Dydd Llun 13 Ionawr 2020

Ar ddechrau 2019, daeth hunllef pob rhiant yn wir i'r teulu Harris pan, yn sydyn, ar ôl cael annwyd arferol y gaeaf i bob golwg, roedd eu merch, Ellie (a oedd yn 13 mis oed) yn brwydro am ei bywyd.

Mae Matt, sef tad Ellie, yn cofio'r profiad: "Rwy'n cofio'r diwrnod yn dda. 10 Chwefror, 2019. Nid oedd Ellie wedi bod yn teimlo'n dda iawn – dim byd i boeni amdano i ddechrau, dim ond ei bod hi'n sniffian ac yn peswch, a bod ei thymheredd yn amrywio ac nad oedd chwant bwyd arni. Penderfynais i fynd â hi at y meddyg y tu allan i oriau y diwrnod cynt, a roddodd rywfaint o dawelwch meddwl ei bod yn dioddef effeithiau annwyd y gaeaf.

“Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, sylweddolwyd bod Ellie yn gwaethygu ac yn dangos symptomau a oedd yn peri cryn bryder, gan gynnwys ffitiau. Gwnaeth fy ngwraig a minnau ffonio 999 ar unwaith, a chyn pen dim cyrhaeddodd parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chriw Gofal Critigol Ambiwlans Awyr Cymru y tŷ.”

“Daeth yn amlwg yn gyflym fod Ellie yn llawer mwy sâl nag oeddem yn ei feddwl yn gyntaf.”

Yn ystod y cyfnod byr rhwng ffonio 999 a'r meddygon yn cyrraedd cartref y teulu Harris yn Abercarn, roedd Ellie wedi cael dau ataliad ar y galon.

Derbyniwyd yr alwad ychydig ar ôl 8pm, pan oedd y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru presennol yn gorffen gweithio. Diolch byth, roedd y Car Cyfnos yn gweithredu.

Yn y car y noson honno roedd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol, Dr Dindi Gill, a'r Ymarferydd Gofal Critigol, Chris Connor. Dywedodd Dr Gill: “Roedd Ellie yn sâl iawn ac yn anymwybodol pan gyrhaeddon ni. Roedd cael y Car Cyfnos yno yn golygu ein bod yn gallu darparu ymyriadau gofal critigol, gan gynnwys anesthetig, er mwyn gwella ei lefelau ocsigen, cyn mynd â hi'n syth i gael y gofal arbenigol yr oedd ei angen arni. Roedd hyn yn sicrhau'r cyfle gorau posibl iddi oroesi a gwella.”

Ar ôl sicrhau bod Ellie mewn cyflwr sefydlog yn y tŷ, cafodd ei chludo ar hyd y ffordd i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Aeth Matt yn ei flaen: “Ar ôl cyrraedd YAC, gwnaethom ddiolch i'r criw am bopeth a wnaethant, gan obeithio mai dyma fyddai'r tro olaf y byddai angen help Ambiwlans Awyr Cymru. Nid felly y bu. Ar ôl cael triniaeth yng Nghaerdydd, cafodd Ellie ddiagnosis o gyflwr prin iawn – Brugada Syndrome. Oherwydd difrifoldeb ei chyflwr, penderfynwyd bod angen llawdriniaeth arbenigol ychwanegol ar Ellie yn Ysbyty Plant Bryste.”

Mae Syndrom Brugada yn gyflwr prin ond yn gyflwr difrifol sy'n effeithio ar y ffordd y mae signalau trydanol yn pasio drwy'r galon, gan achosi iddi guro'n beryglus o gyflym. Gall arhythmia, sef curiadau calon fel hyn sy'n eithriadol o gyflym, beryglu bywydau.

Oherwydd pwysigrwydd y driniaeth angenrheidiol ym Mryste ar ôl diagnosis Ellie, unwaith eto, daeth Ambiwlans Awyr Cymru i'w helpu ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Fodd

bynnag, Ambiwlans Awyr Cymru i Blant a laniodd yng Nghaerdydd y tro hwn a hedfan y claf bach yn syth i'r arbenigwyr ym Mryste a oedd yn aros amdani.

Ar ôl i Ellie gael ei thriniaeth, dywedodd Matt: “Aethpwyd ag Ellie yn syth i gael llawdriniaeth pan gyrhaeddon ni, lle rhoddwyd Diffibriliwr ICD a Rheolydd Calon Wpicardial Mewnol iddi. Yn sicr, achubodd hyn ei bywyd.

“Nid oedd yn glir sut y byddai'r niwed i’r ymennydd yn effeithio arni yr adeg honno, gan fod risg wirioneddol y bydd ganddi broblemau datblygu yn y dyfodol o bosibl.”

Bron i flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl ei phrofiad trawmatig, mae Ellie yn blentyn dwyflwydd oed ffyniannus llawn egni.

“Ers iddi gael ei thrin ar gyfer Syndrom Brugada, mae iechyd Ellie wedi gwella'n raddol. Mae wedi golygu llawer o sesiynau ffisiotherapi a llawer o gymorth gan weithwyr meddygol proffesiynol gennym ni ein hunain er mwyn iddi gyrraedd lle mae hi heddiw. Mae hi wedi dechrau cerdded heb gymorth eto yn ddiweddar ac mae'n edrych yn debygol y bydd hi'n gwella'n llwyr o'r niwed a gafwyd i'r ymennydd.

“Yn sicr, oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru, efallai na fydd Ellie yma heddiw. Diolch o galon i'r meddygon am bopeth a wnaethant dros fy merch fach. Mae Ellie yn gallu gwneud pethau y gall unrhyw blentyn dwyflwydd oed eu gwneud diolch i ymdrechion gwych y meddygon. ”

Ychwanegodd Dindi: “Roeddwn i'n falch iawn o gael cwrdd ag Ellie a’i theulu ar ôl y digwyddiad a gweld cymaint roedd hi wedi gwella.

“Oherwydd amser yr alwad 999, ni fyddai'r gwasanaeth 12 awr presennol Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod ar gael. Diolch byth, roedd Car Cyfnos y gaeaf yn gweithredu, a hebddo, gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae stori Ellie yn rhoi cipolwg ar fanteision ehangu Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu gwasanaeth 24.7.”