcis ar ei gwefan. Defnyddir y cwcis hyn i wella profiad ein hymwelwyr a meithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y defnyddir ein gwefan a sut mae ein hysbysebion yn perfformio. Er enghraifft, gall cwcis ddweud wrthym a ydych wedi ymweld â'n gwefan o'r blaen neu a ydych yn ymwelydd newydd. Nid yw ein cwcis yn storio gwybodaeth ariannol na gwybodaeth a all eich enwi'n uniongyrchol (megis eich enw a'ch cyfeiriad). Mae gennych yr hawl i ddewis a ydych am dderbyn y cwcis hyn. Gallwch arfer yr hawl hon drwy ddiwygio neu osod y rheolyddion ar eich porwr i adlewyrchu eich dewisiadau o ran cwcis. Fodd bynnag, noder, os byddwch yn gwrthod derbyn cwcis, ei bod yn bosibl na chewch ddefnyddio holl weithrediadau ein gwefan. Am ragor o wybodaeth am gwcis a chanllawiau ar reoli eich cwcis, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol). Cwcis a ddefnyddir gennym Defnyddir y cwcis canlynol ar ein gwefan, fel y'u gosodir gan ddarparwr gwasanaeth ein gwefan. Efallai y caiff y cwcis eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan. Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'n gwefan. Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am y defnydd a wneir o wefannau drwy ddefnyddio cwcis. Gall y data hyn gael eu storio y tu allan i'r UE, wedi'u diogelu gan gymalau enghreifftiol. Defnyddir y wybodaeth a gesglir am ein gwefan i lunio adroddiadau ar y defnydd a wneir o'n gwefan. Gellir darllen polisi preifatrwydd Google yn: https://www.google.com/policies/privacy. Enw'r Cwci Defnyddir gan Disgrifiad Daw i ben __utma Google Analytics Mae'n storio nifer yr ymweliadau gan ddefnyddiwr, amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol a'r ymweliad presennol. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata personol ac fe'i defnyddir at ddibenion dadansoddi yn unig. 2 flynedd o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd __utmz Google Analytics Mae'r cwci perfformiad hwn yn storio o ble y daeth defnyddiwr (e.e. peiriant chwilio, allweddair chwilio, dolen). 6 mis o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd _ga a _gid Google Analytics Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr gwefan yn Google Analytics. 2 flynedd a 2 awr _gat_UA-XXXXXXXX-X (lle y caiff y llythrennau X eu disodli gan rif adnabod Google Analytics) Google Analytics Fe'i defnyddir i gymedroli galwadau i wasanaeth Google Analytics. 1 funud __unam ShareThis Fe'i gosodir fel rhan o wasanaeth ShareThis ac mae'n monitro gweithgarwch "ffrwd clic", e.e. tudalennau gwe yr edrychir arnynt, symud o dudalen i dudalen, faint o amser a dreulir ar bob tudalen ac ati. Dim ond os bydd wedi cofrestru ar wahân â ShareThis ar gyfer cyfrif ShareThis a'i fod wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny y bydd gwasanaeth ShareThis yn enwi defnyddiwr.Mae'n monitro am ba hyd y byddwch yn aros ar wefan: pryd y bydd ymweliad yn dechrau ac yn gorffen. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata personol ac fe'i defnyddir at ddibenion dadansoddi yn unig. 14 mis cc_cookie_accept Y wefan Mae'n storio p'un a yw'r defnyddiwr wedi derbyn neges y cwci ai peidio. 365 diwrnod ASP.NET_SessionId Y wefan Fe'i defnyddir i ddilysu sesiwn defnyddiwr ar ôl iddo fewngofnodi. Mae'n cau pan fyddwch yn gadael y porwr. Diwedd y sesiwn ARRAffinity Y wefan Mae'n dweud wrth ein seilwaith pa weinydd a ddylai ymdrin â'r cais. Diwedd y sesiwn MemberLoggedIn Y wefan Fflag ddeuaidd sy'n storio p'un a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi ai peidio Diwedd y sesiwn ai_session and ai_user Y wefan Mae'n dilyn defnyddwyr wrth iddynt symud o amgylch y wefan, yn bennaf er mwyn asesu sut mae’r seilwaith yn perfformio. 1 diwrnod DisplayName Y wefan Mae'n cadw cofnod o b'un a yw rhoddwyr am ddangos eu henwau yn ystod Debyd Uniongyrchol. Diwedd y sesiwn IDE, DSID, _ct_rmm Doubleclick.net Rheolir y cwcis hyn gan DoubleClick, sef llwyfan hysbysebu a ddefnyddir gennym i arddangos hysbysebion. Maent yn ein helpu i nodi pa ymwelwyr â’n gwefan sydd wedi gweld un o’n hysbysebion neu wedi clicio ar un ohonynt. 2 flynedd o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd __cfduid CloudFlare Mae'n adnabod cleientiaid unigol y tu ôl i gyfeiriad IP a rennir ac yn cymhwyso gosodiadau diogelwch fesul cleient 365 diwrnod Cwcis a ddefnyddir gan drydydd partïon Os ewch i dudalen ar ein gwefan lle y ceir cynnwys wedi'i fewnblannu, efallai yr anfonir cwcis atoch o'r gwefannau hyn. Er enghraifft, clicio ar fideos YouTube, neu ddefnyddio botymau ‘rhannu’ sy'n galluogi defnyddwyr i rannu cynnwys tudalennau gwe yn hawdd drwy rwydweithiau poblogaidd megis Facebook a Twitter. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn gosod cwci pan fyddwch wedi'ch mewngofnodi yn eu gwasanaeth. Nid ydym yn rheoli'r broses o osod y cwcis hyn ac, felly, rydym yn awgrymu eich bod yn edrych ar wefan y trydydd parti i weld a oes rhagor o wybodaeth am eu cwcis a sut i'w rheoli.
Data personol plant Expand Ni fyddwn yn fwriadol yn casglu nac yn ceisio data personol gan unrhyw un o dan 18 oed yn fwriadol nac yn caniatáu i'r cyfryw unigolion roi eu data personol i ni, heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Os bydd gennym reswm dros gredu ein bod yn dal data unigolyn o dan 18 oed heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad, byddwn yn dileu'r data hynny. Os credwch y gallai fod gennym ddata personol gan neu am unrhyw un o dan 18 oed heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad, anfonwch neges e-bost i [email protected] neu ysgrifennwch at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.
Newidiadau i'r hysbysiad hwn Expand Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn trin eich data personol, byddwn yn egluro hyn ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu drwy gysylltu â chi'n uniongyrchol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn llawn o bryd i'w gilydd. Mae adolygu'r ffordd y defnyddir eich data personol yn rheolaidd yn helpu i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch data ac yn eu rheoli. Adolygwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2022.
Ymholiadau a chwynion – Cysylltwch â ni Expand Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu awgrymiadau, neu os hoffech arfer eich hawliau o ran data, rhowch wybod i ni drwy anfon neges e-bost i [email protected] neu drwy ysgrifennu at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ. Os na fyddwch yn fodlon ar unrhyw agwedd ar y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, hoffem glywed gennych. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddysgu a gwella y mae'r adborth hwn yn ei roi i ni. Gallwch ddarllen ein polisi cwynion llawn ar ein gwefan yma. Mae gennych hawl hefyd i wneud cwyn am unrhyw ddefnydd a wneir o'ch data personol i reoleiddiwr diogelu data'r DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol); y Comisiwn Elusennau (dolen allanol); neu'r Rheoleiddiwr Codi Arian (dolen allanol), sy'n rheoleiddio'r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Ein rhif elusen gofrestredig yw 1083645.