Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ‘hedfan i'r dyfodol’ gyda golwg newydd sy'n cael ei datgelu heddiw (dydd Gwener 20 Mai).

Mae'r Elusen, sydd bellach yn 21 oed, yn edrych yn ôl yn llawn balchder ar ei chyflawniadau sydd wedi achub bywydau ac edrych ymlaen hefyd i sicrhau y gall fod ar gael i bobl Cymru dros y degawdau sydd i ddod. Fel rhan o'r ffocws hwn ar y dyfodol, ceisiwyd adborth gan gyflogeion, gwirfoddolwyr, criwiau meddygol, ymddiriedolwyr a chefnogwyr yr Elusen. O ran hunaniaeth yr Elusen, dangosodd yr ymatebion fod pobl yn cysylltu'n gryf â'r hunaniaeth Gymreig sy'n cael ei chyfleu gan Ambiwlans Awyr Cymru, ond nad oedd y logo cyfredol yn adlewyrchu'r hyn mae'r Elusen yn ei wneud.

Bu tîm prosiect o gyflogeion, wedi'u harwain gan Ddylunydd Digidol Creadigol yr Elusen, Lauren Burden, yn ystyried yr adborth a chawsant y dasg o greu hunaniaeth newydd ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a'i phrofi gyda chefnogwyr. Y canlyniad yw golwg newydd a fydd yn dod i rym o ddydd Gwener 20 Mai.

Bydd  dyluniad wedi'i foderneiddio disodli'r llafnau rotor coch a oedd yn rhan o logo gwreiddiol Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r hunaniaeth weledol newydd yn cynnwys hofrennydd haniaethol wedi’i amgylchynu gan gynffon draig nodedig. Mae cynffon y ddraig yn gosod Ambiwlans Awyr Cymru ar wahân i elusennau ambiwlans awyr eraill yn y DU ac mae'n cyd-fynd â'r lifrai ar hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym yr Elusen. Mae'r siâp crwn hefyd yn symbol o amddiffyniad a chryfder.

Yn ogystal â logo newydd, mae'r gwaith ailfrandio yn cynnwys palet lliwiau mwy, cyflwyno ffontiau cliriach a mwy modern, yn ogystal â chreu canllawiau brand sy'n cwmpasu tôn llais yr Elusen mewn gwaith cyfathrebu ac arddull ffotograffau.

Mae adborth y cyhoedd am y gwaith ailfrandio wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt, fel y gwelir yn y sylwadau canlynol:

“Mae'r logo arfaethedig yn fodern iawn, yn unigryw a bydd yn apelio at ddemograffeg iau yn ogystal ag ymddangos yn newydd i'r cefnogwyr presennol.” 

“Mae'n fodern, yn unigryw ac yn gynrychioliad amlwg o ambiwlans awyr.” 

“Rwyf wrth fy modd â chynffon y ddraig sy'n chwifio o'r hofrennydd.”

Dywedodd Lauren Burden: “Mae ymchwil wedi dangos y gall gwaith ailfrandio gynyddu cyfleoedd i godi arian, gan helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r Elusen. Dylanwedir yn uniongyrchol ar barodrwydd pobl i roi o'u hamser a'u harian i achos gan y cysylltiad cadarnhaol sydd ganddynt â'r brand.

“Mae hwn wedi bod yn brosiect cyffrous i'w arwain. Rydym wedi penderfynu ar ein brand newydd ond nawr rydym yn dechrau ar y gwaith sylweddol o'i gyflwyno ar draws yr Elusen, a byddwn yn gwneud hynny dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr yr Elusen: “Rydym yn falch o ddatgelu ein brand newydd i bobl Cymru. Mae brand sefydliad yn un o'i asedau mwyaf gwerthfawr, ac mae hyn yn wir i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru hefyd. Mae brandio yn allweddol i'n hunaniaeth ac yn cynnig cysondeb. Mae'n cyfleu pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, a'r hyn rydym yn sefyll drosto. Wrth i'r Elusen gychwyn ar adolygiad strategol helaeth a phellgyrhaeddol, cawsom gyfle i ailystyried ein brand.

“Mae'r gwaith o ddatblygu'r hunaniaeth newydd hon wedi bod yn gynhwysol, gan ddwyn ynghyd farn y rhai sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth. Rwyf hefyd yn falch iawn bod y darn sylweddol hwn o waith wedi cael ei gynnal yn fewnol, gan ddefnyddio arbenigedd creadigol ein tîm cyfathrebu a dylunio.”

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn trosglwyddo cleifion rhwng ysbytai pan fydd angen triniaeth frys ar unwaith mewn cyfleuster gofal iechyd arbenigol. Caiff y gwasanaeth hwn ei gefnogi gan dîm o Ymarferwyr Trosglwyddo.

I ddathlu'r brand newydd, bydd yr Elusen yn cynnal cystadleuaeth ar-lein i ennill ymweliad ag un o'r gorsafoedd awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.