Data personal a gesglir gennym a'r ffordd rydym yn eu defnyddio Bydd y ffordd y byddwn yn defnyddio eich data personol, y seiliau cyfreithiol y byddwn yn dibynnu arnynt, am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol a manylion eraill yn dibynnu ar bwy ydych a pham mae angen eich data personol arnom yn y lle cyntaf. Yn yr adran hon, rydym yn darparu gwybodaeth benodol am breifatrwydd sy'n ymwneud â'r gwahanol gategorïau o unigolion y mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gymwys iddynt. Ymholiadau a gawn gennych Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad, byddwn yn casglu gwybodaeth, gan gynnwys eich data personol, er mwyn i ni allu ymateb iddo ac ymdrin â'ch cais. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt er mwyn ymateb i'ch ymholiad yw: Ein buddiant dilys wrth helpu gyda'ch ymholiad Ein buddiant dilys wrth wella ein busnes a hyfforddi ein staff. Os bydd eich ymholiad yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os bydd angen prosesu'r wybodaeth honno am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol y cyhoedd neu, os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol i ni, o dan erthygl 9(2) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y byddwn yn gwneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Mae angen i ni gael digon o wybodaeth gennych er mwyn ateb eich ymholiad. Rydym yn defnyddio gwybodaeth o ffurflenni gwe, negeseuon e-bost, post a llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth a drosglwyddwyd dros y ffôn i anfon gwybodaeth neu ddeunyddiau rydych wedi gofyn amdani/amdanynt atoch. Fel arfer, bydd angen i ni gael eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y byddwn yn gwneud nodiadau er mwyn darparu gwasanaeth pellach i chi yn ôl y gofyn. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu'r post, bydd angen cyfeiriad dychwelyd arnom er mwyn i ni allu ymateb. Cedwir ymholiadau cyffredinol am hyd at flwyddyn ar ôl i'r achos gael ei gau. Cedwir cwynion am hyd at 3 blynedd ar ôl i'r achos gael ei gau. Cedwir ymholiadau sy'n ymwneud â cheisiadau o dan hawliau i weld data am hyd at 6 blynedd. Efallai y cedwir ymholiadau a chwynion sy'n ymwneud â chofnodion o weithgarwch codi arian neu roddion neu gofnodion y loteri, am fwy o amser. Gweler yr adrannau perthnasol isod am ragor o wybodaeth. Recordiadau o alwadau a chyfarfodydd Diben prosesu recordiadau o alwadau a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn recordio galwadau telegynadledda a chyfarfodydd/digwyddiadau rhithwir gan ddefnyddio'r feddalwedd a'r systemau cwmwl sydd ar gael ar ein dyfeisiau. Gwneir hyn at un o'r dibenion canlynol: Darparu cofnod manwl gywir o alwad neu gyfarfod a drefnwyd er mwyn trawsgrifio'r cofnodion yn gywir. Cyhoeddi gweminar fel rhan o weithgareddau cyhoeddusrwydd neu weithgareddau codi arian. Mae gweminar yn seminar neu'n gyflwyniad arall a gynhelir ar y rhyngrwyd, sy'n galluogi cyfranogwyr mewn lleoliadau gwahanol i weld a chlywed y cyflwynydd, gofyn cwestiynau ac, weithiau, ateb arolygon. At ddibenion gweminar, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys rydym yn dibynnu arnynt yw codi ymwybyddiaeth o'r elusen a'i gweithgareddau er mwyn sicrhau'r gefnogaeth a'r incwm mwyaf posibl. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i recordio telegynadleddau a chyfarfodydd rhithwir yw erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu eich rhif ffôn cyn i'r alwad neu'r cyfarfod ddechrau. Lle bo angen caniatâd, byddwn yn gofyn amdano yn ysgrifenedig, naill ai drwy'r manylion cyswllt rydych wedi'u darparu neu drwy ddatganiad ticio blwch ar ddechrau cyfarfod/digwyddiad rhithwir; ni fydd galwad na chyfarfod yn cael ei recordio oni chawn ganiatâd penodol gan bob cyfranogwr. Yn achos gweminar a hyrwyddir, byddwn yn eich hysbysu ymlaen llaw ein bod yn bwriadu recordio a chyhoeddi'r digwyddiad. Lle bo angen caniatâd, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd caniatâd a roddwyd yn flaenorol ar gyfer unrhyw recordiadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Caiff unrhyw gyfranogiad gennych yn y delegynhadledd neu'r cyfarfod/digwyddiad rhithwir ei recordio dros gyfnod y gweithgaredd. Gall hyn gynnwys eich enw defnyddiwr, mewnbwn sain a fideo a dogfennau a mynediad i'ch sgrin a rennir o'ch dyfais. