Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


P'un a ydych yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddefnyddio eich sgiliau presennol, mae rhywbeth i bawb.

Dywedir bod tua 20 miliwn o bobl yn gwirfoddoli yn y DU o leiaf unwaith y flwyddyn – gan gyfrannu tua £24 biliwn i'r economi.

Yn ôl adroddiad Cymdeithas Sifil y DU ar gyfer 2019 gwnaeth bron i bedwar o bob 10 person wirfoddoli'n ffurfiol yn 2017/18.

Fodd bynnag, roedd tua saith o'r 10 person a gymerodd ran yn yr arolwg 'Time Well Spent' wedi gwirfoddoli ar ryw adeg yn eu bywydau.

Pan fyddwch yn dewis gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru, byddwch yn dod yn rhan o dîm arbennig sy'n anelu at godi arian i sicrhau y gall ein pedwar hofrennydd coch barhau i hedfan ledled Cymru. P'un a ydych yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddefnyddio eich sgiliau presennol, mae rhywbeth i bawb.

.


Felly, sut mae pobl yn cael budd o wirfoddoli?

Yn amlwg, un o'r prif resymau pam bod pobl yn gwirfoddoli yw eu bod am gyfrannu at achos y maent wir yn credu ynddo. Drwy ymuno ag Ambiwlans Awyr Cymru, byddwch yn ymuno â band o wirfoddolwyr sydd yr un mor frwdfrydig am fod yn rhan o elusen mor bwysig.