Mae'n bleser gennym rannu brand newydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru â chi.
Dros yr 21 mlynedd diwethaf mae ein gwasanaeth wedi tyfu a datblygu'n sylweddol. O un hofrennydd yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos i wasanaeth sydd ar gael ddydd a nos bob diwrnod o'r wythnos, mae pobl Cymru wedi ein galluogi i ymateb i fwy na 42,000 o alwadau.
Y llynedd, gwnaethom dreulio amser yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer ein Helusen. Fel rhan o'r strategaeth hon, gwnaethom gydnabod bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a sicrhau bod y conglfeini ar gyfer ugain mlynedd arall o wasanaeth ar waith.
Mae'r gwaith ailfrandio yn dangos y camau cyntaf rydym wedi'u cymryd i ddatblygu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Cwblhawyd y broses gyfan yn fewnol a chan ein Dylunydd Digidol Creadigol a'n Tîm Cyfathrebu a weithiodd gyda chynrychiolwyr yr Elusen er mwyn sicrhau bod y brand yn adlewyrchu anghenion y sefydliad cyfan.
Gobeithio y byddwch yn ei hoffi gymaint ag rydym ni yn ei hoffi.
Read more
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ‘hedfan i'r dyfodol’ gyda golwg newydd sy'n cael ei datgelu heddiw (dydd Gwener 20 Mai). Read more