Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell trais ac anhrefn: Expand Pan fydd unigolyn yn ymuno â’r loteri, byddwn yn gwirio: Pan fydd unigolyn yn ymuno â’r loteri, byddwn yn gwneud y canlynol: Cadarnhau bod yr unigolyn yn 16 neu’n hŷn. Cadarnhau bod yr unigolyn yn byw ym Mhrydain Fawr. Sicrhau ein bod yn cyfyngu nifer y cynigion i 10 cais gwerth £1 yr wythnos. Os byddwch yn cael cynigion pellach, ceidw Ambiwlans Awyr Cymru yr hawl i wneud gwiriadau pellach gyda'r unigolyn. Gall Ambiwlans Awyr Cymru ganiatáu cynigion pellach yn ôl ei ddisgresiwn ei hun. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw aelodaeth os byddwn yn amau unrhyw weithgarwch troseddol. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch troseddol gwirioneddol neu a amheuir yn unol â Deddf Enillion Troseddau 2002.
Sicrhau bod gamblo yn digwydd mewn modd teg ac agored: Expand Byddwn yn sicrhau: Bod chwaraewyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth glir am faterion megis rheolau’r loteri, y gwobrau sydd ar gael a’r siawns o ennill. Bod y rheolau yn deg. Bod unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo yn glir ac nad yw’n gamarweiniol. Bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi.
Amddiffyn plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio yn sgil gamblo: Expand Byddwn yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r materion canlynol: Gamblo o dan oed. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw unigolyn dan 16 oed gymryd rhan mewn loteri. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am brawf oedran gan unrhyw gwsmer a gellir atal cyfrif cwsmer hyd nes y ceir tystiolaeth foddhaol. Os na all unigolyn, am unrhyw reswm, brofi ei fod dros 16 oed ar ôl ennill, caiff unrhyw enillion eu fforffedu. Terfynau Gamblo. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn gosod cyfyngiad o 10 tocyn fesul raffl, ac ni ellir prynu mwy na 2 ohonynt ar-lein. Hunaneithrio. Gallwn gau aelodaeth loteri unrhyw chwaraewr ar gais, a hynny am isafswm cyfnod o chwe mis ac ni fydd modd ail-agor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r unigolyn yn ceisio agor cyfrif newydd. Mynediad i Hanes Chwaraewr. Byddwn yn darparu hanes llawn ei aelodaeth loteri i unrhyw chwaraewr ar gais, gan gynnwys hanes llawn ei daliadau a’i enillion. Darparu Gwybodaeth am Sefydliadau Cymorth Gamblo. Byddwn yn darparu manylion cyswllt neu ddolenni ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol drwy’r Lotteries Council i GREaT (Gambling Research, Education and Treatment), sy’n codi arian er mwyn cefnogi ymchwil, addysg a thrin problemau gamblo. Gwybodaeth am Hunangymorth ac Ymwybyddiaeth. Byddwn yn darparu gwybodaeth am hunangymorth ac ymwybyddiaeth ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill ynghyd â manylion cyswllt neu ddolenni i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Hyfforddi Staff. Mae’r holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar faterion yn ymwneud â phroblemau gamblo.
Gamblo Cyfrifol: Expand Er bod y mwyafrif o bobl yn gamblo yn unol â’u modd, gall gamblo fod yn broblem i rai. Efallai y bydd y pwyntiau canlynol yn eich helpu i gadw rheolaeth: · Dylid ystyried gamblo fel adloniant ac nid fel ffordd o wneud arian · Dylid osgoi ceisio adennill colledion · Ni ddylech ond gamblo yr hyn y gallwch fforddio ei golli · Dylech gadw llygad ar yr amser rydych yn ei dreulio’n gamblo a’r arian rydych yn ei wario · Os ydych am roi’r gorau i gamblo am gyfnod, gallwch ddefnyddio ein hopsiwn hunaneithrio drwy e-bostio [email protected], gan nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhifau aelodaeth. Byddwn wedyn yn cau eich aelodaeth am isafswm cyfnod o 6 mis ac ni fydd modd i chi ailagor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn am unrhyw reswm. · Os oes angen i chi siarad â rhywun am broblem gamblo, yna cysylltwch â GamCare. Elusen gofrestredig yw GamCare sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol dros y ffôn i unrhyw un y mae problem gamblo yn effeithio arno. Gellir cysylltu â GamCare ar 0845 6000 133 (am ddim o linellau tir yn y DU a’r rhan fwyaf o ffonau symudol).
Problemau Gamblo Expand Os ydych yn poeni eich bod chi (neu rywun arall) yn gaeth i gamblo, efallai y bydd y cwestiynau hyn yn eich helpu i ganfod yr ateb: A ydych yn aros i ffwrdd o’r gwaith, y coleg neu’r ysgol er mwyn gamblo? A ydych yn gamblo er mwyn dianc rhag bywyd diflas neu anhapus? Wrth gamblo ac ar ôl gwario pob un geiniog, a ydych yn teimlo ar goll ac yn ddigalon, ac yn teimlo ysfa i gamblo eto cyn gynted â phosibl? A ydych yn gamblo nes eich bod wedi gwario’r geiniog olaf, hyd yn oed cost y bws adref neu baned o de? A ydych erioed wedi ceisio cuddio faint o amser rydych wedi ei wario yn gamblo neu faint o arian rydych wedi’i wario? A yw eraill byth wedi beirniadu eich gamblo? A ydych wedi colli diddordeb yn eich teulu, eich ffrindiau neu’ch hobïau? Ar ôl colli, a ydych yn teimlo bod yn rhaid i chi geisio adennill eich colledion cyn gynted â phosibl? A yw dadleuon, rhwystredigaethau neu siomedigaethau yn cynyddu eich awydd i gamblo? A ydych yn teimlo’n isel neu hyd yn oed yn ystyried cyflawni hunanladdiad yn sgil eich gamblo? Po fwyaf yr atebion ‘ydw/ydynt’ i’r cwestiynau hyn, y mwyaf tebygol ydyw bod gennych broblem gamblo ddifrifol. Er mwyn siarad â rhywun am hyn, cysylltwch â llinell ffôn gyfrinachol GamCare ar 0845 6000 133 neu ewch i’w gwefan www.gamcare.org.uk am ragor o wybodaeth.