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn darllen polisi preifatrwydd gwefannau cyfarfodydd rhithwir cyn rhannu data a defnyddio eu gosodiadau preifatrwydd a'u systemau adrodd i reoli'r ffordd y caiff eich data eu defnyddio. Cedwir recordiadau at ddibenion trawsgrifio am hyd at 6 mis o ddyddiad y recordiad. Cedwir gweminarau a gyhoeddir gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru am gyfnod amhenodol. Rhoddion Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn rhoi rhodd i ni, p'un a wnewch hynny ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, fel rhodd untro neu fel aelod sy'n rhoi'n rheolaidd, byddwn yn casglu gwybodaeth, gan gynnwys eich data personol, er mwyn i ni allu prosesu eich rhodd ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt i brosesu eich rhodd a chael unrhyw ad-daliadau treth yw bod angen i ni wneud y defnydd gorau posibl o'r rhoddion a gawn er mwyn i ni allu cyflawni ein dibenion elusennol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ac ariannol gydag unrhyw roddion a rowch. Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn credyd neu gyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol). Efallai y byddwn yn casglu manylion am eich statws treth hefyd. Defnyddir manylion cyswllt, gwybodaeth ariannol a statws treth i brosesu'r rhodd ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Cedwir gwybodaeth ariannol a gesglir yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn prosesu'r rhodd a chadarnhau y gallwn adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Cedwir cofnodion Cymorth Rhodd a rhoddion am o leiaf 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn rhoi rhodd i ni, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Tanysgrifiadau i'r Loteri Achub Bywydau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Wrth danysgrifio i fod yn aelod o'n Loteri Achub Bywydau, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ac ariannol er mwyn i ni allu cwblhau'r broses danysgrifio, gweinyddu eich aelodaeth a chysylltu â chi os byddwch wedi ennill gwobr neu os bydd problem gyda'ch tanysgrifiad. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn debyd neu gyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol). Defnyddir y rhain i gwblhau'r broses danysgrifio a phrosesu taliadau. Defnyddir eich manylion cysywllt hefyd i weinyddu eich aelodaeth a'ch hysbysu os byddwch wedi ennill gwobr. Cedwir gwybodaeth ariannol a gesglir yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn cwblhau'r broses danysgrifio, trafod eich aelodaeth ac ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Cedwir cofnodion aelodaeth o'r loteri am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn dod yn aelod o'r Loteri Achub Bywydau, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Archebu nwyddau ar-lein Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn prynu nwyddau ar-lein, bydd angen i chi roi eich data personol i ni er mwyn i ni allu prosesu'r archeb, cymryd taliad a danfon y cynhyrchion rydych wedi'u prynu. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich manylion cyswllt (megis enw, cyfeiriad post, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) a'ch manylion talu (megis cerdyn credyd). Mae angen manylion eich cerdyn arnom er mwyn i ni allu cymryd taliad. Cedwir y wybodaeth hon yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi er mwyn prosesu eich archeb neu os bydd gennym unrhyw gwestiynau am eich archeb. Mae angen eich cyfeiriad arnom er mwyn i ni ddanfon y cynhyrchion rydych wedi'u prynu. Cedwir cofnodion archebion ar-lein am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Pan fyddwch yn archebu nwyddau ar-lein oddi wrthym, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Gwasanaeth dosbarthu a chasglu Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn cysylltu â ni er mwyn gwneud trefniadau i nwyddau nad ydych eu heisiau gael eu casglu ar gyfer ein siopau elusennol, neu pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth dosbarthu ar gyfer dodrefn neu eitemau mawr eraill a brynir yn ein siopau, byddwn yn casglu eich data personol er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano. Os byddwch yn cofrestru â'n cynllun Cymorth Rhodd drwy werthu nwyddau nad ydych eu heisiau arnoch, byddwn