Dydd Llun 15 Awst 2022

Ar noswaith braf ar 23 Gorffennaf 2021, penderfynodd Mark Kempsell fynd ar reid ar ei feic modur i ogledd Cymru ar ôl iddo orffen ei waith.

Wrth iddo fwynhau'r reid a gwerthfawrogi'r golygfeydd, aeth taith Mark o chwith. Roedd ei feic modur yn rhan o ddamwain penben â thrỳc.

Taflwyd Mark tua 25 llath o leoliad y ddamwain a chafodd ei daro'n anymwybodol ar unwaith. Pan ddeffrodd ychydig yn ddiweddarach, nid oedd yn gwybod ble yr oedd nac ychwaith beth oedd wedi digwydd.

Dywedodd Mark, sy'n 29 oed erbyn hyn: “Roeddwn wedi fy amgylchynu gan sawl aelod o'r cyhoedd, ond gwnaeth un gŵr yn arbennig eistedd gyda mi am yr holl amser a gafael yn fy llaw. Matthew oedd ei enw, ac roedd yntau hefyd yn feiciwr modur a oedd wedi bod mewn damwain debyg tua 20 mlynedd yn ôl. Gwnaeth fy helpu i wneud synnwyr o bethau wrth i ni aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd.”

Cafodd Mark, o Newton-le-Willows, Glannau Mersi, ei drin gan feddygon yr Elusen ar ochr y ffordd cyn cael ei hedfan i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

Ymatebodd ymarferwyr gofal critigol Ambiwlans Awyr Cymru, Greg Ambler ac Adrian Evans, a'r Peilot Paul Cakebread, i'r alwad frys.  

Pan gyrhaeddodd y tîm, roedd Mark yn cwyno o boen i'w wddf a thop ei asgwrn cefn. Roedd ei goes chwith ar ongl o 90-gradd. Roedd ei goes dde hefyd wedi ei phlygu, a ni allai Mark ei sythu; gwyddai'r tîm meddygol felly y gallai fod toriad sylfaenol i'w glun a'i belfis.

Roedd Mark hefyd yn cwyno o boen i'w frest a'i abdomen. Roedd ganddo hefyd doriadau amlwg i'w fraich chwith.

Rhoddodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru feddyginiaethau fewnwythiennol cryf i Mark ger ochr y ffordd i leddfu ei boen. Roedd yn rhaid iddynt symud ei goes chwith yn ôl i'w safle cywir er mwyn cynnal llif gwaed digonol i'w goes. Yna gwnaethant ei gosod mewn sblint.

Rhoddwyd meddiginiaeth i Mark hefyd er mwyn helpu â'r gwaedu ac ysganfhau'r teimlad o taflu i fyny.

Dywedodd Mark: “Ond, oherwydd difrifoldeb fy anafiadau a'r lleoliad, roedd angen triniaeth frys arna i. Llwyddodd tîm meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i ddod â'r ysbyty ata i.

“Cefais driniaeth a chefais fy nghludo i'r ysbyty cyn pen dim. Heb yr ambiwlans awyr, dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi goroesi neu o leiaf byddai’r risg o anaf pellach wedi cynyddu’n aruthrol.”

Torrodd Mark saith asgwrn yn ei wddf, ei belfis, ei fraich, a'i arddwrn a thorrodd fertebra C2 yn ei gefn – anaf sydd fel arfer yn angheuol neu'n achosi parlys, a olygai fod angen i Mark gael triniaeth ar fyrder. Dioddefodd gleisiau difrifol hefyd.

Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, cafodd lawdriniaeth, ond yn anffodus roedd cymhlethdodau gan fod un o'r rhydwelïau yn ei wddf wedi torri.

Diolch byth, llwyddwyd i ddatrys hyn a threuliodd Mark ddau ddiwrnod mewn gofal critigol, a chafodd fynd adref o'r ysbyty ar ôl dim ond 13 diwrnod.

