Mae brawd a chwaer wedi rhoi rhodd hael o £1.3 miliwn i Ambiwlans Awyr Cymru - y rhodd fwyaf y mae'r Elusen erioed wedi ei derbyn. 

Gadawodd Charles Tryweryn Davies, 92, a Margaret Eunice Davies, 89, a elwir yn Peggy, o Dyn y Wern, Faerdref yng Nghorwen, y rhan fwyaf o'u hystad a'u cyfoeth i'r Elusen sy'n achub bywydau, gan hefyd sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael gofal.

Yn blant i Robert a Margaret Davies, cafodd y brawd a'r chwaer eu magu ar fferm y deuluol gyda'u chwe brawd a chwaer arall, Maldwyn, Ivor, Lois, Trebor, Jennie ac Wmffre. Roedd y pentref a'r gymuned ffermio yn eu hadnabod yn dda, ac yn eu disgrifio fel “cymeriadau lleol,” a oedd yn byw i helpu ei gilydd. Bu farw Peggy ym mis Tachwedd 2019, a bu farw Charles bedwar mis yn ddiweddarach. 

Gwnaeth y brawd a'r chwaer garedig roi eu bywydau i'r fferm ac ymddiried yn eu ffrindiau, Merfyn Roberts ac Iolo Evans, i fod yn ysgturoion eu Hewyllysiau. 

Roedd Charles, a ddisgrifiwyd yn “gymeriad direidus”, wrth ei fodd yn casglu clociau a Land Rofers, tra roedd Peggy yn mwynhau cystadlu yn sioeau garddio blynyddol Cynwyd a Llandrillo.

Wrth siarad yn garedig amdano, dywedodd Merfyn: “Rwy'n cofio Charles yn dod i fy ngweld yn fy swyddfa, yn gwisgo ei drowsus cordyrói melyn a'i ddici-bô. Roedd goleuni yn ei lygaid bob amser. Roedd gan y ddau ohonynt steil penodol. Wna i fyth anghofio ymweld â Charles a Peggy ar ôl iddynt brynu Mercedes newydd, ac roeddent yn gadael i'r ieir glwydo ar ei ben a gwneud llanast.

“Roedd Charles yn hoffi meddwl ei fod yn arbenigwr ar y tywydd ac roedd ganddo ddamcaniaeth am y tywydd ac arwyddion i gadw golwg arnynt pan fyddai'r tymhorau'n newid. Doedden ni ddim yn gwybod am beth roedd yn sôn, ond roedd bob amser yn gwneud i ni wenu.”

Dywedodd Iolo Evans, a roedd yn Rheolwr Cyffredinol ar Ffermwyr Corwen am fwy na 50 o flynyddoedd: “Roedd Charles a Peggy yn wahanol, ac yn bobl hen ffasiwn iawn a hoffus. 

“Byddent hefyd yn dod i fy swyddfa i brynu cyflenwadau ffermio a byddai Charles yn gwneud cynnig ac yna'n nodio i Penny, a fyddai'n estyn bag o arian. Roeddent yn gymeriadau doniol ac unigryw. 


“Rydw i a Merfyn yn bwriadu rhoi cwpan er cof am Peggy mewn sioe arddio.”

Roedd Peggy bob amser yn ddiolchgar i unrhyw un a fyddai'n garedig iddi hi neu ei brawd.

Dywedodd Merfyn: “Rwy'n cofio mynd i'r tŷ i helpu gyda'r pasbortau gwartheg a chael cinio Dydd Sul fel diolch. Roedd Peggy yn amlwg wedi rhoi llawer o ymdrech i'r pryd, ac roedd yn nodweddiadol iddi ad-dalu ffafr drwy wneud rhywbeth caredig.”

Gwnaeth y “cymeriadau lliwgar” fyw bywyd syml a chyffredin, ac roeddent yn helpu'r gymuned leol wrth yrru'r tacsi ysgol. Am sawl blwyddyn, gweithiodd Charles i Gyngor Sir Ddinbych ar y priffyrdd a gweithiodd Peggy gartref ar y fferm.
Credir bod y brawd a'r chwaer wedi dewis gadael eu rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru fel diolch i'r Elusen am helpu Charles pan gafodd ddamwain â thractor ar y fferm.  

Dywedodd Merfyn, Ysgrifennydd Ardal Undeb Ffermwyr Cenedlaethol: “Rwy'n cofio Charles yn sôn wrthyf am ei ddamwain a pha mor ddiolchgar yr oedd am y gwasanaeth ardderchog a gafodd, ond ni wyddom am eu bwriadau tan ar ôl iddynt farw.

“Roedd yn dda gweld bod Charles a Peggy wedi cytuno i adael y rhan fwyaf o'u hystad i'r Elusen - pe baem yn gwybod, byddem wedi eu hannog i gwrdd â'r Elusen a gweld sut byddai eu rhodd yn helpu i barhau i achub bywydau.   

“Roedd yn braf clywed mai hon yw'r rhodd fwyaf y mae'r Elusen erioed wedi ei derbyn, ac rydym yn annog mwy o'n haelodau hefyd i adael rhodd.” 

Mae rhoddion yn ffynhonnell o incwm allweddol i'r Elusen. Wrth adael rhodd, boed yn fawr neu'n fach, mae'n galluogi Ambiwlans Awyr Cymru i helpu i achub bywydau. 

Dywedodd Phae Jones, Uwch-reolwr Rhoi a Rhodd Unigol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn ddiolchgar am y rhodd anhygoel o hael hon, sef y rhodd fwyaf sydd erioed wedi cael ei gadael i'r Elusen. Mae'n siom na wnaethom fyth gael cyfarfod Charles Peggy, ond mae'n amlwg sut gymeriadau oedden nhw ar ôl gweld eu haelioni a chlywed am y straeon amdanyn nhw.  

“Mae dewis cynnwys Elusen yn eu Hewyllysiau yn ffordd arbennig iawn o'u cofio ac yn sicrhau y bydd rhodd Charles a Peggy i Gymru yn parhau wrth ddarparu gofal critigol uwch ac wrth achub bywydau eraill.

“Bydd eu rhodd yn ariannu dros 280 o genadaethau achub bywydau. Mae hynny'n fwy na 280 o gleifion a'u teuluoedd y caiff eu bywydau eu heffeithio gan eu caredigrwydd eithriadol. 

Yn ystod eu blynyddoedd olaf, treuliodd Charles a Peggy amser yng nghartref nyrsio Cysgod Y Gaer yng Nghorwen.
Ychwanegodd Merfyn: “Hoffem ddiolch i'r staff yng Nghysgod Y Gaer am ofalu am Charles a Peggy yn eithriadol o dda. Gallaf ddychmygu y byddai Charles wedi bod ar goll heb Peggy. 

“Maent wedi cael eu claddu ger eu brawd, Ivor. Ar eu carreg fedd, mae'n dweud ‘Rhoi eu hoes i ffermio’n gymen, Rhoi eu helw i elusen’, ac rwy'n credu bod hyn yn eu disgrifio mewn ffordd hyfryd.”

Caiff mainc er cof am Charles a Peggy ei gosod yn Llandrillo gyda'r gobaith y bydd y gymuned yn eu cofio, yn ogystal â thrwy eu rhodd hael i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd angen £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion a'i cherbydau ymateb cyflym yn weithredol.

Mae'r Elusen yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).