Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd a chydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Dim ond yn unol â deddfwriaeth diogelu data sy'n gymwys i Gymru a Lloegr y byddwn yn defnyddio eich data personol.  Gall telerau'r hysbysiad preifatrwydd hwn newid, felly dylech ei ddarllen o bryd i'w gilydd. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn trin eich data personol, byddwn yn egluro hyn ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu drwy gysylltu â chi'n uniongyrchol.

 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham rydym yn casglu eich data personol a'r ffordd y caiff eu defnyddio. Mae hefyd yn nodi gwybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch. Rydym yn defnyddio technolegau priodol i ddiogelu eich data personol a chynnal safonau diogelwch llym ac rydym yn archwilio'r ffordd rydym yn casglu, yn storio ac yn defnyddio data personol yn rheolaidd.

 

Rydym yn parchu eich preifatrwydd a'r ymddiriedaeth rydych wedi'i dangos drwy rannu eich data personol â ni. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon.

 

Noder nad yw Ambiwlans Awyr Cymru yn ‘awdurdod cyhoeddus’ fel y'i diffinnir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac, felly, nid ydym yn ymateb i geisiadau am wybodaeth a wneir o dan y ddeddf honno.