Crynodeb o’n polisi preifatrwydd Mae’n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall ein polisi preifatrwydd yn llawn ond dyma grynodeb byr i’ch helpu chi ddeall yr elfennau sylfaenol: Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn storio data personol er mwyn gweinyddu ein perthynas gyda chi. Rydym yn medru casglu’r data yma mewn amryw o ffyrdd, gan ddibynnu ar sut ydych wedi penderfynu ymgysylltu gyda ni. Byddwn ond yn cadw’ch gwybodaeth am gyn hired ag sydd angen arnom er mwyn gweinyddu ein perthynas gyda chi ac rydym yn dileu hen ddata mewn modd diogel. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei brosesu a’i storio ar ein system gweinydd diogelu neu drwy gyfrwng darparwyr gweinydd allanol, megis y cloud-based systems. Efallai bod y darparwyr gwasanaeth a ddefnyddir yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) nu y tu hwnt i’r UE. Rhaid i unrhyw ddarparwr gwasanaeth yr ydym yn defnyddio neu gydymffurfio gyda rheoliadau diogelu data’r DU. Mae diogelwch eich data personol yn bwysig i ni ac rydym yn dilyn gweithdrefnau er mwyn cydymffurfio gyda’r gyfraith ac amddiffyn y data yn gymaint ag sydd yn bosib. Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol os oes gofyniad cyfreithiol arnom i ddweud hyn, i ddiogelu neu amddiffyn ein hawliau, neu os ydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth sydd yn gweithio ar ein rhan. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis ac rydych yn meddu ar yr hawl i reoli eich dewisiadau, ac mae modd gwneud hyn drwy’r porwr gwe. Nid ydym fel arfer yn casglu data personol gan blant sydd yn 16 neu’n iau heb ganiatâd y rhiant neu warcheidwad a byddwn yn dileu unrhyw ddata os ydym yn credu ein bod yn dal y fath ddata. O dan gyfraith diogelu data’r DU, mae hawliau gennych dros y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Rydych yn medru cysylltu gyda ni ar unrhyw adeg er mwyn arfer eich hawliau data neu newid eich dewisiadau, drwy e-bostio[email protected] neu drwy ysgrifennu at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.