Dydd Iau 11 Hydref 2018

Roedd Christine Lloyd o Gaer yn teithio mewn cerbyd a oedd yn gyrru drwy’r sir ym mis Awst 2017.

Mae Christine yn olrhain y munudau a arweiniodd at y ddamwain: “Roedd yn daith arferol yn y car un dydd Sul wedi i ni fod am dro hyfryd. Roedden ni’n mynd tuag at ardal Bickley pan darodd ein cerbyd yn erbyn tractor.”

Cafodd ochr Christine o’r car ei tharo yn ystod y gwrthdrawiad, gan olygu ei bod yn sownd yn y cerbyd am fwy nag awr.

“Roeddwn i’r sownd yn y car am 60 munud, ac roedd fy ‘awr aur’ wedi mynd heibio. Dim ond oherwydd y ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru yno y cefais fy nghludo i’r ganolfan trawma agosaf mor gyflym. . Cefais fy nhrin gan griwiau meddygol Ambiwlans Awyr Cymru ar ochr y ffordd cyn cael fy nghludo i Stoke. Llwyddodd Ambiwlans Awyr Cymru i hedfan o’r ddamwain i Ysbyty Brenhinol Stoke o fewn un ar ddeg munud. Yn ystod y daith, sylwodd y criw fy mod yn gwaedu’n fewnol a gwnaeth hyn arbed amser hanfodol ar ôl i mi gyrraedd yr ysbyty".

“Ar ôl cyrraedd Stoke, cefais fy nghludo’n syth i’r adran achosion brys lle sylweddolodd pawb pa mor ddifrifol oedd fy anafiadau. Roeddwn i wedi torri asgwrn yn fy mraich dde, wedi torri tair asen ac wedi torri fy nghefn mewn sawl lle. At hyn, roeddwn i’n gwaedu’n fewnol ac roedd yna waed ar fy ymennydd hefyd. Oni bai am ymateb cyflym Ambiwlans Awyr Cymru, byddwn i ddim yma heddiw yn sgil y fath anafiadau".

“Bu’n rhaid i mi gael sawl llawdriniaeth ac roedd cryn ffordd i fynd cyn gwella. Doedd y meddygon ddim yn gwybod a fyddwn i’n cerdded eto ac fe benderfynon nhw wneud llawdriniaeth ar asgwrn fy nghefn. Wyth mis yn ôl, cefais lawdriniaeth arall i ail-adeiladu asgwrn fy nghefn. Gweithiodd y llawfeddygon yn ddiflino er mwyn adeiladu ffrâm metel o gwmpas asgwrn fy nghefn gyda’r gobaith y byddwn i’n gallu cerdded eto.”

Wedi misoedd o ofal adsefydlu, roedd Christine wedi troi cornel.

“Bydd y gorfoledd o gymryd ambell gam yn aros gyda mi am byth. Er fy mod i mewn poen parhaus wrth gerdded, dw i’n gwneud yn dda.”

Nid yw dysgu cerdded eto yn dilyn damwain mor ddychrynllyd wedi lladd ysbryd Christine, sydd nawr yn paratoi i ddringo’r Wyddfa ym mis Awst. “Mae’n fraint cael cyfle i ddringo’r Wyddfa ar ran Ambiwlans Awyr Cymru. Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai elusen oedd Ambiwlans Awyr Cymru, ac ar ôl profi pa mor bwysig yw hi, dw i nawr am gynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth achub bywyd hollbwysig hwn.”

“Mae gen i’r parch mwyaf tuag at staff meddygol Ambiwlans Awyr Cymru a’r holl wasanaethau brys a helpodd ar y diwrnod. Roedden nhw i gyd wedi gweithio mor galed er mwyn achub fy mywyd ac wedi fy nhrin â gofal a pharch. Alla i ddim esbonio pa mor arwrol oedden nhw.

“Mae fy adferiad llawn yn ddyledus i Griw Ambiwlans Awyr Cymru, yr holl staff meddygol dan sylw, y tîm anhygoel yn Ysbyty Brenhinol Stoke a’m teulu anhygoel. Hoffwn ddiolch hefyd i’m cyflogwr, ‘Osprey of London’, sydd wedi bod yn hynod gefnogol yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Rwy’n credu bod daioni yn deillio o’r cyfnodau anoddaf ac rwy’n gobeithio y bydd fy nhaith yn ysbrydoli eraill ac yn dangos bod modd i chi oresgyn llawer iawn mwy nag oeddech chi’n ei feddwl. Un cam ar y tro.”