Gadewch i'ch etifeddiaeth barhau trwy achub bywyd rhywun arall...
Mae llunio Ewyllys yn gwneud adeg anodd ychydig yn haws i'r sawl sydd o'ch cwmpas. Rydym yn gobeithio, ar ôl gofalu am eich anwyliaid, y byddwch yn meddwl amdanom ni hefyd.
Bob blwyddyn mae angen i ni godi £8 miliwn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n Cerbydau Ymateb Cyflym ar y tir. Mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn ffynhonnell allweddol o incwm i ni ac maent wedi ariannu un o'n pedwar hofrennydd yn y 12 mis diwethaf.
Rydych yn ein galluogi i achub bywydau drwy adael Rhodd i'n Helusen. Rydych yn helpu'r sawl sydd mewn angen pan fydd ei angen arnynt fwyaf, ac yn sicrhau dyfodol iddynt - am rodd i'w gadael.
Does dim rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn bwriadu gadael rhodd, ond byddem wrth ein bodd dweud diolch a dangos i chi sut y gallem ei defnyddio. Os byddwch yn penderfynu gadael rhodd yn eich Ewyllys, rydym yn addo ei defnyddio'n ystyriol ac effeithiol, gan sicrhau bod eich etifeddiaeth yn parhau.
Rydym yn ddiolchgar iawn am unrhyw rodd y gallwn ei chael a fydd yn ein galluogi i barhau i achub bywydau ledled Cymru.
Read more