Mae gwraig ganmlwydd oed garedig wedi cyflwyno siec i Ambiwlans Awyr Cymru gyda dros £2,342 arno wedi iddi ofyn am roddion i'r Elusen yn hytrach nag anrhegion i ddathlu ei phenblwydd carreg filltir.

Yn hytrach na gofyn i'w theulu, ffrindiau ac aelodau o'r gymuned am anrhegion arbennig i gydnabod ei phenblwydd yn 100 oed meddyliodd Annabelle Thomas y basai'n helpu eraill.

Dathlodd Mrs Thomas o Langammarch ym Mhowys ei phenblwydd 100 oed ar Fehefin 28 drwy gynnal parti penblwydd yn Neuadd Alexandra yn Llangammarch.

Dywedodd Susan Price, sy'n falch o fod yn perthyn i Mrs Thomas, ei bod fel trysorfa enfawr o wybodaeth am hanes lleol a bob amser yn hapus i rannu ei hatgofion.

Dywedodd Mrs Thomas nad oedd angen i'w cyfeillion a'i theulu roi anrhegion iddi, ond pe baent eisiau dathlu'r achlysur yna byddai rhodd fach i Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.

Roedd Mrs Thomas wrth ei bodd yn cyflwyno'r siec £2,342 yn ddiweddar i wirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru, Tina Ford. Roedd y swm terfynol yn cynnwys sawl rhodd ddienw.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn gyntaf, hoffem ddymuno penblwydd hapus i Mrs Thomas yn 100 oed. Pobl fel Mrs Thomas sy'n cadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, drwy wneud pethau anhunanol – fel gofyn am roddion i'n Helusen 24/7 yn hytrach nag anrhegion i ddathlu ei charreg filltir arbennig. Mae Mrs Thomas yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.”