Dydd Llun 16 Mai 2022

Mae cwpl ifanc y cafodd eu mab ei eni'n gynnar ar ôl 30 wythnos wedi cael cyfle i aduno â rhai o'r criwiau brys a helpodd i ddiogelu'r plentyn a sicrhau ei fod yn cael y gofal angenrheidiol yn gyflym.

Ers genedigaeth eu mab Hunter ym mis Tachwedd, cafodd Jenna Cullen a'i phartner Jack Harris, y ddau yn 28 oed, sawl mis trawmatig lle bu'n rhaid i Hunter dreulio amser mewn uned gofal newyddenedigol arbenigol yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Pan gafodd ei eni, dim ond 700g roedd Hunter yn ei bwyso, ond mae'r tri bellach gartref yn ddiogel gyda'i gilydd yn Abertawe, mae Hunter yn pwyso 9 pwys sy'n ardderchog, ac mae ei rieni balch am rannu eu stori a thynnu sylw at waith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r tîm Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys a fu'n eu helpu.

Dywedodd Jenna, sy'n gweithio i'r DVLA: “Roedd popeth yn eithaf normal tan tua 20 wythnos pan gollais lawer o ddŵr ac, ar ôl cael sgan, gwnaethant benderfynu fy monitro'n wythnosol. Yn fy sgan 25+3 wythnos, cefais wybod bod y dŵr wedi cynyddu a bod pethau'n eithaf normal.

“Wythnos ar ôl hynny, dechreuais gael poenau yn fy nghefn ond roeddwn i'n cymryd bod hyn oherwydd bod Hunter yn gorwedd ar fy nghefn.

“Lleddfodd y boen y diwrnod canlynol, ond roedd yn boenus tu hwnt y noson wedyn, felly aethom i'r ysbyty. Dywedodd y staff wrthyf nad oeddwn yn barod i esgor ac efallai fy mod wedi cysgu'n lletchwith ac aethom yn ôl adref. Chwe awr yn ddiweddarach, ganwyd Hunter.”

Gan ei fod wedi cyrraedd yn gynnar, nid oedd Hunter wedi troi eto, fel y byddai'r rhan fwyaf o fabanod cyfnod llawn, felly cafodd ei eni wysg ei draed a all fod yn fwy peryglus.

Dywedodd Jenna: “Doeddwn i ddim yn gwybod sut roedd cyfangiadau yn teimlo, ond roeddwn mewn llawer o boen ac erbyn i Jack ffonio 999, roedd Hunter bron â chyrraedd.

“Fe wnes i ei lapio mewn tywel a chlirio ei lwybr anadlu a llefodd rywfaint. Fe wnes i ei lapio'n gynnes a chadw llygad arno, ond roedd e'n dawel. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi marw.”

Dyna pryd y cyrhaeddodd un o Uwch-barafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Dai Bowen, o Orsaf Ambiwlans Cwmbwrla gerllaw, a dechrau rhoi gofal brys i Hunter. Roedd Dai yn anhygoel,” meddai Jenna.

“Daeth i mewn a dechreuodd roi ocsigen i Hunter yn syth, a thorrodd y llinyn bogail i ni hefyd. Fe wnes i helpu gyda'r ocsigen wrth i Dai gysylltu cyfarpar â Hunter er mwyn ei fonitro. Heb Dai a'r aelodau eraill o'r criw, nid wyf yn meddwl y byddai fy mab yma heddiw. Gwnaethant achub ei fywyd heb os.”

Dim ond ychydig funudau yn gynharach roedd Dai, 46 oed a hefyd o Abertawe, wedi dechrau ei sifft. Dywedodd: “Roeddwn wedi dechrau am 6 ac yn archwilio fy ngherbyd pan gefais fy ngalwad gyntaf tua 20 munud wedi 6 ym Mhort Tennant. Dywedodd y tîm rheoli wrthyf fod mam ifanc wedi rhoi genedigaeth i fabi yn gynnar.

“Roeddwn ar fy mhen fy hun yn y cerbyd ymateb cyflym felly gofynnais am gymorth wrth gefn gan fy mod yn gwybod y byddai angen ambiwlans arnom i gludo'r babi i'r ysbyty.”

Llwyddodd yr ystafell reoli i ddarparu ambiwlans o ardal gyfagos Merthyr Tudful i gynorthwyo Dai oherwydd natur beryglus geni plentyn mor ifanc.

Dywedodd Dai: “Daeth y tad i'r drws a oedd yn amlwg yn bryderus iawn ond, gan fod gennyf 20 mlynedd o brofiad gyda'r gwasanaeth ambiwlans, llwyddais i siarad ag ef yn gyflym ac yn bwyllog a gwnaeth fy arwain at ei bartner. Roedd Jenna mor ddigynnwrf, druan ohoni, ac roedd y babi eisoes yn ei breichiau – roeddwn yn meddwl efallai fod y babi yn farwanedig. Fe wnes i wneud yn siŵr ei bod hi'n iawn ac yna troi at y dyn bach.

