Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Lleolir y rôl hon yn ein safle manwerthu prysur yng Nghwm-du, Abertawe, sy'n cynnwys depo sy'n gysylltiedig â siop.

Mae'r rôl yn cynnwys:

  • Helpu cwsmeriaid sydd wedi rhoi eitemau yn ein Canolfan Gollwng Rhoddion, gosod eitemau yn yr adran gywir a gwrthod eitemau na ellir eu gwerthu os oes angen.

  • Trefnu eitemau rhodd (gan gynnwys dillad, llyfrau, trugareddau) yn rhai y gellir eu gwerthu a rhai i'w hailgylchu, gan sicrhau eu bod yn barod i gael eu gosod ar werth, yn lân ac yn gweithio.

  • Cewch sesiynau sefydlu ar sut i gofrestru rhoddwyr ar gyfer Cymorth Rhodd a byddwch yn gyfrifol am gofrestru rhoddwyr ar gyfer y cynllun, gan brosesu eu heitemau a chadw cofnod o roddion.
  • Defnyddio system gyfrifiadurol i brosesu rhoddion Cymorth Rhodd.
  • Yn gyredinol, helpu gyda'r gwaith o dacluso'r stordy a helpu ag unrhyw dasgau ar gais tîm y stordy.
  • Cyflawni pob cyfrifoldeb iechyd a diogelwch bob amser.

Beth y gallwn ei gynnig i chi?

  • Byddwch yn cael sesiwn sefydlu gychwynnol i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Bydd aelod o'r staff yn gweithredu fel eich cyswllt penodol a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag un o'n gwasanaethau awyr.
  • Cewch eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans teithio.
  • Byddwch yn cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl.
  • Byddwch yn aelod o dîm gwych ac yn gwneud ffrindiau newydd.
  • Cewch ymdeimlad o falchder yn gwybod eich bod yn helpu i achub bywyd rhywun drwy roi o'ch amser.

YMUNWCH Â NI