Cam 1 – Casglu rhoddion neu arian nawdd Expand Un o’r pethau cyntaf y dylech ei ystyried yw sut y byddwch yn casglu arian nawdd. Dyma rai syniadau: Ffurflen Noddi Beth am Ffurflen Noddi syml? Mae'n cynnwys opsiwn Rhodd Cymorth sy’n galluogi elusennau i hawlio 25c am bob £1 y byddwch yn ei rhoi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r manylion llawn ar y ffurflen. Os byddwch yn penderfynu defnyddio un o’n ffurflenni noddi, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] , er mwyn dweud wrthym beth rydych yn ei wneud; yna gallwn anfon crys-t ac adnoddau codi arian eraill atoch i'ch helpu. JustGiving a llwyfannau gwneud rhodd ar-lein erail Creu tudalen JustGiving yw'r ffordd fwyaf cyflym a syml o ddweud wrth bobl eich bod yn codi arian. Ewch i https://www.justgiving.com/waa a dilynwch y cyfarwyddiadau i greu eich tudalen codi arian eich hun. Gwneud rhodd drwy neges destun Mae JustGiving yn cynnig cod neges destun personol, sy’n golygu y gall unrhyw un eich noddi drwy anfon neges destun. Perffaith ar gyfer gwneud rhodd gyflym. Facebook Ydych chi’n hoffi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Mae Facebook nawr yn cynnig ffordd syml a hawdd o godi arian drwy eich tudalen eich hun. . Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen hon, https://www.facebook.com/fundraisers/, rhannu eich stori, gosod targed codi arian a gwylio'r rhoddion yn cynyddu.
Cam 2 – Hysbysebu eich digwyddiad Expand Po fwyaf o bobl sy’n gwybod am eich digwyddiad, y mwyaf o roddion rydych yn debygol o’u cael. Drwy hyrwyddo eich digwyddiad rydych yn llawer mwy tebygol o godi mwy o arian. Rhannu eich digwyddiad Atgoffwch eich ffrindiau am yr hyn rydych yn wneud a pham drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cadw mewn cyswllt Mae gan bawb ddulliau gwahanol o gyfathrebu – manteisiwch ar hynny; e-bostiwch, anfonwch negeseuon testun, neu diweddarwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chadwch mewn cysylltiad â’ch noddwyr. Cofiwch ddweud diolch Cofiwch ddiolch am bob un rhodd. P’un a fydd rhywun yn prynu tocyn neu’n cyfrannu gwobr ar gyfer raffl, dangoswch eich gwerthfawrogiad.
Cam 3 – Cadw'n ddiogel ac yn gyfreithlon Expand Raffl Mae Raffl yn ffordd dda o godi arian, ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o’r gyfraith ac a fydd angen trwydded arnoch ar gyfer eich digwyddiad. Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i www.gamblingcommission.gov.uk, a siaradwch â’ch swyddog codi arian cymunedol. Yswiriant a Thrwyddedau Rydym yma i’ch helpu i drefnu eich digwyddiad, ond chi sy’n gyfrifol am eich gweithgareddau ac ni all Ambiwlans Awyr Cymru gymryd unrhyw gyfrifoldeb. Rydym yn eich annog i ofyn i’ch awdurdod lleol a oes angen trwydded arbennig arnoch ar gyfer eich digwyddiad. Gallwch hefyd ddarllen gwybodaeth am ddigwyddiadau gan y Rheoleiddiwr Codi Arian a chyfarwyddiadau i wirfoddolwyr gan y Sefydliad Codi Arian. Hylendid Bwyd Os ydych yn trefnu digwyddiad ac yn bwriadu gwerthu bwyd, mae'n bwysig cofio y bydd cyfreithiau diogelwch bwyd yn gymwys. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk
Cam 4 – Opsiynau Talu Expand Bydd pob ceiniog y byddwch yn ei chodi yn ein galluogi i barhau i achub bywydau yng Nghymru. Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch anfon eich rhoddion atom. JustGiving Mae JustGiving yn adnodd gwych sy’n symleiddio'r broses o wneud rhodd neu noddi. Mae pob rhodd yn cael ei anfon yn syth atom drwy dudalen Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ogystal, bydd unrhyw arian a roddir ar ôl eich digwyddiad yn dod yn syth atom hefyd. Facebook Mae Facebook yn syml ac yn hawdd ac mae unrhyw roddion yn cael eu hanfon yn syth atom.. Dros y Ffôn Ffoniwch ni ar 0300 0152 999 a gadewch i un o’n cynrychiolwyr hyfryd eich tywys drwy’r broses. Cofiwch ddweud wrtho sut y gwnaethoch godi eich cyfanswm! Drwy'r Post Rydym yn dwlu derbyn llythyron a chlywed eich straeon. Er mwyn anfon eich arian atom, bydd angen i chi bostio’r canlynol: · unrhyw ffurflenni nawdd a gwblhawyd · naill ai'r ffurflen bancio, neu siec os byddwch yn penderfynu gwneud rhodd drwy'r post. (Sieciau yn daladwy i Ambiwlans Awyr Cymru) Wales Air AmbulanceTy Elusen Llanelli Gate DafenLlanelliSA14 8IQ