hefyd yn prosesu eich data personol er mwyn adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer casgliadau a Chymorth Rhodd yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw: Ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso'r broses o roi nwyddau ar gyfer ein siopau, Wrth werthu unrhyw nwyddau a roddwyd i ni, lle y bo'n bosibl, sicrhau'r incwm mwyaf posibl drwy Gymorth Rhodd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn er mwyn i ni allu nodi lleoliad eich safle a chysylltu â chi os bydd angen i ni wneud hynny mewn perthynas â'ch dosbarthiad neu'ch casgliad. Cymerir taliad am y gwasanaeth dosbarthu yn ein siopau pan fyddwch yn prynu'r nwyddau. Efallai y byddwn yn casglu manylion am eich statws treth hefyd. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth dosbarthu neu gasglu, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Cedwir cofnodion Cymorth Rhodd am o leiaf 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Cedwir data personol a ddefnyddir ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu a chasglu am hyd at 3 blynedd o'r weithred ddiwethaf. Codi Arian Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Rydym yn ddiolchgar am unrhyw weithgareddau codi arian rydych yn dewis eu cynnal er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Pan fyddwch yn cysylltu â ni i gael gwybodaeth am sut i godi arian, byddwn yn gofyn am eich enw a'ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu rhoi'r wybodaeth i chi, ateb eich ymholiadau a rhoi cymorth cyffredinol ar gyfer eich gweithgaredd codi arian. Weithiau pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian penodol, bydd angen manylion cyswllt brys arnom hefyd. Wrth dalu'r arian rydych wedi'i godi i mewn, yn dibynnu ar y dull y byddwch yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i ni brosesu eich manylion banc neu gerdyn credyd er mwyn i chi allu talu'r arian a godwyd i ni. Os byddwch yn defnyddio ffurflen noddwyr i gadw cofnod o'r arian a godwyd, byddwn hefyd yn prosesu enwau, manylion cyswllt a statws treth eich noddwyr er mwyn prosesu taliadau ac adennill treth drwy Gymorth Rhodd ar roddion cymwys. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol chi a data personol pobl sy'n eich noddi yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw: ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso gweithgareddau codi arian prosesu rhoddion a chynyddu gwerth rhoddion drwy Gymorth Rhodd, lle y bo'n gymwys. Os bydd eich ymholiad yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol y byddwn yn prosesu'r wybodaeth honno. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad post er mwyn cynnig a chydgysylltu unrhyw gymorth, ceisiadau neu ymholiadau sydd gennych tra byddwch yn codi arian gyda ni ac anfon unrhyw ddeunyddiau a all helpu gyda'ch gweithgaredd codi arian atoch. Pan fyddwn yn gofyn am fanylion cyswllt brys, mae angen y wybodaeth hon arnom at ddibenion iechyd a diogelwch. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth am gyflyrau iechyd nac yn asesu eich addasrwydd i gymryd rhan mewn digwyddiad. Pan fyddwch yn defnyddio ffurflen noddi, bydd angen enwau, cyfeiriadau a statws treth y noddwyr arnom er mwyn i ni allu adennill treth drwy Gymorth Rhodd. Pan fyddwch yn defnyddio trosglwyddiad banc neu gerdyn credyd/debyd i dalu'r arian rydych wedi'i godi i ni, bydd angen eich manylion banc neu gerdyn credyd arnom er mwyn i ni allu prosesu’r taliad. Cedwir y wybodaeth hon yn ddiogel ac fe'i dilëir yn barhaus (ni chaiff manylion cardiau credyd na debyd eu storio gennym). Cedwir data personol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau codi arian am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Mae sawl ffordd wahanol y gallwch roi arian i ni ac os byddwch yn penderfynu gwneud hynny drwy JustGiving, Facebook neu unrhyw lwyfan rhoi ar-lein arall, caiff unrhyw ddata personol a brosesir eu prosesu o dan delerau'r llwyfan rhoi neu gyfrwng cymdeithasol ar-lein perthnasol. Pobl eraill, nid ni, sy'n rheoli'r llwyfannau hyn ac, felly, dylech ddarllen telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y sefydliadau eraill hyn. Drwy wneud hynny, byddwch yn deall sut y byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth amdanoch y byddant yn eu cyhoeddi a'r hyn y