Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol ac electronig ar waith er mwyn sicrhau na chaiff data personol o dan ein rheolaeth eu colli, eu camddefnyddio na'u newid. Er na allwn warantu na chaiff data eu colli, eu camddefnyddio na'u newid o dan ein rheolaeth, rydym yn dilyn gweithdrefnau llym ac yn cydymffurfio â'r gyfraith er mwyn diogelu data cymaint â phosibl.

 

Yn anffodus, nid yw'r broses o drosglwyddo data drwy'r rhyngrwyd bob amser yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn gwneud yn ein gorau i ddiogelu eich data personol, dylech gymryd eich camau eich hun er mwyn sicrhau bod eich meddalwedd gwrthfeirws yn gyfredol, y cedwir cyfrineiriau yn gyfrinachol a'ch bod yn dilyn arferion diogel ar-lein. Ni allwn warantu na chaiff data eu colli, eu camddefnyddio na'u newid pan gaiff data eu hanfon atom neu eu trosglwyddo i ni; trosglwyddir unrhyw ddata ar eich menter eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch priodol i geisio at atal unrhyw achosion o fynediad anawdurdodedig, colli damweiniol, dinistrio neu ddifrodi.