Dydd Iau 11 Hydref 2018

Pan fydd rhywun yn cael trawiad ar y galon, mae pob munud sydd yn mynd heibio, tan fod y person hwnnw yn derbyn gofal critigol, yn hanfodol.

Er ei fod yn teimlo’n sâl, roedd y gweithiwr ffatri o Sir Fflint a’r tad i bedwar o blant, Trevor Fletcher, wedi dechrau ei ddiwrnod gwaith fel arfer. Ond dechreuodd deimlo’n waeth gan fynd allan am chwa o awyr iach. Pan na ddychwelodd i’r ffatri, roedd cydweithwyr Trevor wedi mynd i chwilio amdano. Daethant o hyd iddo’n anymwy-bodol ar y llawr ac nid oedd yn anadlu. Nid oedd ei galon yn curo.

Roedd y meddyg sy’n hedfan a’r anesthetydd ymgynghorol, Dr Glen, wedi llwyddo i adfywio Trevor, a oedd wedi ‘marw’ am bron i awr. Gosodwyd tiwb ynddo er mwyn ei helpu i anadlu, ac wedi iddynt ei sefydlogi, hedfanwyd ef i Ganol-fan Cardiac Gogledd Cymru.

Nid yw Trevor yn cofio rhyw lawer o’r hyn a ddigwyddodd o gwbl, ac mae nôl yn y gwaith erbyn hyn ac yn benderfynol o ddod yn ffit.

“Rwyf ond yn fyw heddiw yn sgil y meddygon ar yr hofrennydd a’r staff yn yr ysbyty. Nid wyf yn medru diolch digon iddynt am fy achub.”