gallwch ei wneud os na fyddwch yn fodlon ar hynny. Pan fyddwch yn codi arian i ni, byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael newyddion a diweddariadau gan Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn anfon newyddion a diweddariadau atoch ai peidio. Sicrhau arian grant: Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymchwilio i gyfleoedd i sicrhau arian grant sy'n berthnasol i ni, a all gynnwys cael enwau a manylion cyswllt Ymddiriedolwyr, swyddogion grant, ysgrifenyddion neu bersonau eraill sy'n chwarae rhan weithredol yn yr Ymddiriedolaeth neu'r Sefydliad (gan gynnwys gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd). Defnyddir y data personol hyn er mwyn i ni allu cysylltu â chi i wneud unrhyw ymholiadau ynghylch grant a'r broses gwneud cais. Ni fyddwn yn cynnal ymarfer sgrinio cyfoeth na phroffilio ar gyfer unigolion â gwerth net uchel. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys y byddwn yn dibynnu arnynt yw ein buddiannau mewn codi arian i'r elusen drwy hwyluso'r broses o sicrhau arian grant y gallwn fod yn gymwys i'w gael. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu manylion cyswllt y person(au) perthnasol sy'n rhan o'r Ymddiriedolaeth neu'r Sefydliad, er mwyn i ni allu cysylltu â chi ynghylch y grant Mae hyn yn cynnwys enw(au), cyfeiriad(au) e-bost, cyfeiriad post a rhif(au) ffôn. Cedwir y wybodaeth hon naill ai am gyfnod amhenodol os bydd y manylion yn dal i fod yn gywir a'n bod yn parhau i gysylltu â chi ynghylch cyfleoedd grant, neu am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Cyhoeddusrwydd – Straeon am godi arian neu straeon cleifion Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Mae codi ymwybyddiaeth o'n gweithgarwch elusennol cyhoeddus, er mwyn ennyn diddordeb yn Ambiwlans Awyr Cymru a chefnogaeth iddo, yn rhan bwysig o'r hyn rydym yn ei wneud. Gall hyn gynnwys rhannu straeon ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan, yn y wasg neu mewn llenyddiaeth a gynhyrchir gennym. Rydym bob amser yn ddiolchgar i gefnogwyr sy'n cysylltu â ni neu sy'n cytuno i rannu eu stori. Os byddwch yn cytuno i rannu eich stori, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir gennych (o ffurflenni gwe, negeseuon e-bost, post a'r cyfryngau cymdeithasol a dros y ffôn, er enghraifft) i greu cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth o'n gwaith gyda'ch caniatâd. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Os bydd eich stori yn golygu bod angen i chi roi data personol categori arbennig i ni megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu darddiad ethnig, dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol y byddwn yn prosesu'r wybodaeth honno. Os bydd y wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â phlentyn o dan 18 oed, byddwn yn gofyn am ganiatâd unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Gofynnir i rieni/gwarcheidwaid ac unigolion sy'n 18 oed neu drosodd gwblhau ffurflen gydsynio neu ddarparu math arall o ganiatâd ysgrifenedig i brosesu'r wybodaeth. Os byddwn eisoes mewn cysylltiad â chi ynghylch rhodd, tanysgrifiad i'r loteri, codi arian neu weithgarwch gwirfoddol, efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ofyn i chi a fyddai diddordeb gennych mewn rhannu eich stori. Caiff eich dewisiadau eu cofnodi fel y byddwn yn gwybod p'un a allwn gysylltu â chi ynghylch cyfleoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol ai peidio. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Bydd angen eich enw a'ch manylion cyswllt arnom er mwyn cysylltu â chi ynghylch eich stori a manylion eich gweithgaredd, neu'r digwyddiad pan roedd angen ein cymorth arnoch, ynghyd â gwybodaeth am eich profiad o'r gwasanaeth a ddarperir gennym ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd caniatâd a roddwyd yn flaenorol ar gyfer eitemau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Byddwn yn cadw eich data personol nes i chi ein hysbysu nad ydych am i ni ddefnyddio'r wybodaeth at ddibenion cyhoeddusrwydd mwyach, neu os na fydd yr astudiaeth achos wedi'i defnyddio ers dros 5 mlynedd. Os bydd eich cofnodion hefyd yn ymwneud â rhoddion, tanysgrifiadau i'r Loteri neu weithgarwch gwirfoddol, efallai y byddwn yn cadw rhywfaint o'ch manylion am fwy o amser (gweler yr adrannau perthnasol o'n hysbysiad preifatrwydd). Cedwir mynegai o'r cofnod a ddilëwyd, ffurflen gydsynio wedi'i golygu a'r datganiad gwreiddiol i'r wasg am gyfnod amhenodol. Fel rhan o'r broses o dynnu caniatâd ôl, gofynnir i unigolion a hoffent i dystebau digidol sydd o dan reolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gael eu dileu; er enghraifft, ar ein gwefan. Gwneud cais am swydd neu rôl wirfoddol Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Diben prosesu'r wybodaeth hon yw asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani a'n helpu i ddatblygu a gwella ein prosesau recriwtio. