Y Gala 2024 Ymunwch â ni ar gyfer ein Dathliad Cinio Mawreddog cyntaf erioed, a fydd yn digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddydd Gwener 1 Mawrth, sef ein pen-blwydd yn 23 oed. Bydd y Dathliad Cinio Mawreddog yn digwydd yng nghanol prifddinas Cymru yng Ngwesty bywiog a ffasiynol y Marriott. Gwisgwch wisg drawiadol a mwynhewch noswaith o ddathlu wrth godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd y noson yn cynnwys derbynwest, gwesteion arbennig, ocsiwn elusennol, pryd tri chwrs a dawnsio. Archebwch eich tocyn am noson llawn dathlu ac ysbrydoliaeth. Y Gala Dyddiad Dydd Gwener 1 Mawrth 2024. 7.30pm tan yn hwyr. (I'W GADARNHAU) Lleoliad Gwesty'r Marriott, Mill Lane, Caerdydd, CF10 1EZ Gwisg Gwisgwch wisg drawiadol Gwybodaeth am Docynnau Byrddau o ddeg am £750 Llety Bydd ystafelloedd ar gael am bris gostyngol i holl westeion y Noson Fawreddog. Ffoniwch Westy'r Marriott yn uniongyrchol i drefnu hyn. Sylwch mai nifer cyfyngedig o'r ystafelloedd hyn sydd ar gael, a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. (I'W GADARNHAU) Cysylltu â Ni Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y Noson Fawreddog neu os hoffech gefnogi'r digwyddiad mewn ffordd arall, cysylltwch â Sinay Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol [email protected] Manage Cookie Preferences