Beth yw Ewyllys? Expand Dogfen gyfreithiol yw eich Ewyllys, sy’n nodi i bwy rydych am i’ch eiddo fynd pan fyddwch yn marw.
Pam ddylaf ysgrifennu Ewyllys? Expand Os byddwch yn penderfynu peidio â gadael ewyllys, bydd y llywodraeth yn dewis sut y bydd eich ystâd yn cael ei rannu. Yn hytrach, os byddwch yn penderfynu creu Ewyllys, bydd eich teulu a'ch ffrindiau’n glir o ran sut yr hoffech i’ch ystâd gael ei rannu.
A ddylwn i ddiweddaru fy ewyllys? Expand Mae'n bwysig cofio wrth lunio eich ewyllys y gallai fod angen ei newid yn ddiweddarach oherwydd amgylchiadau. Er enghraifft, os byddwch yn ysgaru, yn colli anwylyd, neu os byddwch yn dechrau teulu, efallai y byddwch am wneud newidiadau i'r wybodaeth yn eich ewyllys. Er mwyn gwneud newidiadau i'ch ewyllys, bydd angen i chi ychwanegu Codisil A lofnodir o flaen tyst.
Beth yw’r gwahanol fathau o roddion y gallaf eu gadael i elusen? Expand Mae yna dair prif ffordd o adael cymynrodd i elusen: 1. Cymynrodd benodol, sef eitem benodol sydd wedi'i gadael i elusen e.e. gemwaith 2. Cymynrodd weddilliol yw'r hyn sy’n weddill ar ôl i bob rhodd o'r ewyllys gael ei darparu. Gallwch adael rhan neu’r cyfan o'r hyn sy'n weddill. 3. Cymynrodd ariannol yw pan fyddwch yn gadael swm penodol o arian.
Beth os na allaf ond adael rhodd fach? Expand Does dim ots beth yw'r swm, yn fawr neu'n fach, rydym yn gwerthfawrogi pob un gymynrodd. Mae pob rhodd yn helpu i ariannu cyrchoedd achub bywyd.
Beth yw Ysgutor? Expand Person neu sefydliad sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cyfarwyddiadau yn eich ewyllys yn cael eu cyflawni.