Artist Castles in the Sky yn dod i achub y dydd! Mae artist o Abertawe wedi achosi cynnwrf ym mhentref Mwmblws gyda'i waith celf diweddaraf er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Cafodd David Marchant, sy'n berchen ar Oriel Bulljam ar Ffordd y Frenhines, ei gomisiynu i greu dau ddarn ar gyfer Llwybr Celf Castles in the Sky ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau yr haf hwn. Llwybr celf cyhoeddus, am ddim, llawn hwyl, sy'n addas i deuluoedd yw Castles in the Sky, ac mae'n cael ei gynnal gan Ambiwlans Awyr Cymru. Mae dros 30 o gerfluniau o gestyll enfawr a 20 o gestyll bach wedi'u creu yn y ddinas ac mae'r Elusen yn annog ymwelwyr a phobl leol i ymgymryd â'r her o ddod o hyd i bob un ohonynt. Mae'r fenter ryngweithiol, sy'n annog pobl i lawrlwytho'r ap a chasglu cynifer o dyredi ag y gallant, yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf ac yn dod i ben ddydd Sadwrn 15 Medi. Arferai David weithio ar gynfasau mawr, yn creu paentiadau tir a morluniau atmosfferig lled-haniaethol neu baentiadau trefol yn arsylwi ar ein diwylliant a'n cymdeithas, ond mae gweithio ar y prosiect cestyll wedi cyflwyno her gwbl newydd iddo. Dywedodd: "Roeddwn wedi bwriadu gweithio ar y caerau yn fy ngarej, ond roedd y tywydd mor wael - penderfynais eu codi yn fy stiwdio, sy'n llawer mwy sych. "Ond pan wnaethom ni geisio cael y castell drwy'r drws, doedd e ddim yn ffitio. Felly, cu'n rhaid i mi ffonio fy ffrind Rees sy'n gosod ffenestri i dynnu ffenestr flaen gyfan y siop er mwyn iddo fynd i mewn." Ychwanegodd: "Gan fy mod wedi gwneud dau ddarn o waith ar adegau gwahanol, achubodd fy ffrind y dydd i mi, bu'n rhaid iddo dynnu gwydr y ffenestr a'i ail-osod wyth gwaith!" Fodd bynnag, meddai David, "roedd yr holl waith yn werth chweil oherwydd ei fod er budd achos da!" Mae'n falch iawn â gorffeniad ei gelf “Nights in Shining Armour” Mae Dinas a Sir Abertawe yn ei noddi. Cafodd y dyluniad, 'Nights in Shining Armour' ei ddylanwadu gan ddiwylliant a bywyd nos Abertawe, ac mae'n cael ei noddi gan Ddinas a Sir Abertawe. Dywedodd y tad i dri o blant: "“Mae'n ymwneud â'r naws, yr hwyl, oherwydd pan fyddwch chi'n cerdded i fyny Stryd y Gwynt mae'n ymwneud yn fawr iawn â'r bobl. Y bobl sy'n gwneud y lle. "Mae'n chwarae ar y ddelwedd o farchogion mewn arbeisiau sgleiniog, gyda'r bobl, y marchogion disglair sy'n mynd allan ac yn gwisgo i fyny gyda'r nos. "Yn amlwg mae'r rhan theatrig o'r ddinas yn chwarae rhan ym mhopeth hefyd." Mae anagramau llawn hwyl wedi'u cynnwys yn y darn, er mwyn annog y cyhoedd hefyd i ryngweithio ag eraill er mwyn helpu i'w datrys. Dywedodd David: "Rwy'n creu darnau sy'n galluogi'r gwyliwr i fynd ar ei daith ei hun a chael profiad o'r darn. Rwyf am iddynt fod yn anodd eu hanwybyddu. "Felly, mae anagram o leoliad enwog yn Abertawe arno. Mae anagramau yn y gwaith brics hefyd. "Yn debyg i 'where's Wally?' Rwyf wedi rhoi logos Bulljam arno er mwyn i chi ddod o hyd iddynt. "Mae'n ymwneud â chael pawb i ymgysylltu â'r darn ac i hel atgofion." Dim ond pum diwrnod oedd gan David i greu dyluniad a chwblhau'r paentiad ar gyfer yr ail gomisiwn. Er gwaethaf hyn, creodd David ‘Gateway to Gower’, sy'n deyrnged i draethau a thirnodau enwocaf yr ardal. Mae'r cerflun yn cael ei noddi gan dafarn Plough and Harrow yn Llandeilo Ferwallt. Dywedodd: "Fel y gallwch ddychmygu, y person cyntaf i mi alw arno oedd Rees y dyn ffenestri, roedd yn gwybod ar unwaith a dywedodd ei fod dim ond rownd y gornel ac na fyddai'n drafferth iddo dynnu'r ffenestr allan. "Erbyn hyn roedd y ffenestr yn debycach i ddrws!" Ar y pryd roedd David yn gweithio ar gyfres o baentiadau sy'n adlewyrchu'r ardal, enw un o'i ddarnau enwocaf yw ‘Langland Paradise Found’ felly aeth ati i wneud dyluniad unigryw sy'n codi'r galon. Dywedodd: "Gwelais hwn fel cyfle i wella'r ardal. Felly, penderfynais wneud amrywiaeth o baentiadau o'r castell â chardiau post; enw un ohonynt yw Lovely Langland, enw un arall yw Beautiful Bracelet ac enw un arall yw Magic Mumbles. "Mae'n hwyl, mae yna gabanau glan môr, coed palmwydd a thon fach ar y gwaelod." Dywedodd David, "mae'n anrhydedd mawr bob yn rhan o'r prosiect hwn" a disgrifiodd dîm yr ambiwlans awyr fel "angylion yr awyr." Aeth ymlaen i ddweud: "Rydym yn gweld yr hofrenyddion allan bob amser yn y Mwmbwls. Mae pryder o hyd pan welwch chi hofrennydd, 'Gobeithio eu bod nhw'n iawn'. "Maent yn achub miloedd o fywydau bob blwyddyn, nhw yw angylion yr awyr – hebddynt, byddai llawer o bobl wedi colli anwyliaid." Ychwanegodd: "Bydd y llwybr yn wyrthiol i fusnesau lleol fel fy un i sydd wedi eu cuddio ar ffyrdd cefn y pentref. Gobeithio y bydd y llwybr twristaidd hwn yn annog pobl i ymweld â'r ardaloedd rwyf wedi cyfeirio atynt yn fy narnau. "Byddai hefyd yn hyfryd pe bai'n dylanwadu ar eraill i ddechrau paentio ac i greu eu gwaith celf eu hunain." Bydd y llwybr yn cael ei gynnal am gyfnod o ddeg wythnos, ac wedi hynny bydd y gweithiau celf dan y thema castell yn cael eu gwerthu. Bydd Kingsland Auction Services yn helpu yn yr ocsiwn a fydd yn rhoi'r cyfle i fusnesau celf ac artistiaid brwd gael y darnau unigryw a helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd angen codi £11.2 miliwn i gadw eu hofrenyddion yn yr awyr a chadw'u cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd ledled Cymru. Er mwyn dysgu rhagor am y llwybr, neu er mwyn lawrlwytho'r ap, ewch iwww.swanseacastles.com. Manage Cookie Preferences