Mae brand sefydliad yn un o'i asedau mwyaf gwerthfawr, sy'n wir am ein Helusen ni hefyd. Mae brandio yn allweddol i'n hunaniaeth ac yn cynnig cysondeb . Mae'n cyfleu pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, a'r hyn rydym yn sefyll drosto.  

Rydym yn elusen Gymreig falch ac mae ein brand yn talu teyrnged i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.  

Y logo

Mae logo Ambiwlans Awyr Cymru yn cynrychioli'r sefydliad cyfan ac, felly, mae'n un o'n hasedau pwysicaf. I'n cefnogwr, dyma'r elfen weledol sy'n dangos mai Ambiwlans Awyr Cymru ydym ni. 

Mae cynffon y ddraig yn cyfleu ein treftadaeth Gymreig gan ei bod yn cynrychioli baner genedlaethol Cymru ac mae'n cyd-fynd â'r lifrai ar yr hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym. Mae'r siâp crwn hefyd yn symbol o amddiffyniad a chryfder.  

Pwysleisir yr hunaniaeth Gymreig ymhellach drwy ein penderfyniad i barhau i ddefnyddio'r lliwiau cenedlaethol coch a gwyrdd a thynnu sylw at y geiriau ‘Wales’ a ‘Cymru’. 

Ein lliwiau newydd

Mr Eaves XL San OT –   teip cyfeillgar a phwerus sy'n cyfleu ymddiriedaeth ac sy'n cael effaith weledol gadarn.

Y Blue Moon - teip llawysgrifen sy'n cyfleu neges ddiffuant a phersonol.

Calibri - ar yr holl ddeunyddiau eraill, megis e-byst, gwefannau a llythyrau, a byddwn yn defnyddio Calibri gan ei bod yn ffont glir a modern sydd fel arfer ar gael ar bob dyfais.

Ein ffontiau newydd