Dydd Iau 18 Gorffennaf 2019

Roedd Cadi Owen yn 16 mis oed pan gafodd ddamwain a olygodd fod angen triniaeth feddygol frys arni.

Roedd y ferch fach a’i theulu yn gwylio beiciau’n rasio ar Ynys Môn ac yn mwynhau cinio pan estynnodd Cadi am fanana gan daro cwpanaid o de poeth dros ei hun.

Aeth ei theulu a gwylwyr eraill ati’n syth i roi cymorth cyntaf iddi, ond roedd hi’n amlwg bod angen triniaeth frys arni.

Dywedodd mam Cadi, Rachel: “Rydyn ni mor lwcus, oherwydd roeddwn i newydd gwblhau hyfforddiant cymorth cyntaf ac fe lwyddon ni ei chael hi’n syth i’r ambiwlans ac i fyny i'r ganolfan feddygol y gylchffordd rasio.

“Cafodd Cadi ei hasesu cyn galw 999 am ambiwlans.”

Anfonwyd Ambiwlans Awyr Cymru i ymateb i’r alwad, gan lanio ar y gylchffordd rasio cyn cludo’r ferch fach i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

“Es i gyda Cadi yn yr hofrennydd i Fangor ac ar ôl iddi gael ei hasesu fe benderfynon nhw fod angen gofal arbenigol arni, felly cafodd ei throsglwyddo gan Ambiwlans Awyr Cymru ’'r Uned Llosgiadau Arbenigol yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl. Yn syth ar ôl cyrraedd Lerpwl, cafodd Cadi lawdriniaeth i drin y llosgiadau.

Dywedodd Rachel: “Dywedodd yr ysbyty wrthon ni y byddai’n rhaid i Cadi gael llawdriniaeth cyn gynted â phosib er mwyn achub ei chroen.

“Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ac fe osodon nhw Biobrane, sef croen ffug. O fewn pedwar diwrnod, roedd Cadi yn ddigon iach i fynd adref.

Ychwanegodd Rachel, “Dywedodd y doctoriaid wrthon ni fod ymateb cyflym ac ymdrechion pawb dan sylw yn golygu y byddai’n gwneud adferiad llawn heb fawr ddim creithiau.

Mae Cadi nawr yn ffynnu ac ni all ei rhieni ddiolch i’r elusen ddigon.

Dywedodd Rachel, “Rydyn ni mor ddiolchgar am yr help a gafodd Cadi, ac rydyn ni nawr yn ceisio codi arian ar gyfer yr elusen.

“Mae Cadi yn dwlu ar hofrenyddion a bob amser yn codi ei llaw arnyn nhw ac yn dweud wrth ei ffrindiau ei bod wedi cael ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.