Dydd Mercher 11 Mai 2022

Bydd gwyliau i Gymru dros benwythnos gŵyl y banc y llynedd yn aros yn y cof i'r teulu Love, ond am y rhesymau anghywir.

Roedd Jean Love yn aros mewn bwthyn gwyliau yn Llambed gyda'i theulu pan lithrodd wrth iddi gerdded i lawr y grisiau.

Disgynodd Jean, sy'n hannu o Walsall, i lawr y rhan fwyaf o'r grisiau gan daro ei phen ar soffa oedd ger gwaelod y grisiau, a chafodd anaf difrifol i'w phen.

Cafodd y famgu i chwech ei thro'n anymwybodol ac roedd yn gwaedu o'i thrwyn, ei cheg a'i chlustiau. Gwnaeth Jean, a oedd yn 77 oed ar y pryd, hefyd dorri pont ei hysgwydd, dwy asen a'i phenglog. Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru gan fod anafiadau Jean yn peryglu ei bywyd, a dywedwyd wrth ei theulu ei bod yn bosib na fyddai'n goroesi.

Ymatebodd swyddogion meddygol Ambiwlans Awyr Cymru,  Dr Pete Williams, yr Ymarferwyr Gofal Critigol, Mike Ainslie ac Ian Thomas, a'r Peilot James Benson, i'r alwad frys.

Pan gyrhaeddon nhw, roedd lefel ymwybyddiaeth Jean yn isel ac roedd yn gwaedu o'i thrwyn a'i chlust dde.  Gwyddai'r criw bod y rhain yn arwyddion pryderus o anaf difrifol i'r pen, felly er mwyn amddiffyn ei hymennydd rhag unrhyw niwed pellach, rhoddwyd anesthetig cyffredinol i Jean. Er mwyn gwneud hyn, rhoddwyd tiwb anadlu i lawr i'w hysgyfaint a chafodd ei chysylltu â pheiriant anadlu.

Ar ôl cael ei sefydlogi, llwyddodd criw Ambiwlans Awyr Cymru i'w chludo yn yr hofrennydd yn syth i Ganolfan Trawma Mawr Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

Dywedodd Phill, mab Jean: “Cyrhaeddodd yr Ambiwlans Awyr yn gyflym, a gwnaethant ei thrin yn y fan a'r lle, gan achub ei bywyd a rhoi'r cyfle gorau iddi oroesi.

Yn dilyn asesiadau, cadarnhaodd sgan fod Jean wedi dioddef anaf trawmatig difrifol i'w hymennydd, ynghyd â thorri ei phenglog, pont ei hysgwydd, asennau a dau asgwrn yng ngwaelod ei chefn.

Ar ôl cael ei hasesu gan y tîm niwrolegol a gofal critigol, rhoddwyd y gorau i'w thawelu er mwyn ceisio deffo Jean a chafodd ei thynnu oddi ar ei pheiriant anadlu. Wedyn cafodd ei derbyn i'r ward niwrolegol.

Dros y tri diwrnod nesaf, ni fu unrhyw newid yng nghyflwr Jean, a pharhaodd ei lefel ymwybyddiaeth yn isel. Cafodd sgan arall ar ei hymennydd a ddangosodd bod cynnydd bychan wedi bod yn y chwydd ar yr ymennydd. Diweddarwyd teulu Jean o'i chyflwr, ac esboniwyd bod ei phrognosis yn wael a bod siawns na fyddai'n goroesi. Wedyn cafodd ei gweld gan y tîm gofal lliniarol.

Ond, yn wyrthiol, dros y 24 awr nesaf dechreuodd cyflwr Jean wella'n sylweddol ac o fewn ychydig ddyddiau gallai symud ei choesau a'i breichiau, bwydo ei hun ac roedd wedi dechrau cyfathrebu.

Meddai Phill: “Roedd y dyddiau cyntaf yn heriol, wrth i ni gyd ymgasglu i ffarwelio â hi ar un achlysur. Fodd bynnag, gwnaeth adennill ei nerth a dechreuodd llygaid Jean Love ddisgleirio unwaith eto. Wrth i'r dyddiau fynd heibio, dechreuodd ddod at ei choed yn araf bach, ond roedd taith hir o'i blaen er mwyn gwella'n iawn.”

Parhaodd iechyd June i wella, ac ar ôl 20 diwrnod cafodd ei symud o Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke i Ysbyty Walsall Manor. Cafodd wedyn ei symud i Samuel Johnson yn Lichfield er mwyn adsefydlu ymhellach cyn cael ei rhyddhau gartref i'w theulu wyth wythnos ar ôl iddi syrthio.

Mae ei theulu i gyd, a gŵr Jean, Ken, wrth eu boddau ei bod wedi gwella, ac ychwanegodd Phill: “O ystyried ein bod wedi cael gwybod na fyddai'n gwella, mae iechyd mam yn wyrthiol! Mae'n straffaglu i ddod o hyd i'r gair cywir o dro i dro, ond mae mewn ysbryd da a bydd yn chwerthin gyda ni os bydd yn cael trafferth cofio rhywbeth, gan fynd gyda'r llif y rhan fwyaf o'r amser. Ar wahân i hynny, dydyn ni ddim yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth, ac rwy'n sicr na fyddai unrhyw un byth yn amau ei bod wedi cael damwain mor ddifrifol.

“Ni ellir diystyru pwysigrwydd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Heb y gwasanaeth hwn, mae'n annhebygol y byddai Jean wedi goroesi, a hyd yn oed pe byddai wedi gwneud, rwy'n sicr na fyddai wedi gwella cystal. Mae'r ambiwlans awyr yn achubiaeth. Hoffem ddiolch o galon i griw gogledd Cymru - James, Pete, Mike ac Ian - ynghyd â pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a ddaeth i'w helpu.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae Hayley Whitehead-Wright yn nyrs cyswllt cleifion sy'n gweithio i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn i glywed am wellhad rhyfeddol Jean. Mae ei stori yn dangos pa mor bwysig yw hi bod Ambiwlans Awyr Cymru yn dod â'r adran achosion brys at y claf. Llwyddodd ein meddygon i roi anasthetig cyffredinol i Jean – gwasanaeth brys a gaiff ond ei gynnig gan yr ambiwlans awyr. Sicrhaodd hyn bod Jean yn cael y gofal gorau posibl cyn cyrraedd yr ysbyty.

“Roedd yn wych cyfarfod Jean pan gyflwynwyd ei siec ac i weld pa mor dda y mae wedi gwella. Mae'n fenyw ryfeddol, a dymunwn yn dda iddi i'r dyfodol.”

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae teulu diolchgar Jean wedi codi bron i £2,500 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'w meibion, David a Philip ofyn am roddion ar-lein. Gwnaeth mab arall Jean, Tony sy'n Forys-ddawnsiwr, gasglu arian hefyd i'r Elusen yn un o ddigwyddiadau dawnsio'r criw a gafodd ei ychwanegu at y gronfa.