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ymwneud â gwaith prosesu sydd angen ei wneud er mwyn cyflawni contract neu gymryd camau ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract. Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni am addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw Erthygl 6(1)(c) i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ymwneud â'n rhwymedigaethau mewn perthynas â chyflogaeth a diogelu eich hawliau sylfaenol. Rydym yn prosesu gwybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau ymgeiswyr. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu'r data hyn yw Erthygl 6(1)(c) i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. At hynny, rydym yn dibynnu ar yr amod prosesu o dan Erthygl 9(2)(b) lle mae'r gwaith prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth, cyfraith nawdd cymdeithasol a chyfraith amddiffyniadau cymdeithasol a/neu Erthygl 9(2)(g) lle mae'r gwaith prosesu yn angenrheidiol am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol y cyhoedd, sef, atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon, diogelu'r cyhoedd rhag anonestrwydd, atal twyll neu derfysgaeth neu achosion o wyngalchu arian a amheuir. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych yn ystod y broses recriwtio i brosesu eich cais gyda'r bwriad o gynnig contract cyflogaeth neu rôl wirfoddoli gyda ni i chi, neu er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol os bydd angen. Byddwn yn defnyddio eich enw a'ch manylion cyswllt i ohebu â chi fel rhan o'r broses. Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni am addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon at ddibenion marchnata. Byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a roddwch i ni i gysylltu â chi er mwyn prosesu eich cais. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi er mwyn gofyn am eich adborth ar ein proses recriwtio. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth arall a ddarperir gennych i asesu eich addasrwydd gyfer y rôl. Dim ond os bydd yn briodol gwneud hynny o ystyried natur y rôl ac os gallwn wneud hynny'n gyfreithiol, y byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol. Lle y bo'n briodol, byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol fel rhan o'r broses recriwtio. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelu data a phreifatrwydd, dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom mewn gwirionedd i gyflawni'r dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer yn y lle cyntaf y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.Yn y rhan fwyaf o achosion, golyga hyn y caiff gwybodaeth a gesglir fel rhan o'r ymarfer recriwtio ei chadw fel arfer am hyd at 6 mis ar ôl i'r ymarfer recriwtio gael ei gwblhau. Yn achos ymgeisydd llwyddiannus, trosglwyddir gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gyflogaeth neu'r gydberthynas wirfoddoli barhaus i gofnod personél y cyflogai/gwirfoddolwr ac fe'i cedwir yn unol â'r cyfnodau sy'n gymwys i gyflogeion a gwirfoddolwyr. Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a dashgamerâu Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Rydym yn defnyddio deunydd Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) y tu allan neu'r tu mewn i'n hadeiladau a dashgamerâu ar y cerbydau a ddefnyddir gennym ar gyfer ein gwasanaeth dosbarthu a chasglu manwerthol. