Pam y dylwn wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru? Expand Mae yna sawl rheswm dros ddewis gwirfoddoli ar ein rhan. Mae'r mwyafrif o’n gwirfoddolwyr yn ymuno â ni am fod ein helusen wedi effeithio arnynt a’u bod yn adnabod rhywun y bu angen ein help arno, felly maent yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl. Mae rhai eraill am gwrdd â phobl newydd, meithrin sgiliau a phrofiad newydd, a chefnogi eu cymuned leol. Beth bynnag fo’ch rheswm, byddem wrth ein bodd eich croesawu i’r tîm.
A oes angen profiad arnaf? Expand P'un a oes gennych brofiad ai peidio, rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i rôl wirfoddol sy'n iawn i chi. Cyhyd â'ch bod yn frwdfrydig ac yn barod i helpu, byddem wrth ein bodd eich croesawu i’r tîm.
Beth yw’r isafswm oedran ar gyfer gwirfoddoli? Expand Er mwyn gwirfoddoli gyda ni, rhaid eich bod yn 18 oed o leiaf.
Faint o amser y mae angen i mi ei roi? Expand Eich dewis chi yn llwyr yw hynny. P'un a ydych yn dymuno gwirfoddoli awr yr wythnos mewn digwyddiad, neu weithio ugain awr yr wythnos yn un o’n siopau elusen, rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallwch ei roi. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ei fod yn brofiad pleserus a gwerth chweil.
A fyddaf yn derbyn hyfforddiant? Expand Byddwch yn cael rhaglen sefydlu a hyfforddiant ar gyfer eich rôl yn ogystal â gwahoddiad i ddod i sesiwn Sefydlu Corfforaethol a all gynnwys ymweliad ag un o'n canolfannau awyr.
A fyddaf yn cael fy ad-dalu am dreuliau? Expand Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddi-dâl; fodd bynnag, byddwn yn ad-dalu costau teithio a chynhaliaeth ein gwirfoddolwr fel y nodir yn y polisi gwirfoddoli.
A fydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arnaf? Expand Mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer rhai rolau gwirfoddoli.
A fydd gwirfoddoli yn effeithio ar fy mudd-daliadau? Expand I sawl person, mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu sgiliau a chael profiadau newydd neu i ychwanegu at eich CV, yn enwedig os ydych yn chwilio am waith. Ni fydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith, ar yr amod eich bod yn chwilio am waith.
Mae gennyf anabledd, a allaf wirfoddoli o hyd? Expand Gallwch, mae rôl sy'n addas i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, gan gynnwys y rheini sy'n byw ag anabledd.
A oes angen canolwyr arnaf? Expand Oes, bydd angen i chi nodi manylion dau ganolwr wrth gwblhau eich ffurflen gais. Rhaid iddynt fod yn 18 oed o leiaf ac ni allant fod yn unigolion sy'n perthyn i chi. Rhaid i bob canolwr fod yn barod i roi geirda a bod yn ymwybodol y byddwn o bosibl yn cysylltu â nhw.
Beth os oes gennyf gollfarn droseddol? Expand Caiff pob cais ei ystyried. Rhaid i chi ddatgelu unrhyw gollfarnau troseddol heb eu disbyddu, ond ni fydd hyn o reidrwydd yn eich atal rhag gwirfoddoli gyda ni.
A allaf wneud cais am fwy nag un rôl? Expand Wrth gwrs. Gallwch wneud cais am sawl rôl a chymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau gwirfoddoli, er enghraifft gwirfoddoli yn un o'n siopau a chasglu arian mewn bwcedi.
Os byddaf yn dechrau rôl ond na fyddaf yn ei hoffi, a allaf newid rôl? Expand Yn bendant, os byddwch am roi cynnig ar rywbeth gwahanol, e-bostiwch ein cydlynydd gwirfoddoli a all drafod opsiynau eraill â chi - [email protected].