Cyflwyno ein dau bartner sy'n creu Ewyllysiau mewn ffordd syml ac am ddim - Guardian Angel a'r Rhwydwaith Cenedlaethol Ewyllysiau am Ddim.

Mae'r partneriaid hyn yn cynnig proses hawdd lle gallwch naill ai ysgrifennu Ewyllys ar-lein neu ddewis cyfreithiwr lleol i siarad ag ef.


Rhwydwaith Cenedlaethol Ewyllysiau am Ddim

Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol Ewyllysiau am Ddim yn rhwydwaith cenedlaethol o gyfreithwyr lleol sy'n cynnig Ewyllysiau am ddim i gefnogwyr elusen. Cewch eich atgyfeirio at y rhwydwaith gennym ni ac yna cewch becyn yn y post gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Dewiswch gyfreithiwr lleol, trefnwch apwyntiad ac ysgrifennwch eich Ewyllys.

I gael eich atgyfeirio at y Rhwydwaith Cenedlaethol Ewyllysiau am Ddim, cysylltwch â'r Swyddog Codi Arian Cymynrodd, Wendy McManus, drwy e-bost [email protected]


Guardian Angel

Mae Guardian Angel yn cynnig proses ar-lein syml er mwyn gwneud cynllunio ac ysgrifennu eich Ewyllys yn brofiad cadarnhaol. Dilynwch y canllaw cam wrth gam hawdd, darparwch eich manylion, eich dymuniadau, a dyna ni. Caiff eich Ewyllys ei wirio gan arbenigwr mewnol, ac yna ei anfon yn ôl atoch i'w argraffu, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i wneud eich Ewyllys yn gyfreithiol-rwymol.

I ysgrifennu eich ewyllys ar-lein am ddim, cliciwch yma.


"Roedd llunio Ewyllys ar-lein yn apelio ataf oherwydd roedd yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn fy amser fy hun, a doedd dim angen trefnu apwyntiad i weld rhywun. Cefais fy synnu mai dim ond rhyw 20 munud y cymerodd i mi lunio fy Ewyllys o'r dechrau i'r diwedd. Roedd y ffurflen yn glir ac yn gryno, ac roedd y wefan yn hawdd ei defnyddio. Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb lunio Ewyllys yn barod i roi cynnig ar y llwyfan llunio Ewyllys ar-lein, er mwyn gweld pa mor syml ydyw.”  - James Stephens, Cyfarwyddwr Ariannol Ambiwlans Awyr Cymru.