Cerdded Cymru 2024 Cerdded Cymru 2024 Ni allwn aros i ddechrau ar ein digwyddiad blynyddol poblogaidd, sydd yn ôl eleni eto. Eleni, rydym yn gofyn i gyfranogwyr o bob oedran gymryd rhan yn ein her 50 milltir ym mis Mehefin. Y peth gwych am yr her rithwir 'Cerdded Cymru - 50 milltir ym mis Mehefin' yw y gallwch gymryd rhan unrhyw le, unrhyw bryd. Mae hefyd yn wych ar gyfer eich llesiant corfforol a meddyliol. P'un a fyddwch yn cerdded, rhedeg, loncian neu'n cwblhau'r pellter 50 milltir gartref, byddwch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Gallwch gofrestru AM DDIM ond os byddwch yn codi £50 i'r elusen, byddwch yn cael crys-t chwaraeon arbennig Ambiwlans Awyr Cymru. Cymerwch y cam cyntaf heddiw a chofrestrwch i gerdded 50 milltir ym mis Mehefin! Mae dwy ffordd i chi gymryd rhan yn ein her Cerdded Cymru; yn uniongyrchol drwy Facebook neu drwy ein gwefan ein hunain. Cofrestrwch trwy Facebook: Yn syml, llenwch y ffurflen hon drwy Facebook i gofrestru i gymryd rhan – mae'n hawdd ac yn gyflym, a gallwch greu tudalen codi arian yn syth. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch hefyd ymuno â'n grŵp Cerdded Cymru lle gallwch glywed straeon gan gyfranogwyr eraill a rhannu eich diweddariadau eich hun. Cofrestrwch trwy ein gwefan: Os nad oes gennych Facebook, neu os byddai'n well gennych gofrestru ar-lein, lluniwch dudalen Just Giving a chychwyn ar eich her i godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at ein tîm Codi Arian:[email protected] *Sylwch fod yn rhaid i chi gyrraedd y targed carreg filltir fel unigolyn ac nid sefydliad er mwyn cael crys-t. Os byddwch yn cwblhau'r her fel sefydliad, un crys-t yn unig y byddwch yn gymwys i'w chael.* Manage Cookie Preferences