Os ydych yn poeni eich bod chi (neu rywun arall) yn gaeth i gamblo, efallai y bydd y cwestiynau hyn yn eich helpu i ganfod yr ateb:

  • A ydych yn aros i ffwrdd o’r gwaith, y coleg neu’r ysgol er mwyn gamblo?
  • A ydych yn gamblo er mwyn dianc rhag bywyd diflas neu anhapus?
  • Wrth gamblo ac ar ôl gwario pob un geiniog, a ydych yn teimlo ar goll ac yn ddigalon, ac yn teimlo ysfa i gamblo eto cyn gynted â phosibl?
  • A ydych yn gamblo nes eich bod wedi gwario’r geiniog olaf, hyd yn oed cost y bws adref neu baned o de?
  • A ydych erioed wedi ceisio cuddio faint o amser rydych wedi ei wario yn gamblo neu faint o arian rydych wedi’i wario?
  • A yw eraill byth wedi beirniadu eich gamblo?
  • A ydych wedi colli diddordeb yn eich teulu, eich ffrindiau neu’ch hobïau?
  • Ar ôl colli, a ydych yn teimlo bod yn rhaid i chi geisio adennill eich colledion cyn gynted â phosibl?
  • A yw dadleuon, rhwystredigaethau neu siomedigaethau yn cynyddu eich awydd i gamblo?
  • A ydych yn teimlo’n isel neu hyd yn oed yn ystyried cyflawni hunanladdiad yn sgil eich gamblo?

Po fwyaf yr atebion ‘ydw/ydynt’ i’r cwestiynau hyn, y mwyaf tebygol ydyw bod gennych broblem gamblo ddifrifol. Er mwyn siarad â rhywun am hyn, cysylltwch â llinell ffôn gyfrinachol GamCare ar 0845 6000 133 neu ewch i’w gwefan

www.gamcare.org.uk am ragor o wybodaeth.