Dydd Iau 11 Hydref 2018

Dywedwyd wrth Mandy Draper, triathletwr lleol o Sir Benfro, na fyddai byth yn cerdded eto ar ôl cael ei tharo gan gar wrth seiclo adref ym mis Hydref 2016.

Cafodd Mandy ei chludo o’r ddamwain gan Ambiwlans Awyr Cymru, ond roedd mewn coma gydag anafiadau difrifol i’w phen, ei hysgyfaint a’i hasennau, ac yn ogystal â thorri ei harddwrn, roedd hefyd wedi torri ei chefn mewn dau le. Yn dilyn cymhlethdodau yn ystod llawdriniaeth, fe’i gosodwyd mewn coma a dywedwyd wrth ei theulu nad oedd llawer o obaith iddi oroesi. Gan gymryd un dydd ar y tro, dechreuodd Mandy ddangos arwyddion ei bod yn gwella a’i bod wedi llwyddo i droi cornel. Goroesedd y ddamwain gan fynd ymlaen i wneud adferiad syfrdanol.

Fisoedd yn unig ar ôl y ddamwain, roedd Mandy eisoes yn chwilio am her newydd a phenderfynodd ddechrau hyfforddi ar gyfer marathon, er y dywedwyd wrthi na fyddai byth yn rhedeg marathon eto.

Ers gadael yr ysbyty, mae Mandy wedi cwblhau Marathon Rhyngwladol Birmingham, Marathon Lanzarote a Marathon Cadbury yn Awstralia.

Dywedodd Mandy: “Rwy’n ddiolchgar am bob un diwrnod newydd a bydda i byth yn cymryd bywyd yn ganiataol eto.”

Yn driathletwr brwd a gwblhaodd Ironman Cymru ychydig ar ôl troi’n hanner can mlwydd oed, ychwanegodd Mandy: “Dywedodd y meddygon fy mod ond wedi goroesi oherwydd fy ffitrwydd eithafol. Doedden nhw byth wedi gweld neb yn goroesi dim byd tebyg.”

“Yn ffodus i mi, roedd pob dim wedi digwydd yn gyflym a dw i ond yn cofio'r car yn dod tuag ata i.”

“Cefais fy nghludo yn yr hofrennydd i Ysbyty Treforys ac fe welon nhw fy mod i wedi dioddef anafiadau dychrynllyd, gan gynnwys anaf difrifol i’m pen a’m hysgyfaint ac roedd fy asennau a’m harddwrn wedi’u torri. Roedd y bariau ar flaen y beic wedi mynd i mewn i’m morddwyd a bu bron iawn iddyn nhw daro’r brif wythïen.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Ambiwlans Awyr Cymru am ymateb mor gyflym ac i’r llawfeddygon am achub fy nghoes a thrwsio fy mraich a’m cefn – er nad oeddwn i’n cytuno â’r meddygon hynny a ddywedodd na fyddwn i’n rhedeg eto!

“Dw i wastad wedi bod yn optimistaidd. Dw i’n dal i gofio gobeithio mynd i weld fy mab y mis dilynol yn Awstralia gan nad oeddwn i wedi ei weld ers 9 mlynedd ac roeddwn i am dreulio’r Flwyddyn Newydd gydag ef. Ond ar ôl cael llawdriniaeth ar asgwrn fy nghefn, aeth pethau o ddrwg i waeth.

“Roeddwn i’n cael trafferth anadlu a chryn dipyn o boen yn fy mrest. Fe welon nhw wedyn fod sawl clot ar fy nghalon a’m hysgyfaint a chefais fy nhrosglwyddo i’r Uned Gofal Dwys, a’m gosod ar beiriant cynnal bywyd, gan dreulio sawl diwrnod yn ymladd am fy mywyd.

“Dywedodd y meddygon wrth fy nheulu nad oedd llawer o obaith y byddwn i’n goroesi gan fod yna gynifer o gymhlethdodau.”

“Mae hi wedi bod yn daith hir, boenus tuag at adferiad ac mae dal cryn bellter i fynd. Mewn gwirionedd, bu’n rhaid i mi gael llawdriniaeth arall ar fy mraich ond diolch i’m ffisiotherapydd a’m hasgwrn cefn titaniwm, rwy’n hapus i ddweud fy mod nôl yn rhedeg erbyn hyn.”

Mae Mandy yn dal i deithio i Abertawe am driniaeth ac yn dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ers y ddamwain.

Yn ddiweddar, cafodd Mandy gyfle i ddiolch i’r criw a’i hachubodd wrth ymweld â chanolfan awyr Ambiwlans Awyr Cymru yn Ne Cymru. Cyfarfu’r YGC Ben Seabourne a Dr Ian Bowler â Mandy, sydd eisoes wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau rhedeg ar gyfer 2018.

Ychwanegodd Mandy: “Bydda i byth yn anghofio'r hyn a ddywedodd fy llawfeddyg wrtha i – dw i wrth fy modd gyda stori lwyddiant.”