Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Rydym yn gwerthfawrogi amser, ymdrech a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, a'r cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i'r gwaith o godi arian ar gyfer ein gwaith gwerthfawr sy'n achub bywydau.

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan o dîm ac yn gymuned, ac maent yn hollbwysig i'r gwaith rydym yn ei wneud. O helpu yn ein siopau i fynychu digwyddiadau a chasgliadau, mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i achub bywydau ledled Cymru. Yn syml, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaeth achub bywydau gwych hebddynt.

-


Pan fyddwch yn dewis gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru, byddwch yn dod yn rhan o dîm arbennig sy'n anelu at godi arian i sicrhau y gall ein pedwar hofrennydd barhau i hedfan ledled Cymru. P'un a ydych yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddefnyddio eich sgiliau, mae rhywbeth i bawb.

Caiff pob gwirfoddolwr bwynt cyswllt penodol a fydd yn rhoi cymorth ac arweiniad drwy gydol eich cyfnod fel gwirfoddolwr.

Mae pob math o fanteision yn gysylltiedig â bod yn wirfoddolwr, er enghraifft helpu eraill, gwneud ffrindiau newydd a gwella eich lles.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i gael y gorau o'ch profiad yn gwirfoddoli. O sesiynau sefydlu wrth ddechrau, hyfforddiant ar gyfer eich rôl, pwynt cyswllt os bydd angen help arnoch ar unrhyw adeg a'r posibilrwydd o ymweld ag un o'n canolfannau awyr.

Os ydych yn awyddus i ymuno â'r tîm arbennig hwn, hoffem glywed gennych. 

-


-

Rydym bob amser yn trin ein gwirfoddolwyr â pharch ac urddas ac yn sicrhau ein bod yn darparu fframwaith cadarn sy'n croesawu ac yn annog pobl i wirfoddoli gyda ni, ni waeth beth fo'u hoedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, ailbennu rhywedd, crefydd, ffydd, ethnigrwydd a chred. Rydym yn credu bod sylfaen o wirfoddolwyr amrywiol yn rhoi'r cyfle i ddysgu o safbwyntiau gwahanol.

Gallwch ddechrau gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru o 18 oed. P'un a ydych yn 18 neu'n 98, mae gan bob un o'n gwirfoddolwyr rywbeth yn gyffredin – maent wedi rhoi o'u hamser i helpu eraill.

-

"Mae gwirfoddoli yn y siop yn fy nghadw i'n brysur, ac mae'n fodd i mi wneud ffrindiau newydd. Mae'n werth chweil helpu achos mor wych." 

-


Pan fyddwch yn gwirfoddoli, byddwch yn dod yn rhan o dîm. Rydych yn cynnig eich amser, eich profiadau a'ch talentau yn gyfnewid am gyfeillgarwch, hyder, sgiliau newydd a'r boddhad o helpu eraill.

Mae gennym lawer o gyfleoedd gwirfoddoli sy'n cynnwys rhywbeth a fydd yn addas i bawb. Gallech helpu yn un o'n siopau, bod yn wyneb cyfeillgar yn un o'n digwyddiadau, rhoi cyflwyniadau i grwpiau cymdeithasol, yn ogystal â sawl posibilrwydd arall. I gael gwybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ar hyn o bryd, cliciwch yma.