Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr CymruMae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr. Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis. . . . "Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru. Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig. Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig." . . . Hafan Gwirfoddoli i AAC Ynglŷn â gwirfoddoli Mathau o Wirfoddoli Manteision Gwirfoddoli 20 ffordd o wirfoddoli yn 2020 Astudiaethau Achos Dod yn Wirfoddolwr Cyfleoedd sydd ar gael Cysylltwch â Ni Cais Gwirfoddoli Popeth sydd ei angen arnoch Blog Gwirfoddolwr Hysbysfwrdd Canolfan Adnoddau Cwestiynau Cyffredin Gwirfoddolwr Codi Arian a Digwyddiadau Os ydych yn chwilio am gyfle i gwrdd â phobl newydd neu gydweithio â'ch cymuned leol, gall rôl gwirfoddolwr codi arian fod yn berffaith i chi. Rôl ad hoc yw hon, sy'n golygu y byddwn yn cysylltu â chi pan fydd digwyddiadau neu gyfleoedd eraill yn eich ardal leol. Byddwn yn ceisio eich galw ar gyfer gweithgareddau sy'n berthnasol i'ch sgiliau, diddordebau ac arbenigedd. Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan, boed hynny'n annibynnol neu mewn digwyddiadau a gaiff eu trefnu gan yr elusen. Gallwch ddewis yr elfennau o'r rôl sydd fwyaf addas i'ch sgiliau a'ch argaeledd. Dyma rai o'r ffyrdd y gallech ddod yn llysgennad i'r brand: Mynychu digwyddiadau, megis sioeau amaethyddol, carnifalau, neu weithgareddau chwaraeon i gynrychioli'r elusen. Helpu i gasglu arian er mwyn codi arian hanfodol. Mynychu digwyddiadau cyflwyno sieciau neu gasglu rhoddion ar ran yr elusen. Casglu bwcedi casglu arian sy'n llawn a gosod rhai newydd yn eu lle yn eich ardal leol. Gwisgo un o'n gwisgoedd masgot er mwyn helpu i godi arian mewn digwyddiadau lleol. Rhoi cyflwyniadau byr i grwpiau neu ysgolion yn sôn am waith yr elusen. Beth y gallwn ei gynnig i chi? Byddwch yn cael sesiwn sefydlu gychwynnol i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd aelod o'r staff yn gweithredu fel eich cyswllt penodol a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag un o'n gwasanaethau awyr. Cewch eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans teithio. Byddwch yn cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl. Byddwch yn aelod o dîm gwych ac yn gwneud ffrindiau newydd. Cewch ymdeimlad o falchder yn gwybod eich bod yn helpu i achub bywyd rhywun drwy roi o'ch amser. Ymunwch â ni Manage Cookie Preferences