Pwy ydym ni Amdanom Ni Pwy ydym ni Achub Bywydau. Dros Gymru Ariennir Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru. Rydym yn gweithredu pedwar o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau – diolch i bobl Cymru. Rydym yn dibynnu'n gyfan gwbl ar eich rhoddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r Cerbydau Ymateb Cyflym ar y ddaear ledled Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. Mae ein Helusen wedi ymateb i fwy na 43,000 o alwadau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bydd ein hangen arnynt. Manage Cookie Preferences