Amgylchoadau lle y byddwn yn anfon eich data personol y tu allan i'r ardal economaidd ewropaidd (AEE) Dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y byddwn yn anfon eich data personol y tu allan i'r AEE: Er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; Mae angen gwneud hynny er mwyn cyflawni contract; Rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaethau â gweinyddion sydd wedi'u lleoli mewn gwledydd eraill. Os byddwn yn trosglwyddo eich data personol i wlad y tu allan i'r AEE, byddwn yn defnyddio un o'r mesurau diogelwch hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi'u diogelu: Dim ond i wlad y tu allan i'r AEE y mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi penderfynu bod ganddi lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer data personol y byddwn yn eu trosglwyddo. Mae rhagor o wybodaeth am wledydd o'r fath ar gael yn: https://ec.europa.eu/info/law/law-topic/data-protection_en; Byddwn yn rhoi contract ysgrifenedig rhyngom ni a'r derbynnydd ar waith, sy'n cynnwys cymalau enghreifftiol y Comisiwn Ewropeaidd sy'n ymwneud â throsglwyddo data personol i wledydd y tu allan i'r AEE. Mae rhagor o wybodaeth am gymalau o'r fath ar gae yn: ICO/international transfers; Dim ond i fusnesau sydd wedi ymrwymo i gytundeb arbennig rhwng y DU ac UDA a elwir yn 'Privacy Shield' y byddwn yn trosglwyddo eich data personol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chwilio Rhestr 'Privacy Shield' yn: https://www.privacyshield.gov/welcome