Bydd dros 40 o gerfluniau o Gestyll Mawr yn cael eu gosod ar strydoedd Abertawe yn un o'r digwyddiadau torfol mwyaf i'w gynnal erioed yn y ddinas. 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, sef yr unig elusen ambiwlans awyr benodedig yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cynnal y trywydd cyntaf erioed gan Wild in Art yn Abertawe. Dyma'r tro cyntaf i elusen ambiwlans awyr arwain y gad gyda phrosiect gan Wild in Art, sef menter sydd wedi dod yn stori lwyddiant ryngwladol o ran codi arian elusennol drwy ei chelf gyhoeddus greadigol a chymunedol.

Digwyddiad celf gyhoeddus yw ‘Cestyll yn yr Awyr’ a fydd yn cael ei gynnal yn Abertawe yn ystod haf 2023. Bydd y digwyddiad yn cyd-blethu diwylliant, celf a hanes Cymru – rhywbeth y mae pobl Cymru yn ymfalchïo'n fawr ynddo. Bydd dros 40 o Gestyll mawr a 30 o Gestyll bach yn ffurfio trywydd darganfod ar draws Abertawe o ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 16 Medi 2023, a fydd yn annog pobl leol i ddarganfod a mwynhau eu dinas o safbwynt newydd cyffrous.

Gwahoddir artistiaid, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol i fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw hwn a fydd yn cael effeithiau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol, ac yn codi arian hollbwysig i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei bodd yn cyflwyno trywydd celf gan Wild in Art, y cyntaf o'i fath yn Abertawe. Bydd ein trywydd Cestyll yn yr Awyr yn dod â phobl ynghyd drwy hoffter at hanes a chelf Cymru.

“Ein nod yw rhoi gofal meddygol arbenigol sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bo ei angen arnynt. Ond heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai ein Helusen yn bodoli. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau.

“Cefnogwch ein trywydd Cestyll yn yr Awyr a helpwch ni i'w wireddu.”

Caiff pob Castell mawr, yn mesur dros 2 fetr o uchder, ei noddi'n unigol gan fusnes a'i ddylunio gan artist o Gymru a bydd yn adrodd ei stori ei hun, yn dathlu bywiogrwydd, diwylliant a chreadigrwydd Abertawe. Gwahoddir ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i ymuno yn yr hwyl hefyd drwy fabwysiadu castell bach, ‘cofeb fach’ fel rhan o Raglen Ddysgu dros y sir gyfan.

Caiff y trywydd celf 10 wythnos ei gyflwyno mewn partneriaeth â'r cynhyrchwyr creadigol Wild in Art, a'i gefnogi gan y Prif Bartner, Ardal Gwella Busnes Abertawe.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe: “Rwy'n credu y bydd Cestyll yn yr Awyr yn un o'r prosiectau celf mwyaf hwyliog ac uchelgeisiol y mae'r ddinas wedi'i weld erioed. Mae Ardal Gwella Busnes Abertawe yn falch iawn o fod yn Brif Bartner y prosiect.”

Gwahoddir busnesau, unigolion a sefydliadau rhanbarthol sydd am fod yn rhan o'r prosiect i ymuno â digwyddiad Lansio Nawdd ddydd Mercher, 14 Medi yn Abertawe. Er mwyn cofrestru'ch diddordeb anfonwch e-bost i [email protected].

Gwahoddir trigolion ac ymwelwyr o bob oedran i gymryd rhan a darganfod y trywydd drwy fap pwrpasol ac ap symudol. Disgwylir i'r digwyddiad greu awyrgylch braf, hyrwyddo llesiant ac annog pobl i grwydro yn yr awyr agored.

Ar ôl difyrru a dod â chymunedau at ei gilydd, bydd gwaddol Cestyll yn yr Awyr yn parhau, gan y bydd llawer o'r cerfluniau yn rhan ganolog o arwerthiant disglair i godi arian hollbwysig i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae gan Wild in Art hanes profedig o drefnu digwyddiadau o'r radd flaenaf sy'n difyrru, yn cyfoethogi ac yn addysgu ac sy'n gadael gwaddol parhaol. Hyd yma, mae digwyddiadau Wild in Art wedi cyfrannu dros £19 miliwn at achosion elusennol ac wedi helpu miliynau o bobl i gael profiad o gelf mewn lleoliadau anhraddodiadol.

Dywedodd Charlie Langhorne, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Wild in Art: “Mae'n brofiad cyffrous iawn i ni weithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru i lunio Cestyll yn yr Awyr, a fydd, gobeithio, yn cael effaith gadarnhaol iawn”.

Os hoffech gymryd rhan a chadw mewn cysylltiad, ewch i www.swanseacastles.co.uk neu cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn noddwr, cymryd rhan yn y Rhaglen Ddysgu neu gyflwyno dyluniad drwy gysylltu â thîm Cestyll yn yr Awyr yn[email protected]