Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei bod o fod wedi cael cynnig lleoedd elusennol ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd sydd wedi gwerthu allan.

Bydd y digwyddiad gwych yma, a gynhelir ar 2 Hydref, yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan yn yr hanner marathon gan godi arian i'r elusen sy'n achub bywydau ar yr un pryd.

Bydd yn rhaid i bob cyfranogwr, a fydd yn ymgymryd â'r her i helpu Ambiwlans Awyr Cymru, godi £200 yr un. Unwaith y byddant yn cyrraedd eu targed codi arian hanner ffordd o £100, byddant yn derbyn fest rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Elen Murphy, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Os gwnaethoch fethu â chael lle yn Hanner Marathon Caerdydd a werthwyd yn llwyr mae gennym gyfle ardderchog i chi gymryd rhan, gan godi arian ar gyfer ein gwasanaeth 24 awr sy'n achub bywydau. Bydd pob cyfranogwr yn cael fest rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddynt gyrraedd eu targed codi arian hanner ffordd. Bydd digwyddiadau codi arian, fel Hanner Marathon Caerdydd, yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt, drwy ddefnyddio ein hofrenyddion a'n cerbydau ymateb cyflym. Cysylltwch â ni os hoffech gael lle elusennol.”

Am ragor o wybodaeth am y lleoedd Elusennol ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, cysylltwch â Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau, Elen Murphy drwy e-bost [email protected]

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.