Bu farw'r cyn-filwr RAF a'r dyn busnes electroneg o Dreharris ym mis Medi 2018. Yn ei Ewyllys, rhoddodd £411,110 i'r elusen hofrenyddion. 

Julie Richards a Nigel Arrighi yw ysgutorion yr ystad ac maent yn cofio eu ffrind yn annwyl. 

Dywedodd Julie: “Cwrddais i â Desmond tua wyth mlynedd yn ôl fel gofalwr. I ddechrau, roedd yn cymryd ychydig o amser i ddod i'w adnabod ond yn fuan roeddem yn dod ymlaen yn dda iawn a daeth yn rhan o'r teulu. Gwnaethom lawer o atgofion melys gyda'n gilydd ac rwy'n gweld ei eisiau yn fawr.”

Daeth Nigel a Desmond yn ffrindiau gyntaf dros ddau ddegawd yn ôl. Dywedodd Nigel: “Rwy'n cofio cwrdd â Desmond i'w helpu gyda chyfrifiadur. Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn ffotograffiaeth a golygu lluniau ond roedd yn cael ychydig o broblemau. Cynigais roi help llaw a datblygodd ein cyfeillgarwch o hynny.” 

Gwasanaethodd Desmond, a oedd yn fab i bostmon ac athrawes piano, yn yr RAF fel gweithredwr radio yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn symud i Lundain i weithio mewn electroneg. 

Dywedodd Nigel: “Roeddwn yn ddigon ffodus i sgwrsio'n fanwl â Desmond am ei fywyd llawn digwyddiadau. Nid yn unig roedd ganddo ddiddordeb mewn radio ac electroneg, ond roedd hefyd yn grefyddol iawn. Rhoddodd gymorth bugeiliol yn ystod y rhyfel a, phan symudodd i Lundain, daeth yn Weinidog a helpodd bobl ddigartref. Roedd Desmond yn berson diffuant a gellir olrhain ei ochr hael yn ôl i'w gyfnod fel dyn ifanc.” 

Ar ôl cyrraedd uchafbwynt ei yrfa yn berchen ar ei fusnes electroneg ei hun, dychwelodd Desmond i Dde Cymru i ymddeol. 

Dywedodd Julie: “Roedd calon Des wedi bod yn Ne Cymru erioed ac rwy'n credu mai dyna pam y dychwelodd i Benarth o Lundain ar ôl ymddeol.” 

Ychwanegodd Nigel: “Yn anffodus bu farw Des ym mis Medi 2018 gan adael swm enfawr o'i ystad i'r elusen. Nododd yn glir yn ei Ewyllys ei fod am roi rhywfaint o'i arian i Ambiwlans Awyr Cymru, nid yn unig i helpu pobl ond hefyd am fod ganddo ddiddordeb brwd mewn hofrenyddion a hedfanaeth. Roedd gwaith yr ambiwlans awyr wedi creu argraff ar Des a chafodd ei ysbrydoli gan rywbeth y gellid ei wneud i helpu'r rhai sydd mewn gwir angen.

Dywedodd James Stephens o Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wedi ein syfrdanu yn llwyr gan y rhodd anhygoel o hael hwn. Mae'n drueni na wnaethom gwrdd â Desmond ond mae'n glir o'i haelioni pa fath o gymeriad ydoedd. Mae'n galonogol gweld cymaint o gefnogaeth gan bobl sydd wir am wneud gwahaniaeth. Bydd y gymynrodd a adawodd Desmond yn sicrhau y caiff ein pedwar hofrennydd eu cynnal a'u cadw a'u bod yn barod i ymateb i alwadau brys ledled Cymru, 365 diwrnod y flwyddyn.

"Mae pob rhodd, ni waeth beth yw'r swm, bob amser yn cael ei gwerthfawrogi."  

Ychwanegodd Julie: “Pe bawn yn gallu disgrifio Desmond mewn ychydig eiriau, byddem yn dweud ei fod bob amser am helpu a byddai'n hoffi cael ei gofio fel un o'r bobl dda yn y byd hwn. Gobeithio drwy gyflwyno'r swm enfawr hwn o arian i Ambiwlans Awyr Cymru nid yn unig y bydd Desmond yn falch ohonom, ond byddwn yn galluogi ei etifeddiaeth i barhau yn y gwaith sy'n achub bywydau y mae'r Elusen yn ei wneud.” 

Bob blwyddyn mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. Mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn ffynhonnell allweddol o incwm i'r Elusen ac maent wedi ariannu un o'r pedwar hofrennydd yn y 12 mis diwethaf.