Amddiffyn plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio yn sgil gamblo: Byddwn yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r materion canlynol: Gamblo o dan oed. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw unigolyn dan 16 oed gymryd rhan mewn loteri. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am brawf oedran gan unrhyw gwsmer a gellir atal cyfrif cwsmer hyd nes y ceir tystiolaeth foddhaol. Os na all unigolyn, am unrhyw reswm, brofi ei fod dros 16 oed ar ôl ennill, caiff unrhyw enillion eu fforffedu. Terfynau Gamblo. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn gosod cyfyngiad o 10 tocyn fesul raffl, ac ni ellir prynu mwy na 2 ohonynt ar-lein. Hunaneithrio. Gallwn gau aelodaeth loteri unrhyw chwaraewr ar gais, a hynny am isafswm cyfnod o chwe mis ac ni fydd modd ail-agor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r unigolyn yn ceisio agor cyfrif newydd. Mynediad i Hanes Chwaraewr. Byddwn yn darparu hanes llawn ei aelodaeth loteri i unrhyw chwaraewr ar gais, gan gynnwys hanes llawn ei daliadau a’i enillion. Darparu Gwybodaeth am Sefydliadau Cymorth Gamblo. Byddwn yn darparu manylion cyswllt neu ddolenni ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol drwy’r Lotteries Council i GREaT (Gambling Research, Education and Treatment), sy’n codi arian er mwyn cefnogi ymchwil, addysg a thrin problemau gamblo. Gwybodaeth am Hunangymorth ac Ymwybyddiaeth. Byddwn yn darparu gwybodaeth am hunangymorth ac ymwybyddiaeth ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill ynghyd â manylion cyswllt neu ddolenni i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Hyfforddi Staff. Mae’r holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar faterion yn ymwneud â phroblemau gamblo. Manage Cookie Preferences