Rhoi Eitemau a'u Dosbarthu Er mwyn sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch ein staff, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffyrdd rydym yn derbyn rhoddion ac yn dosbarthu eitemau. - Rhoi Eitemau: Yn anffodus, dim ond nifer cyfyngedig o eitemau y gallwn eu derbyn ar hyn o bryd. Mae hyn am mai lle cyfyngedig sydd gennym yn ein siop, ac mae angen i ni ynysu'r eitemau am gyfnod er mwyn osgoi'r risg bosibl o groeshalogi. Dosbarthu eitemau: Yn anffodus, dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gallwn ei gynnig ar hyn o bryd. Bydd unrhyw eitemau a ddosberthir gennym yn cael eu gadael wrth ymyl y palmant yn hytrach na'u cludo i mewn i gartrefi. Byddai'n well gennym pe byddech yn casglu eitemau o'r siop yn bersonol, lle y bo'n bosibl. - O dan yr amgylchiadau anodd hyn, rydym yn ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i chi, eich cadw'n ddiogel a dilyn canllawiau'r llywodraeth. Diolch am deall. Mae eich cwsmeriaeth yn hollbwysig i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau. Manage Cookie Preferences