“Roedd wedi cael ei eni mor gynnar roedd perygl y byddai'n colli gwres ac yn dal heintiau. Ond yna, gwelais ei frest fach yn symud ac anadlodd ar ei ben ei hun. Dyna ni, roedd rhaid brysio!”

Aeth Dai â'r babi a chreodd ardal ddadebru yn lolfa'r cwpl lle dechreuodd roi triniaeth i Hunter a'i gysylltu â'r cyfarpar monitro.

Dywedodd: “Ychydig iawn o ymdrech roedd Hunter yn ei wneud, ond rydym yn ffodus bod gennym gyfarpar pediatrig ardderchog a gweithiodd popeth yn dda iawn y tro hwn. Roedd e'n oer iawn o hyd er gwaethaf y matresi cynhesu roeddem wedi'u rhoi arno, ac fe wnes i barhau i'w gadw'n gynnes a monitro ei lefelau.”

Yn fuan, cyrhaeddodd Robert Shannon a David Griffiths o griw Ambiwlans Cymru, i helpu Dai.

Daeth is-adran ffyrdd elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sef y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), i'r tŷ hefyd o'u canolfan yn Nafen i helpu i ddarparu'r gofal a'r cyngor critigol a oedd mor werthfawr i Hunter, gan ddarparu pethau fel padiau gwres i gynnal tymheredd ei gorff wrth iddo gael ei gludo i'r ysbyty.

Ar ddyletswydd i EMRTS y diwrnod hwnnw oedd Dr Jon Baily, yr Ymarferydd Gofal Critigol, Dewi Thomas, a'r Ymarferydd Trosglwyddo Hofrennydd, Jez James.

Dywedodd Jo Yeoman, Nyrs Cyswllt Cleifion Ambiwlans Awyr Cymru: “Cyrhaeddodd ein criw gyda chyfarpar newyddenedigol arbenigol a gwnaethant asesiad cyflym wrth gadw Hunter yn gynnes. Mae risg uchel y bydd tymheredd corff babanod a gaiff eu geni'n gynnar yn dirywio, felly gwnaethant ei lapio mewn defnydd arbennig a ddyluniwyd yn benodol i gadw babanod fel hyn yn gynnes, ei orchuddio â blanced wedi'i wresogi a rhoi het ar ei ben i atal gwres rhag cael ei golli.

“Yna gwnaethant ei gysylltu â chyfarpar monitro newyddenedigol i asesu ei arwyddion hanfodol a chysylltu â'r Neonatolegydd Arbenigol yn Ysbyty Singleton i drefnu iddo gael ei dderbyn yn syth i'r uned arbenigol yn hytrach na gorfod mynd drwy'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rydym mor falch o glywed bod Hunter yn gwneud cystal.”

Y derbynnydd galwadau Emma Beynon atebodd alwad 999 Jack yn y Ganolfan Gyswllt Glinigol yng Nghaerfyrddin. Dywedodd: “Roeddwn wedi bod yn gweithio'r sifft nos a hon oedd yr alwad olaf cyn i mi orffen. Roedd yn eithaf trawmatig gan fod y babi wedi cael ei eni mor gynnar. Ar ddechrau'r alwad, doeddwn i ddim yn meddwl ein bod am gael newyddion da.”

Dywedodd Emma, 36 oed, o Arberth sy'n fam i dair merch ei hun: “Cefais fy nghefnogi gan fy rheolwr, Emma Colvin, gan mai dim ond fy ail alwad am enedigaeth oedd hon – cefais y cyntaf yn gynharach yr wythnos honno. Roeddem yn rhoi cyngor ar eni ac rwy'n cofio'r galwr yn gweiddi bod y babi allan a'i fod ond yr un maint â'i law. Doedden ni ddim yn meddwl y byddai'r babi'n cael ei eni mor fuan, ond digwyddodd popeth mor gyflym ar yr alwad.

“Ond y peth pwysicaf oedd bod y babi'n anadlu. Cyrhaeddodd y criw yn gyflym iawn i achub y dydd. Mae'r alwad honno wedi aros yn fy nghof ac rwyf mor falch o glywed bod Hunter a'i fam yn gwneud yn dda.”

Llwyddodd y cwpl i dreulio llawer o amser yn yr ysbyty gyda Hunter o ganlyniad i newid mewn cyfyngiadau ymweld.

Wrth sôn am y gofal a gafodd Hunter yn uned gofal dwys Singleton a'r feithrinfa gofal arbennig, dywedodd Jenna: “Roedden nhw'n wych a doedd dim byd yn ormod o drafferth. Roedd y staff a'r meddyg ymgynghorol i gyd mor dda. Rydym yn ffodus bod gennym gyfleusterau cystal yma.”