Dydd Iau 17 Medi 2020

Mae pâr o Sir Gaerfyrddin wedi dangos eu gwerthfawrogiad i Ambiwlans Awyr Cymru i Blant ar ôl i'r elusen sy'n achub bywydau gludo eu 'llwyth gwerthfawr' adref o ysbyty ym Mryste.

Ganwyd babi Arwel Davies a Leah Evans, Ella, yn Ysbyty St Michael ym Mryste drwy doriad ceseriaidd a drefnwyd, ar ôl i sgan uwchsain arferol ddangos bod gan Ella gyflwr cynhenid prin ar y galon.

Cafodd Ella ei geni ar 5 Hydref sef diwrnod pen-blwydd ei mam-gu. Roedd yn pwyso 6pwys 2owns a threuliodd wyth wythnos yn yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol. Cafodd Ella ddiagnosis o'r cyflwr cardiaidd, Syndrom Scimitar, pan oedd yn dal yn y groth. Hefyd, cafodd ei geni â'i chalon ar ochr dde ei chorff ac roedd ganddi ffistwla tracheoesophageal, a oedd yn golygu na allai lyncu am nad oedd ei hoesoffagws wedi ffurfio’n gywir.

Ar ôl cael llawdriniaeth a threulio naw wythnos yn yr ysbyty ym Mryste, roedd Ella yn barod i gael ei symud i ysbyty yn agosach at ei chartref yn Cross Hands.

Roedd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i Blant wrth law i’w chludo am ei bod yn ffordd gyflymach a mwy diogel o deithio os byddai angen dargyfeirio. Nid oedd modd i rieni Ella ymuno â'u cyntaf-anedig yn yr ambiwlans awyr.

Roedd yr Ymarferydd Trosglwyddo Hofrenyddion Andrew Morris, y peilotiaid James Grenfell a Richard Axon, ynghyd â dau arbenigwr newyddenedigol o Ysbyty Singleton yn Abertawe yn yr hofrennydd.

Wrth sôn am y daith yn ôl i Gymru, dywedodd ei thad: "Dyna pryd y gwnaeth y tîm arbennig chwarae ei ran. Roeddem yn disgwyl y byddai Ella yn cael ei chludo mewn ambiwlans ffordd yn ôl i Gymru. Fodd bynnag, ar y bore roeddem yn gadael, cawsom wybod y byddai Ella yn teithio adref mewn ambiwlans awyr.

"Mae'n wasanaeth mor bwysig. Roedd gwybod y byddai'n cyrraedd adref mor gyflym yn rhoi gymaint o dawelwch meddwl i ni. Roeddwn i a Leah ychydig yn nerfus, gan fod ein llwyth bach gwerthfawr yn cael ei gludo adref hebddon ni. Fodd bynnag, rhoddodd y criw cyfeillgar dawelwch meddwl i ni – roedden ni’n gwybod ei bod mewn dwylo diogel."

Mae Ella yn gwneud yn dda iawn nawr, ond mae'n cael ymlediadau rheolaidd ar ei oesoffagws ym Mryste.

Dywedodd ei rhieni y bydd yn tyfu i fyny yn ymwybodol o'i thaith yn ôl i Gymru. Dywedodd Arwel: "Wrth iddi dyfu i fyny a dod yn fwy ymwybodol o bethau, byddwn yn sicr yn dweud wrthi am ei thaith arbennig adref yn yr hofrennydd, a byddwn yn ei hatgoffa o hynny bob tro y byddwn yn gweld un o'r hofrenyddion. Mae'r arth feddal a roddodd y criw iddi i'w hatgoffa o'i thaith ganddi o hyd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o'r elusen, sy'n darparu'r gofal arbenigol a'r cludiant sydd eu hangen ar gyfer cleifion pediatrig a newyddenedigol.

Mae'r elusen yn helpu tua 400 o blant a babanod y flwyddyn, naill ai drwy ymateb i alwadau brys 999 neu, fel Ella, drwy ddefnyddio ein hofrennydd trosglwyddo penodedig.