Dydd Mawrth 8 Medi 2020

Wynebodd Kaylie ac Alan hunllef waethaf pob rhiant pan gawsant alwad gan feithrinfa eu merch i ddweud ei bod yn anymatebol.

Dywedodd mam Hannah Gregson (merch tair oed, sydd â hanes o gonfylsiynau twymyn o ganlyniad i dymheredd uchel) ei bod yn gwbl iach pan gafodd ei gollwng yn y feithrinfa ddwy awr ynghynt.

Ar ôl iddi gael galwad ffôn gan staff pryderus y feithrinfa, dywedodd Kaylie wrthynt ei bod yn debyg mai ffit ydoedd ac i ffonio ambiwlans. Rhuthrodd Kaylie i'r feithrinfa a thra roedd hi yno, sylweddolodd nad ‘ffit arferol’ tebyg i'r rhai roeddent wedi'u gweld o'r blaen ydoedd.

Mae Hannah (o Fae Trearddur, Ynys Môn) sydd hefyd yn dioddef o alergeddau, fel arfer yn dod at ei hun o fewn munudau, ond y tro hwn nid oedd modd ei deffro ac roedd ei chorff cyfan yn gwingo.

Roedd staff y feithrinfa o'r farn bod Hannah (a oedd yn ddwy oed ar y pryd) yn dioddef o sioc anaffylactig a rhoddwyd ‘epi pen’ iddi. Fodd bynnag, roedd hynny'n aflwyddiannus.

Wrth aros am yr ambiwlans, stopiodd Hannah fach anadlu bedair neu bum gwaith.

Dywedodd y teulu, sy'n byw 30 milltir i ffwrdd o'r ysbyty agosaf, eu bod yn hynod ddiolchgar i'r holl staff a helpodd Hannah. Dywedodd Kaylie: ‘Wnai fyth anghofio'r hyn a wnaethant i achub fy merch. Rwyf wedi gweld pethau tebyg ar y teledu a bob amser wedi meddwl eu bod yn gwneud gwaith anhygoel – ond mae cael nhw gyda chi a'ch plentyn, gan wybod ei bod dan yr ofal gorau, yn deimlad bythgofiadwy.’

Dr Marie Gallagher, a'r ymarferwyr gofal critigol John Adams ac Ian Thomas a oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw.

Dywedodd Dr David Rawlinson, sy'n aelod o'r gwasanaeth: “Roeddem yn gallu cefnogi'r gadwyn fywyd yn yr argyfwng hwn, o’r staff meithrin a weithredodd yn gyflym pan aeth yn sâl gyntaf, i’r gwasanaeth ambiwlans a wnaeth ei sefydlogi ar unwaith wrth iddynt gyrraedd. Roeddem yn falch o allu cefnogi ein cydweithwyr yn y gwasanaeth Ambiwlans ac roedd ein tîm gofal critigol yn gallu helpu i'w throsglwyddo i'r ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel, gan ei gwneud yn bosibl i Hannah gael y driniaeth arbenigol roedd ei hangen arni cyn gynted â phosibl.”

Roedd teulu Hannah yn synnu i'w gweld yn ymddwyn yn ei ffordd ‘wyllt arferol’ drannoeth. Maent yn credu efallai na fyddai Hannah yma heddiw heb gymorth Ambiwlans Awyr Cymru a'r parafeddygon.

Ychwanegodd Kaylie, sy'n hynod ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru am achub ei merch fach: “Hunllef waethaf mam yw gweld ei babi fel yr oedd hi, ond roedd hi mewn dwylo mor ddiogel. Rwy'n siŵr na fyddai fy merch yma heddiw pe na byddem wedi cael y cymorth brys a gawsom. Maent yn gwneud gwaith anhygoel. Maen nhw'n angylion yn y nen.

“Pan fydd yn hŷn, byddaf yn dweud yr hanes wrthi am yr hofrennydd yn dod i'w hachub. Diolch o waelod calon i wasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru am yr help a gafodd Hannah.”

Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers achub bywyd Hannah – bydd yn dechrau ysgol feithrin yn Ysgol Kingsland ddydd Iau.