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu am resymau diogelwch a/neu at ddibenion yswiriant neu ddibenion cyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw diogelu ein heiddo, ein staff a'n hymwelwyr a, lle y bo angen, helpu i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn prosesu delweddau CCTV a deunydd dashgamerâu er mwyn atal troseddu a diogelu adeiladau ac asedau rhag cael eu difrodi, er mwyn sicrhau diogelwch personol staff, ymwelwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Fel arfer, caiff recordiadau CCTV eu dileu ar ôl tua 28 diwrnod a chaiff deunydd dashgamerâu ei drosysgrifo ar ôl diwrnod, oni fydd rhywbeth wedi digwydd a bod angen cadw'r deunydd CCTV neu dashgamera am fwy o amser er mwyn helpu i ymchwilio i'r digwyddiad. Gwefan Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, caiff data personol amdanoch ei chasglu a'i defnyddio er mwyn cynnal a monitro perfformiad ein gwefan a'n galluogi i wella ein gwefan yn barhaus. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw sicrhau bod ein gwefan yn gyfredol, yn effeithlon ac yn hawdd i'w defnyddio. Mae ein gwefan yn cynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd partïon a manylion y gwefannau hynny. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros bolisïau nac arferion preifatrwydd trydydd partïon ac nid ydym yn gyfrifol amdanynt. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolyddion Adnoddau Unffurf (“URL”) llawn, y ffrwd glicio i'n gwefan, drwyddi ac ohoni (gan gynnwys dyddiad ac amser), amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd yr ymweliad â thudalennau penodol a'r dulliau a ddefnyddiwyd i bori i ffwrdd oddi wrth y dudalen. Caiff rhywfaint o'r wybodaeth ei chasglu gennym bob tro y byddwch yn defnyddio ein gwefan drwy ein defnydd o gwcis. Ceir rhagor o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio ac at ba ddibenion rydym yn eu defnyddio yn yr adran ar Ddefnyddio Cwcis isod. Pan fyddwch yn anfon data personol atom drwy'r wefan, er enghraifft wrth ymuno â'n loteri, rhoi rhodd neu archebu nwyddau, caiff eich data personol eu prosesu drwy system rheoli cynnwys ein gwefan (CMS) ac fe'u cedwir am hyd at 7 mlynedd yn unol â'r adrannau perthnasol uchod. Gweler y rhan berthnasol o Adran 3 ar y data personol a gesglir gennym ac Adran 6 ar rannu eich gwybodaeth â darparwyr gwasanaeth. Cyfryngau cymdeithasol Rydym yn gweithredu nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys, ymhlith eraill, Facebook, Twitter, YouTube ac Instagram. Yn dibynnu ar eich gosodiadau neu bolisïau preifatrwydd pob gwefan cyfryngau cymdeithasol neu wasanaeth negeseua, efallai y byddwch yn rhoi caniatâd i ni weld data personol o'r gwasanaethau hynny. Er enghraifft, pan fyddwch yn anfon neges atom, yn ein tagio mewn ffotograff o ddigwyddiad neu'n rhoi rhodd. Er bod y polisi hwn yn ymdrin â'r ffordd y byddwn yn defnyddio unrhyw ddata a gesglir gan y gwefannau cyfryngau cymdeithasol hyn, nid yw'n ymdrin â'r ffordd y bydd darparwyr gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio eich gwybodaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen polisi preifatrwydd gwefannau cyfryngau cymdeithasol cyn rhannu data a defnyddio eu gosodiadau preifatrwydd a'u systemau adrodd i reoli'r ffordd y caiff eich data eu defnyddio. Proffilio eich diddordebau Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Nid yw Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio data personol i wneud penderfyniadau unigol awtomataidd (gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio dulliau awtomataidd yn unig heb gyfranogiad pobl). Nid ydym yn defnyddio data personol i gynnal ymarferion sgrinio cyfoeth na pharu data. Nid ydym yn prynu nac yn gwerthu data. Mewn rhai amgylchiadau penodol, efallai y byddwn yn defnyddio data personol rhai cefnogwyr i gynnal math o ymarfer proffilio (prosesu data personol er mwy gwerthuso pethau penodol am unigolyn) at ddibenion marchnata uniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn defnyddio data personol cefnogwyr sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad rhedeg i anfon gwybodaeth atynt am ddigwyddiad rhedeg a fydd yn cael ei gynnal yn y dyfodol, a allai fod o ddiddordeb iddynt. Dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny y byddwn yn anfon newyddion a diweddariadau atoch. Nid ydym yn defnyddio data categori arbennig (megis gwybodaeth am iechyd, credoau crefyddol neu wleidyddol, tarddiad hiliol neu ethnig) mewn ymarferion proffilio. Nid ydym yn cynnal ymarferion proffil gan ddefnyddio data personol unrhyw un o dan 18 oed. Nid ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch sydd gael i'r cyhoedd, asiantaethau proffilio defnyddwyr proffesiynol na chronfeydd data ar-lein: dim ond gwybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni yn uniongyrchol y byddwn yn ei chofnodi. