Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Gyda siopau ledled Cymru gyfan, mae'r rôl berffaith yn barod ar eich cyfer. Dewch yn wirfoddolwr manwerthu, gan fwynhau amrywiaeth o weithgareddau:

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid da, megis gweithio'r til, ateb galwadau, aderbyn rhoddion.

  • Trefnu eitemau cyn eu prosesu.
  • Rhoi prisiau ar eitemau a stemio eitemau priodol cyn eu rhoi i'w gwerthu
  • yn y siop.
  • Helpu i farchnata nwyddau i hyrwyddo gwerthiant.
  • Rhoi cyngor ar gasgliadau dodrefn ac ati.
  • Cofrestru pobl ar gyfer Cymorth Rhodd pan fyddant yn rhoi eitemau.
  • Cadw'r siop yn lân, yn daclus ac wedi'i stocio'n dda.

"Byddwn yn argymell i unrhyw un wirfoddoli. Mae'n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd''

Sut y byddaf yn cael fy nghefnogi yn y rôl?

  • Byddwch yn cael sesiwn sefydlu gychwynnol i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Bydd aelod o'r staff yn gweithredu fel eich cyswllt penodol a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag un o'n gwasanaethau awyr.
  • Cewch eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans teithio.
  • Byddwch yn cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl.
  • Byddwch yn aelod o dîm gwych ac yn gwneud ffrindiau newydd.
  • Cewch ymdeimlad o falchder yn gwybod eich bod yn helpu i achub bywyd rhywun drwy roi o'ch amser.

Ymunwch  Ni