Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae'r rôl hon yn cynnwys sicrhau bod y gwaith o redeg y gwasanaeth casglu a dosbarthu ar gyfer ein siopau elusen yn mynd rhagddo'n ddidrafferth. Byddwch yn gwneud hyn drwy weithio fel cynorthwyydd fan; ni fydd angen i chi yrru.

Mae’r rôl hon yn cynnwys:

  • Casglu a dosbarthu nwyddau rhodd yn eeithlon yn ôl y gofyn, gan ddilyn polisi a gweithdrefnau Ambiwlans Awyr Cymru.

  • Sicrhau y cai pob cwsmer a rhoddwr ei drin mewn modd cwrtais bob amser.

  • Symud nwyddau rhwng siopau'n eeithlon yn ôl y gofyn, a helpu sta y siopau drwy osod nwyddau mewn ardaloedd a nodwyd ar eu cyfer.

  • Sicrhau bod y cerbydau'n lân ac yn daclus bob amser.

  • Helpu gyrrwr y fan drwy ateb ei ôn drosto, cwblhau tasgau ar Ap Ambiwlans Awyr Cymru, cofnodi milltiroedd ac ati.

  • Cydymurfio â'n polisi a'n gweithdrefnau iechyd a diogelwch, nodi peryglon a chynnal asesiadau risg priodol yn ôl y gofyn.

  • Helpu mewn siopau neu yn y depo, ymgymryd ag unrhyw dasgau eraill ar gais rheolwr y siop/stordy.

Beth y gallwn ei gynnig i chi?

  • Byddwch yn cael sesiwn sefydlu gychwynnol i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Bydd aelod o'r staff yn gweithredu fel eich cyswllt penodol a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag un o'n gwasanaethau awyr.
  • Cewch eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans teithio.
  • Byddwch yn cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl.
  • Byddwch yn aelod o dîm gwych ac yn gwneud ffrindiau newydd.
  • Cewch ymdeimlad o falchder yn gwybod eich bod yn helpu i achub bywyd rhywun drwy roi o'ch amser.

YMUNWCH Â NI