Cerdyn Teyrngarwch Beth ydyw? Rydym am ddiolch i’n cefnogwyr teyrngar drwy gynnig y cyfle i chi ennill a chyfnewid pwyntiau wrth i chi siopa gyda ni yn ein siopau elusen gwych. Rydym wrth ein bodd yn gweld wynebau cyfarwydd yn ein siopau a bod yn rhan o’ch cymunedau. Mae eich Cerdyn Teyrngarwch yn cydnabod eich bod yn gefnogwr gwerthfawr i’r elusen a’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud i achub bywydau. Sut mae’n gweithio? Fel aelod o’r cynllun, rhowch eich Cerdyn Teyrngarwch i weithiwr y siop wrth y cownter pan fyddwch yn siopa gyda ni er mwyn ennill pwyntiau ar yr hyn y byddwch yn ei brynu. Yna, byddwch yn gallu cyfnewid eich pwyntiau er mwyn mwynhau arbedion gwych. Beth fyddaf yn ei gael? Am bob £1 y byddwch yn ei wario yn y siop, byddwch yn ennill un pwynt, sy’n cyfateb â cheiniog (agored i newid, gweler y telerau ac amodau yn llawn). Hoffem hefyd gadw mewn cysylltiad â chi mewn perthynas â gwaith ein helusen. Rydym am ddweud wrthych am y cyfleoedd gwych sydd ar gael y gall ein cefnogwyr teyrngar gymryd rhan ynddynt, o gynigion arbennig yn ein siopau i ddigwyddiadau codi arian yn eich ardal leol. Byddwn yn gofyn i chi gydsynio i hyn wrth i chi ddod yn aelod. Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth? Bydd ein timau yn ein siopau yn fodlon trafod y cynllun â chi. Dilynwch y ddolen hon ar gyfer telerau ac amodau llawn y cynllun hefyd: www.ambiwlansawyrcymru. com/amodauteleraucerdynteyrngarwch Diolch am eich cefnogaeth! Manage Cookie Preferences