Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae'r adrannau codi arian a gweinyddu yn swyddfeydd yr elusen yn Llanelli, y Trallwng a Chaernarfon yn chwilio am gymorth. Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl sydd â sgiliau a phrofiadau gwahanol a hoffai ddatblygu a gweithio mewn tîm.

Gall rhai o'r rolau gynnwys:

  • Helpu'r swyddfa gyda thasgau gweinyddol.
  • Cofnodi data.
  • Creu taenlenni a llunio adroddiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG.
  • Anfon llythyrau a gohebiaeth.
  • Unrhyw ddyletswyddau swyddfa cyredinol eraill gan gynnwys sganio, rhwygo, eilio.
  • Mae'n bosibl y byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn meysydd eraill, gan gynnwys mynychu digwyddiadau neu weithgareddau eraill.

Beth y gallwn ei gynnig i chi?

  • Byddwch yn cael sesiwn sefydlu gychwynnol i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Bydd aelod o'r staff yn gweithredu fel eich cyswllt penodol a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag un o'n gwasanaethau awyr.
  • Byddwch yn cael eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans milltiroedd ar gyfer teithio i ddigwyddiadau.
  • Byddwch yn cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl.
  • Byddwch yn aelod o dîm gwych ac yn gwneud ffrindiau newydd.
  • Cewch ymdeimlad o falchder yn gwybod eich bod yn helpu i achub bywyd rhywun drwy roi o'ch amser.

Ymunwch  ni