Dydd Mercher 6 Ebrill 2022

Ddwy flynedd yn ôl, roedd Richard Jones yn teithio yn ei gerbyd gwaith ar yr A40 pan newidiodd ei fywyd mewn eiliad. Cafodd wrthdrawiad erchyll a dioddef anafiadau difrifol.

Ar brynhawn 7 Chwefror 2020, roedd Richard, sy'n dod o Ddinbych-y-pysgod, yn nesáu at gyffordd Travellers' Rest yn Sir Gaerfyrddin. Ni all y dyn 32 oed gofio ryw lawer am y digwyddiad, ond dywedodd tystion ei fod wedi mynd yn erbyn y rhwystr diogelwch a daflodd ei dryc agored Toyota Hilux i'r awyr ac i mewn i arwydd mawr a pholion.

Ymatebodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Bob Tipping, a'r Ymarferydd Gofal Critigol, Marc Allen, i'r digwyddiad.

Roedd yn ymddangos bod Richard yn gwaedu'n fewnol a chafodd chwe uned o gynnyrch gwaed i gyd, a roddwyd gan Bob a Marc ar ochr y ffordd. Gan fod ei anafiadau mor ddifrifol, gwnaethant roi anesthetig cyffredinol iddo hefyd a'i roi ar beiriant anadlu er mwyn rheoli ei anadlu.

Yna cafodd Richard ei drosglwyddo gan feddygon Ambiwlans Awyr Cymru, mewn ambiwlans ffordd, i'r ganolfan arbenigol agosaf ar gyfer anafiadau i goesau/breichiau. Bu'n rhaid torri rhan o'i goes dde i ffwrdd yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Dihunodd Richard yn yr Uned Therapi Dwys ddeg diwrnod yn ddiweddarach ac, oherwydd ei gyflwr, nid yw'n cofio ryw lawer am y ddamwain.

Dywedodd Richard: “Un o'r prif ôl-fflachiau rwy'n ei gael yw bod ar y llawr, heb wybod beth sydd wedi digwydd yn iawn, a gyda dyn mewn gwisg goch yn sefyll uwch fy mhen. Rwyf wedi cael gwybod mai un o griw Ambiwlans Awyr Cymru oedd hwn.

“Rwyf wedi clywed straeon erioed a darllen ar-lein am y pethau anhygoel roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn eu gwneud. Ond nid oeddwn erioed wedi meddwl rhyw lawer am y gwasanaeth o'r blaen ac ni feddyliais byth y byddai angen ei help arnaf.”

Yn syth ar ôl y digwyddiad, rhuthrodd ambell aelod o'r cyhoedd i helpu Richard, gan gynnwys Ian Thompson, cyn-feddyg yn y fyddin, a oedd yn digwydd mynd heibio.

Roedd Richard yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Gwnaeth ei weithredoedd y diwrnod hwnnw gyfrannu at achub fy mywyd oherwydd, yn ffodus, roedd yn cadw sblintiau a rhwymynnau tynhau o'i gyfnod yn y fyddin yng nghist y car o hyd a gwnaeth eu rhoi arnaf yn gyflym cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.”

Roedd Richard yn arfer gweithio yn y diwydiant adeiladu ar un o safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn ei ddamwain, ac mae'r gŵr ysbrydoledig bellach yn addasu i fywyd heb ei goes.

“Bu cyfnodau da a drwg ers y ddamwain. Rwy'n dal i ddod i'r arfer â bywyd ag un goes ac rwy'n wynebu rhwystrau newydd bob dydd. Diolch i'm teulu, fy ffrindiau a'm diddordebau, rwyf wedi llwyddo i gadw'n gadarnhaol a pharhau i wella.”

Mae Richard, a gyfarfu â'i bartner Michaela ar ward yr Uned Therapi Dwys pan geisiodd werthu teisennau iddo ef a'i deulu dros  Macmillan, bellach yn disgwyl eu plentyn cyntaf – bachgen bach y mis hwn.

Mae Richard yn benderfynol a bellach yn cerdded gan ddefnyddio dwy ffon a choes brosthetig ac mae'n gobeithio dychwelyd i'r gwaith pan fydd yn ddigon iach.

Dywedodd: “Tan yn ddiweddar, roedd asgwrn y forddwyd wedi torri o hyd. Felly, ddwy flynedd yn ddiweddarach, rwy'n dal i fod mewn poen ond rwy'n gobeithio na fydd angen i mi gael llawdriniaeth arall. Yn gorfforol, rwy'n gwneud yn dda. Yn feddyliol, bydd yn teimlo bod popeth yn fy llethu rai dyddiau, pan fydda i'n teimlo braidd yn isel. Cyn y ddamwain, roeddwn i ar garlam drwy'r amser, ond rwy'n dod i'r arfer â ffordd newydd o fyw nawr.”

Mae Jo Yeoman yn nyrs cyswllt cleifion sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o weld bod Richard yn addasu i fywyd gyda'i goes brosthetig. Mae ei stori yn dangos pa mor bwysig yw hi bod Ambiwlans Awyr Cymru yn dod â'r adran achosion brys at y claf. Rhoddodd ein meddygon chwe uned o waed ac anesthetig cyffredinol i Richard a'i roi ar beiriant anadlu, a'r cyfan ar ochr y ffordd. Gwnaeth hyn sicrhau bod Richard wedi cael y gofal gorau posibl cyn cyrraedd yr arbenigwyr yn Ysbyty Treforys.

“Mae'n galonogol clywed bod Richard yn teimlo'n gadarnhaol ddwy flynedd yn ddiweddarach ac yn edrych ymlaen at enedigaeth ei blentyn cyntaf ef a Michaela. Dymunwn y gorau iddynt i'r dyfodol.”