Does dim rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn bwriadu gadael rhodd, ond byddem wrth ein bodd dweud diolch a dangos i chi sut y gallem ei defnyddio. Os ydych yn penderfynu gadael rhodd yn eich Ewyllys, rydym yn addo i'w defnyddio'n ystyriol ac yn effeithiol, gan sicrhau bod eich etifeddiaeth yn parhau.


 

Os nad oes gennych Ewyllys yn barod

Os ydych yn bwriadu creu Ewyllys a gadael rhodd i ni, defnyddiwch y manylion canlynol:

Ein manylion:

Ymddiriedolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ

Ein rhif elusen gofrestredig: 1083645

Fel arall, cliciwch yma i greu Ewyllys syml am ddim gydag un o'n partneriaid.


Os oes gennych Ewyllys yn barod

Os oes gennych Ewyllys yn barod ac eisiau gadael rhodd i'n helusen ni erbyn hyn, yna codisil yw'r ffordd hawsaf o wneud y newidiadau hyn. Mae codisil yn ddogfen gyfreithiol fer sy'n addasu neu ychwanegu at Ewyllys sydd eisoes yn bodoli.

Yn syml, llenwch y Codisil ym mhresenoldeb dau dyst (rhaid iddynt fod yn oedolion a heb fod yn perthyn i'w gilydd) er mwyn cynnwys rhodd i Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw'r codisil gyda'ch Ewyllys er mwyn i'ch ysgutorion ddod o hyd iddo.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â rhywun ynglŷn â rhoddion mewn Ewyllysiau, cysylltwch â Wendy McManus, Swyddog Codi Arian Cymynroddion.

E-bostiwch: [email protected]

Ffôn: 07375033441