Mae'n bleser gennym rannu brand newydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru â chi.
Dros yr 21 mlynedd diwethaf mae ein gwasanaeth wedi tyfu a datblygu'n sylweddol. O un hofrennydd yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos i wasanaeth sydd ar gael ddydd a nos bob diwrnod o'r wythnos, mae pobl Cymru wedi ein galluogi i ymateb i fwy na 42,000 o alwadau.
Y llynedd, gwnaethom dreulio amser yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer ein Helusen. Fel rhan o'r strategaeth hon, gwnaethom gydnabod bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a sicrhau bod y conglfeini ar gyfer ugain mlynedd arall o wasanaeth ar waith.
Mae'r gwaith ailfrandio yn dangos y camau cyntaf rydym wedi'u cymryd i ddatblygu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Cwblhawyd y broses gyfan yn fewnol a chan ein Dylunydd Digidol Creadigol a'n Tîm Cyfathrebu a weithiodd gyda chynrychiolwyr yr Elusen er mwyn sicrhau bod y brand yn adlewyrchu anghenion y sefydliad cyfan.
Gobeithio y byddwch yn ei hoffi gymaint ag rydym ni yn ei hoffi.
Read more