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer ymarferion proffilio sy'n seiliedig ar ddiddordebau yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw codi arian i'r elusen drwy hwyluso gweithgareddau codi arian drwy ddigwyddiadau a gohebiaeth wedi'u teilwra, y mae cefnogwyr penodol wedi gofyn am ddiweddariadau arnynt. At hynny, dim ond ar gofnodion unigolion sydd wedi rhoi caniatâd penodol i ni anfon newyddion a diweddariadau atynt y byddwn yn cynnal ymarferion proffilio sy'n seiliedig ar ddiddordebau. Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ein bod wedi cael caniatâd i wneud hyn, yr ymdrinnir â hi yn adran 3.16 ar farchnata uniongyrchol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Pan fyddwch yn ymgymryd â gweithgaredd megis codi arian i ni, caiff y math o weithgaredd ei gofnodi ochr yn ochr â'ch data personol eraill (enw, manylion cyswllt a gwybodaeth rydych yn ei rhannu â ni am y ffordd rydych yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru). Byddwn yn cofnodi a yw'r gweithgaredd yn ymwneud ag eitem newyddion wedi'i theilwra a ddarperir gennym, megis digwyddiadau rhedeg sydd ar fin cael eu cynnal, ac a ydych wedi rhoi caniatâd i ni anfon newyddion a diweddariadau atoch. Dim ond pan fodlonir y meini prawf uchod y byddwn yn ystyried defnyddio eich data personol i gynhyrchu proffiliau sy'n seiliedig ar ddiddordebau ar gyfer newyddion a diweddariadau wedi'u teilwra. Cedwir cofnodion o weithgarwch codi arian am hyd at 7 mlynedd o'r weithred ddiwethaf. Am ragor o wybodaeth gweler yr adrannau ar godi arian a marchnata uniongyrchol yn Adran 3. Cofrestru i gael cylchlythyr neu ddiweddariadau (marchnata uniongyrchol) Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Os byddwch yn cofrestru i gael cylchlythyrau neu ddiweddariadau gennym, byddwn yn gofyn i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu anfon y cylchlythyrau neu'r diweddariadau rydych wedi gofyn amdanynt atoch. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(a) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Caiff dewisiadau o ran marchnata uniongyrchol eu cofnodi'n fanwl iawn. Golyga hyn ein bod yn cadw cofnod o'r dulliau rydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni eu defnyddio i anfon newyddion a diweddariadau atoch (er enghraifft, drwy e-bost yn unig). Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu'ch cyfeiriad post a/neu eich rhif ffôn, a'ch dewisiadau o ran y ffordd rydym am i ni gyfathrebu â chi, er mwyn i ni allu prosesu eich cais ac anfon y cylchlythyrau neu'r diweddariadau rydych wedi gofyn amdanynt atoch. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o bynciau penodol y gall fod gennych ddiddordeb ynddynt, megis digwyddiadau rhedeg, ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau ynghylch y math o newyddion a diweddariadau y byddwn yn eu hanfon atoch (gweler Adran 3.15 ar Broffilio). Byddwn yn cadw eich data personol nes i chi ein hysbysu nad ydych am dderbyn cylchlythyrau na diweddariadau gennym mwyach. Os bydd eich data personol yn rhan o gofnod o weithgarwch codi arian neu roddion, efallai y byddwn yn cadw eich data personol am fwy o amser ond ni fydd y cofnod yn nodi mwyach eich bod wedi rhoi caniatâd i ni anfon newyddion a diweddariadau atoch. Cyfyngiadau ar farchnata uniongyrchol (cofnod o wrthwynebiad) Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Gallwch wrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol gennym unrhyw bryd. Pan fyddwch yn gwrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol, gelwir y data personol a gawn gennych chi neu asiantaeth ar eich rhan (megis Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian neu Wasanaeth Dewisiadau Ffôn) yn Gofnod Cyfyngedig ('Supression Record'). Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich cyfyngiadau ar ddata personol yw Erthygl 6(1)(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hynny'n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw sicrhau na fyddwn yn anfon gohebiaeth marchnata megis newyddion a diweddariadau atoch pan fyddwch wedi arfer eich hawl i wrthod derbyn deunydd marchnata uniongyrchol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Cedwir cofnodion cyfyngedig am gyfnod amhenodol er mwyn sicrhau na fyddwn yn anfon gohebiaeth farchnata uniongyrchol atoch. Mae angen i ni gadw digon o ddata personol er mwyn i ni allu nodi eich cofnod cyfyngedig yn gywir. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a/neu'ch cyfeiriad post a/neu’ch rhif ffôn. Cofnodion Iechyd a Diogelwch a diogelu ymwelwyr Diben prosesu data personol a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn cadw cofnod o ymwelwyr â'i safleoedd. Cofnodir enwau ymwelwyr, enw eu cwmni, rhif cofrestru eu car a dyddiad ac amser eu hymweliad mewn llyfr ymwelwyr. Rydym hefyd yn cadw cofnod o unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau y rhoddwch wybod i ni amdanynt tra byddwch ar unrhyw un o'n safleoedd. Mae hyn yn cynnwys data personol a roddwch i ni pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad, megis eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad. Cesglir y wybodaeth hon er mwyn i ni allu gwneud y canlynol: Dilyn gweithdrefnau cofnodi digwyddiadau Iechyd a Diogelwch gan gynnwys Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (‘RIDDOR’), Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch 1999 ac unrhyw ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol arall, Dysgu o'n harferion iechyd a diogelwch a'u gwella (caiff adroddiadau eu hanonymeiddio at ddibenion Ansawdd), Cadw cofnodion cywir ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(c) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sef bod angen prosesu'r data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol ac amddiffyniadau cymdeithasol, neu Erthygl 9(2)(f), sy'n ymwneud â phrosesu data at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Ystyr diogelu yw diogelu iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a'u galluogi i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod, sy'n cynnwys diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl rhag niwed sy'n deillio o ddod i gysylltiad â'n cyflogeion, ein gwirfoddolwyr, ein hymddiriedolwyr neu unigolion eraill sy'n gysylltiedig ag Ambiwlans Awyr Cymru. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi gweithdrefnau llym ar waith a sicrhau yr ymdrinnir â chofnodion a materion diogelu y rhoddir gwybod amdanynt yn briodol ac yn unol â Deddf Plant 1989, Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ac unrhyw ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau perthnasol eraill sy'n ymwneud â Diogelu. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol at ddibenion diogelu yw Erthygl 6(1)(c) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn gymwys neu, fel arall, fuddiannau dilys. Ein buddiannau dilys yw diogelu staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau o'r cyhoedd rydym yn ymgysylltu â nhw a diogelu enw da a buddiannau Ambiwlans Awyr Cymru. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych sy'n ddata categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, yw Erthygl 9(2)(b) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sef bod angen prosesu'r data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol ac amddiffyniadau cymdeithasol, neu Erthygl 9(2)(f), sy'n ymwneud â phrosesu data at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Y wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw Mae'n ofynnol i bob ymwelydd roi ei enw, enw'r cwmni y mae'n gweithio iddo, enw'r unigolyn y mae'n ymweld ag ef a rhif cofrestru ei gar. Rydym yn cadw cofnodlyfrau am hyd at 4 blynedd. Rydym yn casglu eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad neu'r ddamwain, gan gynnwys anafiadau a gafwyd, er mwyn i ni allu cydymffurfio â gweithdrefnau cofnodi digwyddiadau. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnodion o ymholiadau dilynol a nodiadau sy'n ymwneud ag ymchwiliad fel rhan o'r weithdrefn cofnodi digwyddiadau. Cedwir cofnodion sy'n ymwneud â damweiniau a digwyddiadau iechyd a diogelwch am 40 mlynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod. Cedwir cofnodion sy'n ymwneud â digwyddiadau diogelu am hyd at 30 mlynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod. Manage Cookie Preferences