Ychwanegodd: “Ni fyddaf byth yn anghofio deffro ar y bore Sadwrn hwnnw, diwrnod ar ôl y ddamwain. Gorweddais yno a cheisio cofio beth oedd wedi digwydd. Nid oeddwn yn gwybod lle oeddwn i am ychydig eiliadau. Yna, pan sylweddolais, dechreuais roi'r darnau at ei gilydd, ac rwy'n cofio dweud wrthyf fy hun “ni fyddaf yn cael fy niffinio gan y digwyddiad hwn. Mae gennyf daith hir o'm blaen, ond byddaf yn dod drwyddi’.

“Dechreuais feddwl am yr holl bobl a achubodd fy mywyd, ac a wnaeth fy nhrin a'm helpu.”

Cafodd Mark ei ryddhau o'r ysbyty ar ei ben-blwydd i gartref ei dad a'i lysfam, lle bu'n gwella am y ddau fis nesaf. Ychwanegodd: “Roedd yn ben-blwydd ychydig bach yn wahanol, ond dyna'r anrheg gorau a gefais.”

Gwisgodd y Rheolwr Manwerthu Amaethyddol i Co-op ei esgidiau cerdded er mwyn cerdded i fyny'r Wyddfa flwyddyn i'r diwrnod ers ei ddamwain er mwyn codi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau.

“Pan oeddwn i yn yr ysbyty dechreuais ganolbwyntio ar sut y gallwn ddiolch i'r bobl wych hyn. Un bore clywais ambiwlans awyr yn glanio yn yr ysbyty a gwnaeth rhywbeth glicio. Roedd yn ddewis perffaith. Rwy'n credu bod Ambiwlans Awyr Cymru yn eithriadol o bwysig. Mae'n anhygoel y gall yr hofrennydd deithio i unrhyw ran o Gymru mewn ychydig funudau.

“O ystyried tirwedd Cymru, mae llawer o lefydd lle gall damweiniau ddigwydd sy'n anodd iawn i ambiwlans eu cyrraedd ar y ffordd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae amser yn hanfodol bwysig ac mae'r ffaith y gall yr ambiwlans awyr gyrraedd y claf o fewn ychydig funudau yn llythrennol yn golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”

Mae Mark yn gwella'n dda o'i anafiadau ac mae'n gwirfoddoli i'r Elusen erbyn hyn. Mae'r esgyrn a dorrodd wedi gwella, ac er bod ganddo ‘ffordd bell i fynd’ gyda'i fraich, mae'r meddygon yn hapus â'i gynnydd. Ychwanegodd: “Rwy'n dal i ddioddef lefelau uchel o boen ac yn cael trafferth cysgu, ond pan rwy'n meddwl am ba mor bell rwyf wedi dod, mae'n rhaid i mi fod yn ddiolchgar.”

Mae Hayley Whitehead-Wright yn nyrs cyswllt cleifion sy'n gweithio i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: “Llwyddodd y criw i roi meddyginiaethau i Mark i helpu gydag unrhyw waedu a lleddfu ei boen. O ganlyniad i anafiadau Mark, roedd yn rhaid iddynt symud ei goes chwith yn ôl i'w safle cywir er mwyn cynnal llif gwaed digonol. Unwaith roedd yn sefydlog, cafodd Mark ei hedfan i un o brif ganolfannau trawma'r wlad, a helpodd i achub ei fywyd. Cafodd Mark y gofal gorau posibl cyn cyrraedd y ganolfan trawma yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.”

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Mae'r gwasanaeth brys 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Er caiff yr hofrennydd a’r cerbyd ymateb cyflym eu hariannu gan bobl Cymru drwy roddion elusennol i Ambiwlans Awyr Cymru, caiff y gallu meddygol yn yr hofrenyddion ei ddarparumewn partneriaeth â GIG Cymru, sy’n darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol drwy’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).