Dymuna’r Elusen ddiolch i’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a’i dîm, am y gwaith y maent wedi ymgymryd ag ef fel rhan o’u hadolygiad annibynnol o’n partneriaid meddygol, sef y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys.
Mae’r broses hanfodol hon yn canolbwyntio’n llwyr ar wella’r gwasanaeth.
Pam fod yr Adolygiad hwn mor bwysig?
Mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn darparu’r safon uchaf o ofal sy’n achub bywydau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd:
Mae bywydau yn y fantol ar hyn o bryd, felly mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r materion croes o ran angen heb ei ddiwallu a’r ffaith nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ddigon.
Cynhelir yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys yn annibynnol ac rydym wedi parchu hynny. Yn debyg i’r cyhoedd, rhanddeiliad yw’r Elusen ac nid yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broses annibynnol hon.
Drwy gydol y broses hon, rydym wedi dweud y byddwn yn sicrhau bod rhoddion elusennol yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cleifion yn sgil cyflwyno unrhyw awgrymiadau annibynnol. Mae hyn yn golygu achub cymaint â phosibl o fywydau ledled Cymru a sicrhau nad yw’r un gymuned dan anfantais o ganlyniad i unrhyw newidiadau wrth wneud hynny.
Os bydd tystiolaeth fanwl a chymhellol yn cael ei chyflwyno i gefnogi’r broses o ad-drefnu gwelliannau i’r gwasanaeth, mae’n rhaid i’r Elusen weithredu’n foesegol.
Rydym wrthi’n adolygu awgrymiadau’r Comisiynydd ac yn aros am benderfyniad terfynol y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Gallwch ddarllen adroddiad y Comisiynydd yma - https://pgab.gig.cymru/ymrwymiad/age/
Hoffem ddiolch i’n cefnogwyr ymroddedig am yr angerdd maent wedi’i ddangos ac am eu cyfraniad i’r broses Adolygu. Mae ein hymrwymiad iddynt yn ddiamod ac yn dragwyddol, ac ni fydd hynny fyth yn newid.
Y nod yw darparu’r gofal gorau posibl i bobl ledled Cymru gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ni – lle bynnag y maent a phryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
Rydym yn wasanaeth Cymru gyfan. Bydd ein criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy’n achub bywyd mewn argyfwng. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth pobl Cymru.
Dros y 23 mlynedd diwethaf, rydych chi wedi ymddiried ynom. Yn ystod yr amser hwnnw, rydym wedi darparu’r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU ac un o’r gwasanaeth ambiwlans awyr meddygol mwyaf datblygedig yn y byd.
Rydym yn gofyn i chi ymddiried ynom unwaith eto, wrth i ni weithio gyda’n partneriaid meddygol i wella ein gwasanaeth achub bywyd ymhellach er budd pawb yng Nghymru.
Gyda’ch cefnogaeth barhaus, bydd ein Helusen yno i chi a’ch cymuned - nawr a bob amser.