22/06/2020

Mae merch ysgol â chalon fawr, Elsie Rose, wedi codi mwy na £1,239 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy dreulio ei hamser hamdden yn gwneud crefftau o waith llaw ac yn eu gwerthu i bobl – gan gynnwys y Frenhines.

Ers mis Hydref 2019, mae Elsie Rose Crowther-Willingham, 11, o Fochdre ym Mae Colwyn, wedi defnyddio ei chreadigrwydd i wneud cardiau, torchau Nadolig, tagiau anrhegion a chalendrau i godi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer yr Elusen. Mae wedi bod wrthi'n brysur yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, yn creu ac yn anfon cardiau i roi gwên ar wynebau pobl.

Cafodd Elsie Rose lythyr o ddiolch gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, ar ôl gwneud cerdyn pen-blwydd arbennig ar ei chyfer a'i anfon ati.

Mae wedi anfon mwy na 40 o'i chardiau at ei theulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfyngiadau symud, er mwyn rhoi gwybod iddynt ei bod yn meddwl amdanynt.

Ar y dechrau, bwriad Elsie Rose oedd codi £100 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy wneud cardiau Nadolig yn unig, ond yn sgil y galw mawr am ei gwaith crefft a'i doniau artistig, mae bellach yn cynnig amrywiaeth o wahanol gardiau, gan gynnwys cardiau pen-blwydd, cardiau diolch, cardiau Sul y Mamau, cardiau Pasg a chardiau Sul y Tadau.

Cyn y pandemig, roedd Elsie Rose yn mwynhau mynd i Gaffi HEMS yr Elusen ym maes awyr Caernarfon, lle mae hofrennydd Gogledd Cymru wedi'i leoli. Dywedodd: "Roeddwn am godi arian am fy mod eisiau helpu pobl sâl sydd angen yr ambiwlans awyr, ac weithiau rwy'n gweld yr hofrennydd yn hedfan.

"Rwy'n gofyn i bobl roi cymaint ag y maent yn ei ddymuno am y cardiau, ac rwyf wedi gwneud mwy na 300 ohonynt hyd yma. Mae fy nghardiau'n gwerthu'n dda iawn. Rwy'n hoffi gwneud cardiau ar ôl ysgol ac yn ystod fy amser rhydd. Mae'n hwyl.

"Ar y dechrau roeddwn am godi £100. Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn yn codi mwy na £1000."

Gwnaeth ymdrechion codi arian Elsie Rose, sy'n ddisgybl yn Ysgol Bod Alaw, hefyd ysbrydoli ei theulu a'i ffrindiau i ymuno â hi i gymryd rhan yn Nhrochiad Mawr Gŵyl San Steffan Llandudno.

Dywedodd Steffan Anderson-Thomas, Arweinydd Corfforaethol a Digwyddiadau Ambiwlans Awyr Cymru, "Mae hyn wedi bod yn her codi arian gwych i Elsie Rose, ac yn syniad da iawn. Mae codi mwy na 12 gwaith ei tharged yn gyflawniad anhygoel, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am y gefnogaeth wych."

Dechreuodd greu cardiau yn wreiddiol er mwyn ei chadw'n brysur pan oedd y tywydd yn wael. Nawr, unwaith y daw archeb i law, mae'n cychwyn arno'n syth.

Mae ei theulu cyfan yn falch o ymroddiad Elsie Rose i'r gwaith o godi arian i'r elusen sy'n achub bywydau. Dywedodd ei mam, Victoria Crowther: "Rwy'n hynod o falch o'i charedigrwydd, ac rwy'n ei charu'n fawr iawn."

O ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol, mae Elsie Rose wedi bod yn gwneud cardiau Sul y Tadau gyda'i mam-gu, Cal, dros FaceTime.

Mae ei chrefftau i gyd ar gael i'w prynu o'i thudalen Facebook, sef Elsie Rose Handmade Crafts.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian – fel Elsie Rose. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.